Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munud

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma wythfed bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


Ar y dudalen hon:

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Y cefndir

Cynlluniau i ddiwygio

Ein barn ni

Cynnwys yr Adroddiad

 


 

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Y cefndir

153. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer y bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy'n cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ("Deddf 1983") yn anghymesur, a bod eu profiad a'u canlyniadau o gael eu cadw yn waeth. Mae pobl awtistig a phobl ag anabledd dysgu wedi cael eu cadw'n amhriodol hefyd. Gall hyn atal rhai cymunedau sydd ar gyrion cymdeithas neu rai cymunedau sy’n cael eu diffinio gan eu hil rhag ceisio cymorth iechyd meddwl:

 

“Marginalised young people express fears that health professionals are no different to the police and they won’t be safe if they engage. Mental health services need to be actively anti-racist—taking proactive steps to combat and reverse ingrained patterns of oppression and injustice towards racialised communities.”[214]

 

154. Dywedodd Andy Bell y gellir defnyddio dulliau plismona gwahanol gyda grwpiau neu gymunedau gwahanol ar sail oedran neu gefndir ethnig. Nododd gynnydd yn yr achosion o bobl yn cael eu cadw o dan Ddeddf 1983, a gallai hyn waethygu trawma ac anghydraddoldebau presennol:

 

“…the more we see the use of coercion in the mental health system, the more people are detained under the Mental Health Act 1983, which sadly is rising year after year after year, we know that can do harm long term. It may be necessary to save a life, but potentially those experiences of coercion can reinforce some of those traumatic experiences people have been through, and we know that's used unequally. So, if you are from an African or Caribbean background, you're something like four times more likely than a white person to be subject to the mental health Act, and there's something deeply, deeply wrong about that”.[215]

 

155. Disgrifiodd Llamau ddigwyddiad lle’r oedd nifer o blismyn a sawl cerbyd wedi ymateb i berson ifanc a oedd yn bygwth lladd ei hun. Roedd hyn wedi dychryn y person ifanc a heb helpu gyda’i argyfwng iechyd meddwl.[216] Yn yr un modd, dywedodd Life Warriors, grŵp cymorth therapiwtig dan ofal cymheiriaid ar gyfer pobl â diagnosis o ‘anhwylder personoliaeth’, neu sy’n uniaethu â nodweddion yr anhwylder, wrthym:

 

“[The police] are most often first responders to someone in mental health crisis, so do need those specialist skills to remain person centred at times where people need help the most. “In moments of crisis, I am vulnerable and frightened, yet I am thrown in the back of a van and treated like a criminal, not explaining where we are or where we are going”. “If they understood us, they would be much kinder than they are”.[217]

 

156. Tynnodd rhanddeiliaid eraill sylw hefyd at yr angen i swyddogion yr heddlu gael yr hyfforddiant cywir i ymdrin yn briodol â phobl (gan gynnwys plant a phobl ifanc) sy’n profi problemau neu argyfyngau iechyd meddwl, gan gynnwys hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac atal hunanladdiad.[218]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Cynlluniau i ddiwygio

157. Yn dilyn adolygiad annibynnol o Ddeddf 1983 yn 2018,[219] cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn yn 2021[220] a Bil Iechyd Meddwl drafft ym mis Mehefin 2022.[221] Mae'r diwygiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • Sicrhau mwy o ddewis ac ymreolaeth i gleifion sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
  • Mynd i'r afael â gwahaniaethau hiliol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn well.
  • Sicrhau gofal priodol i bobl sydd â salwch meddwl difrifol yn y system cyfiawnder troseddol.

 

158. Mae Senedd y DU wedi sefydlu cyd-bwyllgor i graffu ar y Bil drafft. Gwnaethom ysgrifennu at y cyd-bwyllgor i dynnu sylw at y dystiolaeth rydym wedi ei chasglu, ac i bwysleisio pwysigrwydd ystyried y gwahanol gyd-destunau deddfwriaethol a pholisi mewn perthynas ag iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth a chraffu arni, ac wrth ei gweithredu, er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn ategu yn hytrach na chymhlethu’r fframwaith deddfwriaeth a pholisi cyfredol yng Nghymru.[222]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

159. Mae'n annerbyniol bod unrhyw un yn cael ei gadw'n amhriodol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a hyd yn oed yn fwy annerbyniol bod rhai grwpiau a chymunedau yn wynebu risg anghymesur. Mae'n niweidio ac yn trawmateiddio'r unigolion sy'n cael eu cadw’n amhriodol, yn niweidio ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac yn atal eraill o'r un grwpiau neu gymunedau rhag ceisio cymorth a chefnogaeth.

Argymhelliad 26

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throsedd a'r heddluoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i wella mynediad ar gyfer swyddogion heddlu at hyfforddiant parhaus mewn ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, atal hunanladdiad, ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, ymwybyddiaeth o anableddau dysgu, a chymhwysedd diwylliannol. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.

160. Rydym yn nodi bod y Nodiadau Esboniadol a gyhoeddwyd gyda'r Bil drafft yn dweud bod Llywodraethau'r DU a Chymru yn trafod y cynigion deddfwriaethol, gyda'r mwyafrif ohonynt yn berthnasol i Gymru ac felly byddent yn ymgysylltu â'r broses gydsynio ddeddfwriaethol pe bai'r Bil yn cael ei gyflwyno ar ei ffurf bresennol.[223] Byddem yn rhagweld y byddai unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei gyfeirio atom er mwyn i ni graffu arno.

Argymhelliad 27

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Iechyd Meddwl drafft. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a yw'n cefnogi bwriad Llywodraeth y DU i ddeddfu ym maes iechyd meddwl, sy’n faes datganoledig, manylion y dadansoddiad a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn llywio ei barn ar y mater hwn, a gwybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y gwahanol gyd-destunau deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth a chynllunio ar gyfer ei gweithredu.

 

 

Nôl i dop y dudalen

 


 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

Cyfeiriadau

[214] MHI80 Y Ganolfan Iechyd Meddwl

[215]Cofnod y Trafodion [paragraffau 162 a 176], 24 Mawrth 2022

[216] MHI56 Llamau

[217] MHI17 Life Warriors

[218] Er enghraifft, MHI35 Barnardo's Cymru, MHI75 DPJ Foundation

[219] Llywodraeth y DU, Independent report: Modernising the Mental Health Act – final report from the independent review, Rhagfyr 2018

[220] Llywodraeth y DU, Consultation outcome: Reforming the Mental Health Act, 24 Awst 2021

[221]Llywodraeth y DU, Policy paper: Draft Mental Health Bill, 27 Mehefin 2022

[222] Llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar y Bil Iechyd Meddwl Drafft, 11 Hydref 2022

[223] Llywodraeth y DU, Draft Mental Health Bill: explanatory notes, Gorffennaf 2022