Amrywiaeth yn yr ystafell fwrdd - economegydd blaenllaw yn annerch digwyddiad #POWiPL

Cyhoeddwyd 17/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2015

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Sylvia Ann Hewlett, economegydd ac awdur adnabyddus a anwyd yng Nghymru, i'r Pierhead ar 19 Mawrth.

Bydd Ms Hewlett yn annerch cynulleidfa ar y thema "Gwerth cael menywod mewn swyddi uchel", cyn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa.

Trefnwyd y sesiwn hon fel rhan o ymgyrch y Llywydd: Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus (#POWiPL), sydd â'r nod o annog mwy o fenywod yng Nghymru i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn ynadon, cynghorwyr, cyfreithwyr, llywodraethwyr ysgol neu drwy anelu at gael eu penodi ar fyrddau.

Yn ganolog i'r ymgyrch y mae awydd y Llywydd i sicrhau modelau rôl cryf i fenywod o fenywod eraill sydd wedi llwyddo mewn meysydd y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol.  Gwneir hyn drwy gyfres o brif ddarlithoedd yn y Pierhead.

Dywedodd Ms Hewlett, "Mae menywod mewn swyddi pwysig yn hynod o werthfawr.

"Mae fy ngwaith ymchwil yn dangos bod sefydliadau sy'n ystyriol o rywedd o amgylch byrddau gwneud penderfyniadau yn llawer mwy tebygol o ddatgloi arloesedd a hybu twf."

Bydd thema'r digwyddiad yn canolbwyntio ar sut y gall ystafell fwrdd amrywiol fod o fudd i fusnes neu sefydliad, a sut y gall cyflogwyr oresgyn y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu yn y gweithle.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, "Mae'n wych gallu croesawu Sylvia Ann Hewlett i siarad â ni am yr heriau y mae menywod yn eu hwynebu yn yr ystafell fwrdd.

"Mae hi'n dangos bod menywod yn gallu bod yn arweinwyr mewn meysydd sy'n draddodiadol wedi'u harwain gan ddynion.

"Dyna pam y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trefnu'r gyfres hon o ddigwyddiadau lle bydd menywod blaenllaw yn rhannu eu profiadau a chynnig atebion, efallai, i gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu menywod mewn bywyd cyhoeddus.

"Ond nid dyna'r cyfan rydym wedi'i wneud.  Fel rhan o fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, rwyf wedi lansio Porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, sef cyfleuster cyngor ar-lein i fenywod sydd â diddordeb mewn cael swydd gyhoeddus, a chynllun datblygu i gynnig cyfleoedd mentora, hyfforddi a chysgodi i fenywod."

Gellir gweld y porth drwy'r linc canlynol: Porth Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus neu drwy Twitter @WomenofWales.

Gellir gwylio fideo esboniadol drwy glicio yma

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar ôl ar gyfer y digwyddiad. Gallwch drefnu lle drwy anfon e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru neu ffonio 0300 200 6565.