Annog y Cynulliad i edrych y tu hwnt i gyfryngau confensiynol i gyrraedd pobl yng Nghymru - Tasglu Digidol yn lansio'r adroddiad "Creu Deialog Ddigidol"

Cyhoeddwyd 21/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/09/2022   |   Amser darllen munudau

​Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol edrych y tu hwnt i'r cyfryngau tameidiog yng Nghymru i gyfathrebu ei waith yn well i gynulleidfa ehangach a mynd i'r afael â'r diffyg gwybodaeth ddemocrataidd, yn ôl adroddiad y Tasglu Newyddion Digidol a Gwybodaeth, a gyhoeddwyd heddiw. 

Mae'r adroddiad yn annog y Cynulliad i arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill i ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl Cymru. Mae'n argymell rhoi pobl, yn hytrach na'r sefydliad a'i phrosesau wrth galon straeon newyddion amserol wrth iddo geisio cynyddu ei ymgysylltiad â dinasyddion.

Dan gadeiryddiaeth Leighton Andrews, Athro Ymarfer mewn Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus ac Arloesedd gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, mae'r Tasglu hefyd yn argymell:

  • bod y Cynulliad yn ailystyried ei hun yn grëwr cynnwys, ac yn gwthio cynnwys yn uniongyrchol i'r llwyfannau y mae cynulleidfaoedd eisoes yn eu defnyddio
  • dylunio'r holl gyfathrebu gyda'r defnyddiwr yn ganolbwynt iddo, gan gymryd pob cyfle i ystyried effaith gwaith y Cynulliad ar bobl Cymru wrth egluro busnes, strwythurau neu lunio polisïau y Cynulliad
  • rhagdybiaeth o Ddata Agored, fel y gall pobl eraill ddefnyddio, ailddefnyddio ac ailddosbarthu data'r Cynulliad am ddim
  • darparu mynediad agored i adnoddau'r Cynulliad ar gyfer addysgu drwy gyfrwng llwyfan Hwb, sy'n cael ei defnyddio gan dros hanner miliwn o bobl ifanc, a phob ysgol yng Nghymru

Dywedodd Leighton Andrews:

"Mae'r rhain yn gynigion radical i ddefnyddio cyfathrebu digidol modern i ddeall yn well yr hyn y mae pobl yn ei feddwl ac yn poeni amdano, i ymgysylltu mewn amser real gyda phobl a rhannu gyda nhw sut y mae eu cynrychiolwyr yn ymateb i'r materion hyn. Dwi eisiau dweud diolch i’r aelodau o’r Tasglu Newyddion Digidol a Gwybodaeth am ein gwaith.  

"Mae'n rhaid i Aelodau'r Cynulliad a staff gydnabod eu rôl fel crewyr cynnwys, a  gweld y Cynulliad fel llwyfan cynnwys a ddylai adlewyrchu sgyrsiau'r genedl am y materion sydd o'r pryder mwyaf iddo. 

"Mae'r Cynulliad wedi gwneud llawer i gofleidio cyfathrebu digidol, ond mewn oes lle mae niferoedd cynyddol o bobl yn edrych i gyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion, a ffynonellau cyfryngau traddodiadol yn darparu llai o ddeunydd gwleidyddol nag erioed, rhaid i'r Cynulliad roi i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu gynnwys difyr, a gyflwynir mewn fformatau y maent yn dymuno eu defnyddio."

Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Hoffwn ddiolch i banel y Tasglu Newyddion Digidol a Gwybodaetham eu gwaith.  Maent wedi rhoi cynigion ymarferol i ni sy'n procio'r meddwl, i gryfhau'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu wrth i ni geisio dod yn senedd agored, ddigidol sy'n ymgysylltu â holl bobl Cymru."

"Rydym yn nesáu at ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad, sy'n gyfle i adnewyddu'r ffordd y mae'r Cynulliad yn cyflwyno ei hun, ac adeiladu deialog ddofn a dilys gyda phobl Cymru. Edrychaf ymlaen at drafod yr adroddiad, a sut yr ydym yn ei symud ymlaen, gyda Chomisiynwyr y Cynulliad."

Darllen yr adroddiad llawn:

CREU DEIALOG DDIGIDOL: Sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio dulliau digidol i ymgysylltu’n fuddiol ac yn ystyrlon â phobl Cymru (PDF, 3.1 MB)