Y gweithlu

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munud

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma chweched bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


 

Ar y dudalen hon

Y gweithlu

Cynllunio’r gweithlu

Pa mor gynrychioliadol yw’r gweithlu

Recriwtio, cadw, a llesiant

Ymwybyddiaeth a hyfforddiant

Ein barn ni

Cynnwys yr adroddiad

 


 

Y gweithlu

Cynllunio’r gweithlu

117. Mae staff iechyd meddwl arbenigol yn rhan bwysig o'r darlun, ond mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yn golygu bod rhaid edrych ar y gweithlu yn ei ystyr ehangaf, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, tai, gwasanaethau cyhoeddus, a'r sectorau cymunedol a gwirfoddol. Dywedodd cyfranogwyr yn ein grwpiau ffocws ar y gweithlu wrthym am y potensial i rolau eraill gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel therapyddion iaith a lleferydd a therapyddion galwedigaethol. Awgrymwyd ganddynt y gallai mwy o gynrychiolaeth i broffesiynau perthynol i iechyd mewn swyddi arwain lywio datblygiad llwybrau a gwasanaethau mwy effeithiol.[169]

118. Rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2022, bu AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymgynghori ar gynllun drafft y gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Tynnodd sylw at heriau recriwtio, lefelau uchel o swyddi gwag a llwythi gwaith sy’n cynyddu, a'r angen i dyfu'r gweithlu iechyd meddwl i gadw i fyny â'r galw a mynd i'r afael â diffygion mewn proffesiynau allweddol yn y gweithlu arbenigol.[170] Yn ôl Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd, mae'r gweithlu'n gyfle gwirioneddol i ailfodelu'r ddarpariaeth bresennol a chreu gwasanaethau cynaliadwy sy'n sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael cymorth iechyd meddwl priodol.[171]

119. Cyhoeddwyd y cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Tachwedd 2022.[172] Wrth roi tystiolaeth i ni ym mis Medi 2022, cyn i'r cynllun gael ei gyhoeddi, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ei bod yn ddogfen gynhwysfawr iawn a thrawiadol. Dywedodd ei bod yn nodi bod angen gwaith i fynd i'r afael â phwysau ar unwaith yn ogystal â chynllunio mwy hirdymor ar gyfer gweithlu iechyd meddwl y dyfodol, gan gynnwys y gwahanol fathau o rolau y gallai fod eu hangen a’r cyfle i gynnwys y gweithlu ehangach i raddau mwy gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl.[173] Eglurodd Tracey Breheny, dirprwy gyfarwyddwr iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a grwpiau bregus Llywodraeth Cymru, fod AaGIC a GCC wedi graddio elfennau o'r cynllun fel rhai "rhaid gwneud/gellid gwneud" ac wedi nodi’r costau cysylltiedig.[174] Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant nad oedd hi'n gallu cadarnhau y byddai digon o adnoddau ariannol ar gael i alluogi gweithredu pob elfen o'r cynllun, gan fod trafodaethau cyllidebol o fewn Llywodraeth Cymru yn parhau.[175]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Pa mor gynrychioliadol yw’r gweithlu

120. Mae nifer o'r rhai a gyfrannodd at ein gwaith wedi awgrymu nad yw'r gweithlu iechyd meddwl, a'r gweithlu iechyd ehangach, yn ddigon cynrychioliadol o'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu. Awgrymodd ein grŵp cynghori mai un ffordd o fynd i'r afael â hyn fyddai darparu hyfforddiant a chymorth i bobl niwrowahanol i'w helpu i ymuno â’r gweithlu iechyd meddwl.

121. Cydnabu’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant nad yw'r gweithlu yn ddigon cynrychioliadol. Dywedodd wrthym y byddai cynllun gweithlu a fframwaith hyfforddi AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, ynghyd â chynllun gweithredu gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru, yn helpu i wneud y gweithlu iechyd meddwl a'r gweithlu iechyd yn fwy cynrychioliadol.[176] Mae'r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol yn cynnwys ymrwymiad i wella data am amrywiaeth y gweithlu iechyd meddwl, gan gynnwys yr wybodaeth i’w chasglu drwy arolwg ehangach o staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn dweud y bydd gweithredu'r cynllun:

"...yn adlewyrchu'r cynlluniau cydraddoldeb strategol a gaiff eu datblygu trwy arweinyddiaeth gynhwysol a thosturiol gan sicrhau bod yna ffocws clir ar ymgysylltu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau i bobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol-economaidd, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu’r un nodweddion gwarchodedig, a’r rhai sydd ddim".[177]

 

122. Yn yr un modd, mae cyd-strategaeth gweithlu AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020 yn disgrifio uchelgais ar gyfer "gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, yr iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol", yn ogystal â chanolbwyntio ar "arferion cyflogaeth heb ei ail gyda ffocws clir ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, llais y gweithwyr a chynrychiolaeth ar y cyd".[178]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Recriwtio, cadw, a llesiant

123. Roedd yna broblemau recriwtio a chadw staff yn y gweithlu iechyd meddwl cyn y pandemig COVID-19, ond mae mwy a mwy staff yn profi lludded ac mae denu staff i hyfforddi a gweithio ym maes iechyd meddwl yn heriol. Canlyniad hyn yw prinder staff, yn cynnwys staff arbenigol megis seiciatreg yr henoed[179] a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.[180] Dywedodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru fod angen cyllid a staff yn druenus ar wasanaethau CAMHS yng Nghymru, ac y dylid dyrannu staff ac adnoddau yn deg ar draws Cymru i sicrhau nad oes gennym anghysondeb rhanbarthol o ran mynediad a chanlyniadau iechyd meddwl.[181] Ychwanegodd fod angen gwneud mwy i ddenu pobl i weithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, ac awgrymodd y gallai hyn gynnwys cyfleoedd gweithio hyblyg neu o bell, a'i gwneud yn haws i bobl broffesiynol sydd wedi ymddeol neu bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ddychwelyd i'r gwaith.[182]

124. Galwodd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru am fuddsoddiad yn y gweithlu gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a phresgripsiynwyr cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Awgrymodd y gallai fferyllwyr cymunedol chwarae mwy o rôl wrth gefnogi pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl ar lefel is.[183] Yn yr un modd, disgrifiodd Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, sy'n cynrychioli'r proffesiynau cwnsela, ei haelodau fel rhai sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel ond eto nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn, gan nodi bod ei harolwg gweithlu diweddar wedi nodi bod gan ei haelodau gapasiti ychwanegol sydd gyfwerth â bron i 10,000 o oriau cleient yr wythnos.[184]

125. Croesawyd ymdrechion i recriwtio a hyfforddi mwy o staff, ond pwysleisiodd nifer o'r rhai a gyfrannodd at ein gwaith bwysigrwydd cadw staff a rôl llesiant staff yn hyn o beth. Dywedodd Dr Julie Keely fod nifer o bobl yn gadael y gweithlu o ganlyniad i salwch corfforol neu feddyliol, yn ogystal ag effaith bersonol a phroffesiynol pwysau COVID-19.[185] Pwysleisiodd cyfranogwyr ein grŵp ffocws y gweithlu fod llawer o bethau cadarnhaol am weithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, ond amlygodd hefyd yr amgylchedd gwaith heriol, a thrawmatig weithiau, yn ogystal â ffactorau eraill gan gynnwys costau byw uwch a phroblemau gyda strwythurau cyflog:

"O ran anghenion iechyd meddwl a llesiant y gweithlu ei hun. Rwy'n meddwl bod llawer ohono'n stwff eithaf syml. Cyflog teg ac amodau gwaith gweddus. Mae gan wasanaethau penodol fel gwasanaethau cwnsela a llesiant eu lle, ond ni ddylent gael eu defnyddio fel plastr ar glwyf i wneud yn iawn am beidio â chael gweithle sy'n gweithredu’n dda ac sy'n cael ei gefnogi'n dda. Dydi o ddim yn beth da anfon rhywun sy’n gweithio mewn amgylchedd gwaith gwenwynig i wasanaeth cwnsela".[186]

 

126. Mae cynllun gweithlu iechyd meddwl AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn tynnu sylw at yr effaith y gall gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig gwasanaethau acíwt ac arbenigol, ei chael ar lesiant staff, er enghraifft wrth ddelio ag achosion o hunanladdiad, dynladdiad, neu gwestau crwner.[187] Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y ffocws cryf ar lesiant yng nghynllun y gweithlu, ac ychwanegodd fod llesiant y gweithlu eisoes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhaglenni fel Canopi, Cymru Iach yn Gweithio, ac Amser i Newid.[188]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ymwybyddiaeth a hyfforddiant

127. Mae'r angen am fwy o ymwybyddiaeth o gydraddoldeb a hyfforddiant iechyd meddwl ymhlith staff rheng flaen ar draws gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei amlygu'n gyson. Er enghraifft, nododd Cymorth Cymru y gallai pobl sy'n ddigartref ac yn profi argyfwng iechyd meddwl fod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r heddlu, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion tai yn hytrach na meddygon teulu neu wasanaethau iechyd meddwl. Rhybuddiodd, oni bai bod gwasanaethau'n cael eu hyfforddi i ymateb i drawma neu argyfyngau iechyd meddwl, y gallai pobl gael eu hanwybyddu neu eu cadw a allai oedi neu atal mynediad at driniaeth a chymorth iechyd meddwl.[189]

128. Yn benodol, nodwyd bod meddygon teulu yn grŵp proffesiynol allweddol lle mae angen gwell ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewn perthynas â materion iechyd meddwl a chydraddoldeb. Yn aml, meddygon teulu yw'r pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n profi problem iechyd meddwl, neu sy'n mynychu gwasanaethau meddygon teulu ar gyfer materion iechyd corfforol ond a allai fod â phroblemau iechyd meddwl cudd sy'n dod i’r amlwg fel symptomau corfforol.[190] Clywsom dystiolaeth fod pobl hŷn a phobl o gymunedau sy’n cael eu diffinio yn ôl eu hil yn llai tebygol o gael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl gan eu meddyg teulu. Nododd cyfranogwyr yn ein grwpiau ffocws profiad byw rwystrau penodol wrth geisio cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gyda'r cyfranogwyr yn tynnu sylw at ddiffyg dealltwriaeth neu hyfforddiant ar gyfer staff y dderbynfa a staff rheng flaen eraill mewn meddygfeydd, yn ogystal â diffyg hyfforddiant i’r meddygon teulu eu hunain:[191]

“Mae cyrraedd y rheng flaen at feddygon teulu yn anodd. Mae mynd heibio'r
derbynnydd neu’r staff rheng flaen mor anodd. Staff rheng flaen nad ydynt yn gallu cyfathrebu â chi ac mae hynny'n arbennig o gyffredin gyda phobl awtistig.”[192]

 

129. Roedd y problemau eraill yn cynnwys:

  • Dim digon o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwroamrywiaeth ymhlith y gweithlu gofal iechyd a'r gweithlu ehangach gan gynnwys ysgolion. Yn ogystal â hyfforddiant cyffredinol, efallai y bydd angen hyfforddiant penodol i rôl, er enghraifft ar gyfer staff addysgu. Dywedodd pobl niwrowahanol wrthym y dylai'r ffocws fod ar:

"...sut i gefnogi a helpu pobl, a dylai ddatblygu agweddau a diwylliannau cadarnhaol, adeiladol a chymwynasgar. Er enghraifft, gallai gynnwys sut i gyfathrebu’n effeithiol, pa iaith a therminoleg sy’n briodol, sut i addasu neu deilwra gwasanaethau a chymorth i ddiwallu anghenion niwroamrywiol, a sut i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn galluogi pobl niwroamrywiol yn hytrach na’u ‘hanalluogi’”.[193]

  • Mae angen hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i roi gwell dealltwriaeth i glinigwyr ac eraill sy'n gweithio gyda phobl anabl o'u hanghenion (h.y. nid hyfforddiant am gyflyrau yn unig).
  • Diffyg ymwybyddiaeth neu gymhwysedd diwylliannol ymhlith y gweithlu iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd eraill a gweithlu'r gwasanaeth cyhoeddus.
  • Angen mwy o ddealltwriaeth o drawma, a gweithredu dulliau ystyriol o drawma. Gallai dulliau o'r fath fod o fudd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd i leoliadau eraill fel gwasanaethau brys ac yn y system cyfiawnder troseddol.
  • Bylchau hyfforddi o ran iechyd meddwl ac anghenion eraill grwpiau neu gymunedau penodol, gan gynnwys pobl hŷn, pobl â nam ar y synhwyrau, pobl sy'n cael diagnosis o anhwylderau personoliaeth, gofalwyr di-dâl, a phobl sy'n profi galar. Nodwyd bylchau hefyd mewn perthynas â phroblemau iechyd menywod ac ymwybyddiaeth o atal hunanladdiad.

130. Roedd cynrychiolwyr y gweithlu yn cydnabod bod angen hyfforddiant, ond disgrifiwyd pwysau'r gweithlu a diffyg amser wedi’i neilltuo i ymgymryd â hyfforddiant ganddynt fel rhwystrau sylweddol.[194] Meddai Lisa Turnbull o'r Coleg Nyrsio Brenhinol:

"Very often, there is excellent education available on, say, learning disabilities and dementia or specific cultural issues or linguistic issues, and people know that they're in need of it and want to access it. But if you're talking about coming home after a 12 or 14-hour shift and then you've got caring responsibilities, when precisely are we expecting people to do this? So, once again, it's a really high expectation on these people, and yet not necessarily rewarded or recognised or given the opportunity to actually reach that level, just criticised when they don't."[195]

 

131. Roedd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol yn hyn o beth, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bynciau a meysydd ffocws craidd i'n holl arweinwyr. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Diverse Cymru a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr bod hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol ar gael. Fodd bynnag, dywedodd fod sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i staff ymgymryd â hyfforddiant yn fater i gyflogwyr.[196]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

132. Roedd yna broblemau recriwtio, cadw a bylchau hyfforddi yn y gweithlu iechyd meddwl a'r gweithlu ehangach cyn y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, maent wedi gwaethygu, ac mae staff yn profi mwy o ludded yn ogystal ag effaith costau byw cynyddol. Mae angen cymryd camau pellach i wella a chynnal llesiant staff, gan gynnwys mwy o ffocws ar ddiwylliant yn y gweithle ac achosion ehangach llesiant meddyliol gwael ymhlith y gweithlu. I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu'r ffocws ar lesiant y gweithlu yng nghynllun y gweithlu iechyd meddwl, a chadarnhad y Dirprwy Weinidog fod llesiant y gweithlu'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

133. Fel gyda’r holl gynlluniau, bydd yr effaith yn y gweithredu. Yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol efallai y bydd dewisiadau anodd i'w gwneud er mwyn cydbwyso mynd i'r afael â phwysau dybryd ar y gweithlu gyda datblygu gweithlu iechyd meddwl sy’n addas i’r dyfodol ac sydd â'r adnoddau priodol i ddiwallu anghenion amrywiol unigolion.

Argymhelliad 17

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru nodi sut, gan weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, y bydd yn monitro effaith y camau gweithredu yng nghynllun y gweithlu iechyd meddwl sydd â'r nod o wella llesiant staff. Dylai ymrwymo hefyd i gyhoeddi adroddiadau blynyddol sy’n nodi a yw’r camau gweithredu yn y cynllun yn cael yr effaith fwriadedig, ac os na, beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol. Dylai’r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi dim hwyrach na Rhagfyr 2023.

Argymhelliad 18

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24, dylai gadarnhau pa rai o'r camau sydd yng nghynllun y gweithlu iechyd meddwl y dyrannwyd cyllid llawn iddynt, pa rai y dyrannwyd cyllid rhannol iddynt, a pha rai sydd heb gael cyllid wedi’i ddyrannu iddynt o gwbl. Dylai hefyd roi manylion pa gamau sy'n cael eu hariannu'n rhannol neu sydd heb eu hariannu a fydd yn cael blaenoriaeth pe bai cyllid pellach ar gael.

134. Mae angen i ni ddatblygu capasiti’r gweithlu iechyd meddwl a’r gweithlu gwasanaethau cyhoeddus ehangach er mwyn diwallu anghenion cymunedau amrywiol yn fwy effeithiol. Bydd hyn yn gofyn am weithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'n well y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gwell ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb, a chael gwared ar rwystrau sy'n atal staff rhag cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi.

Argymhelliad 19

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phobl niwrowahanol i gydgynhyrchu ymgyrchoedd hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth er mwyn cynyddu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth mewn ysgolion ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Dylai ffocws yr hyfforddiant fod ar ddeall bywydau pobl niwrowahanol, sut i'w cefnogi a'u helpu, a datblygu agweddau a diwylliant cadarnhaol, adeiladol a chymwynasgar, ac nid ar gyflyrau penodol yn unig. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.

135. Rydym hefyd yn cytuno â'n grŵp cynghori y dylid darparu hyfforddiant a chymorth i bobl sydd â phrofiad byw er mwyn eu galluogi i ymuno â'r gweithlu iechyd meddwl. Dylai hyn gynnwys pobl niwrowahanol, yn ogystal â grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu.

Argymhelliad 20

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr arolwg o’r gweithlu sydd i’w gynnal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o gynllun y gweithlu iechyd meddwl yn cael ei gynnal ar fyrder, a dim hwyrach na mis Gorffennaf 2023. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda grwpiau a chymunedau y nodwyd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu ar ôl dadansoddi’r data amrywiaeth a gasglwyd drwy’r arolwg, a chyda phobl niwrowahanol, i lunio a chyflwyno rhaglen fentora a chymorth i'w helpu i ymuno â'r gweithlu iechyd meddwl. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.

 

Nôl i dop y dudalen

 


 

 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

Cyfeiriadau

 

[169] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: crynodeb ymgysylltu: gweithlu, Medi 2022

[170] Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, Ymgynghoriad ar gynllun ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn iechyd a gofal cymdeithasol [fel ar Awst 2022]

[171] MHI83 Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd

[172] Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Tachwedd, 2022

[173] Cofnod y Trafodion [paragraffau 87-88], 28 Medi 2022

[174] Cofnod y Trafodion [paragraff 97], 28 Medi 2022

[175] Cofnod y Trafodion [paragraffau 87 a 94], 28 Medi 2022

[176] Cofnod y Trafodion [paragraff 57], 28 Medi 2022

[177] Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Tachwedd 2022

[178] Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, Strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Hydref 2020

[179] Cofnod y Trafodion [paragraff 320], 24 Mawrth 2022

[180] Cofnod y Trafodion [paragraff 322], 24 Mawrth 2022

[181] MHI54 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru

[182] MHI54 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

[183] MHI96 Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (Cymru)

[184] MHI25 Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain

[185] Cofnod y Trafodion [paragraff 12], 6 Gorffennaf 2022

[186] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: crynodeb ymgysylltu: gweithlu, Medi 2022

[187] Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Tachwedd 2022

[188] Cofnod y Trafodion [paragraffau 103-105], 28 Medi 2022

[189] MHI89 Cymorth Cymru

[190] MHI28 Heddluoedd Cymru: ymateb ar y cyd

[191] MHI54 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru, MHI80 Y Ganolfan Iechyd Meddwl

[192] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, Mawrth 2022

[193] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafodaeth â rhanddeiliaid, 8 Mehefin 2022

[194] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: crynodeb ymgysylltu: gweithlu, Medi 2022

[195] Cofnod y Trafodion [paragraff 71], 6 Gorffennaf 2022

[196] Cofnod y Trafodion [paragraff 101], 28 Medi 2022