A yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn barod ar gyfer cam nesaf datganoli? – yw cwestiwn un o'i bwyllgorau

Cyhoeddwyd 19/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2015

 

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn a yw'r Cynulliad yn barod ar gyfer cam nesaf datganoli.

Mewn adroddiad newydd, mae wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Gomisiwn y Cynulliad - y corff corfforaethol sy'n gyfrifol am ddarparu pethau fel swyddfeydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, gwasanaethau cefnogi gan gynnwys cyngor cyfreithiol ac ymchwil, a staff clercio pwyllgorau – ynglŷn â pha waith y mae wedi'i wneud i baratoi ar gyfer y pwerau cyllidol a deddfwriaethol newydd y disgwylir iddynt gael eu datganoli yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn ystyried cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ble y mae wedi gofyn am gynnydd, mewn termau arian parod, o £1.1 miliwn - yn codi o £50.9 miliwn, yn 2015-16, i £52 miliwn.

Gofynnwyd am daliad untro ychwanegol o £2.5 miliwn hefyd i dalu costau sy'n gysylltiedig ag etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae angen £15.5 miliwn arall i weithredu'r argymhellion o ran cyflogau a threuliau Aelodau'r Cynulliad, a nodwyd gan y Bwrdd Taliadau annibynnol.

Wrth gefnogi dull gweithredu'r Comisiwn, roedd aelodau'r Pwyllgor Cyllid hefyd eisiau eglurder ynghylch yr hyn fydd yn digwydd i unrhyw arian dros ben nad yw'n cael ei ddefnyddio gan Aelodau'r Cynulliad.

Cydnabu'r Pwyllgor hefyd y cynnydd a wnaed o ran gwasanaethau TGCh ers iddynt gael eu darparu'n fewnol yn hytrach na chan gontractwr allanol, ond argymhellodd y dylid adolygu materion sy'n gysylltiedig â gwefan y Cynulliad fel mater o flaenoriaeth.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad. Caiff cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ei thrafod yn ystod cyfarfod o'r Cynulliad Cenedlaethol llawn fis nesaf.

Adroddiad: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwny Cynulliad 2016-2017

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid.

Rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Cynulliad.