Bil newydd â'r nod o gael Ombwdsmon mwy ymatebol sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd

Cyhoeddwyd 02/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2017

Cyflwynwyd Bil newydd a allai ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gwneud y rôl yn fwy ymatebol i bobl Cymru.

Nod Bil arfaethedig yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yw ei gwneud hi'n haws i bobl wneud cwynion trwy ddileu'r angen i wneud cwynion ffurfiol, ysgrifenedig.

Byddai hefyd yn golygu y gallai'r Ombwdsmon gynnal ymchwiliadau heb iddo gael cwyn ffurfiol - ffactor a allai helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas sy'n teimlo na allant godi eu llais.

Cyflwynwyd y Bil gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad. Dyma'r tro cyntaf i bwyllgor gyflwyno deddfwriaeth o'r fath, a'r nod yw sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn y dull o ymdrin â chwynion.

Bydd yn ehangu pwerau'r Ombwdsmon yng Nghymru, gan roi'r gallu iddo, am y tro cyntaf, ymchwilio i ddarparwyr gofal iechyd preifat pan fo cleifion wedi comisiynu'r driniaeth ochr yn ochr â'r hyn a ddarperir gan y GIG. Ar hyn o bryd, rhaid iddynt wneud dwy gŵyn ar wahân, i ddau gorff gwahanol.

Meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru swyddogaeth hollbwysig, yn cynrychioli pobl Cymru pan fyddant wedi cael gwasanaeth gwael neu wedi cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus.

"Fel Pwyllgor, rydym am i'r swyddogaeth hon gael ei chryfhau, bod yn fwy ymatebol a chanolbwyntio ar y dinesydd.

"Mae cael gwared ar y rheidrwydd i wneud cwyn ysgrifenedig ffurfiol yn gam syml tuag at gyflawni hyn, a bydd yn caniatáu i'r bobl fwy agored i niwed mewn cymdeithas ymgysylltu â swyddfa'r Ombwdsmon a gwneud cwynion pan fo angen.

"Mae'n hanfodol caniatáu i'r Ombwdsmon ymchwilio'r gŵyn gyfan, pan fo claf wedi cael cyfuniad o wasanaethau iechyd cyhoeddus a phreifat, er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn dilyn y dinesydd, nid y sector."

Bydd y Bil yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad yn ystod cam cyntaf y broses ddeddfu.

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Caiff hefyd ymchwilio i gwynion bod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod.  Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob un o gyrff y llywodraeth.

 


Rhagor o wybodaeth:

 

Darllenwch am gefndir y Bil (PDF, 1 MB)

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (PDF, 344 KB)