Cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei sefydlu gan y Senedd i drafod materion a nodir o dan Reol Sefydlog 22, yn enwedig unrhyw gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am adolygu’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, y canllawiau ar y cod a’r gweithdrefnau cwyno, ynghyd â’r rheolau ar gyfer lobïo.
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Cylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.
Eilyddion y Pwyllgor
Aelodau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw:
- Hannah Blythyn AS (Cadeirydd) - etholwyd ar 17 Medi 2024
- Mick Antoniw AS - etholwyd ar 24 Medi 2024
- Samuel Kurtz AS – etholwyd ar 17 Gorffennaf 2024
- Peredur Owen Griffiths AS – etholwyd ar 30 Mawrth 2022
Pan nad oes modd i Aelod weithredu ar fater sy’n ymwneud ag adroddiad gan y Comisiynydd, caiff eilydd weithredu (yn unol a’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 22.5). Eilyddion y Pwyllgor yw:
- Rhianon Passmore AS – etholwyd ar 7 Gorffennaf 2021
- Rhun ap Iorwerth AS – etholwyd ar 7 Gorffennaf 2021
- John Griffiths AS - etholwyd ar 24 Medi 2024
- Sam Rowlands AS – etholwyd ar 30 Mawrth 2022