Bydd Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ei hun, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 25/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn edrych yn fanwl ar y mater yn ei adroddiad blynyddol cyntaf erioed ar newid hinsawdd.

Yn ei Strategaeth Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd yn 2010, nododd Llywodraeth Cymru ei tharged o dri y cant y flwyddyn ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, a chyda gostyngiad o 40 y cant o leiaf erbyn 2020.

Rhoddwyd tri rheswm i’r Pwyllgor am y methiant, sef, Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd, gwneuthuriad economaidd Cymru a phatrymau tywydd.

Ond daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai’r newidynnau hyn fod wedi’u hystyried pan ddatblygwyd y polisïau a phan bennwyd y targedau.

Cynghorir Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu newydd, a gaiff ei fframio gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, sydd wedi argymell ei bod yn gosod targedau newydd, is yn y tymor byr.

Mae pwyllgor y Cynulliad o’r farn bod hyn yn ofid, ond yn gam angenrheidiol o ystyried y diffyg cynnydd gan Lywodraeth Cymru.

Dysgodd yr Aelodau hefyd nad oedd lefel yr ymgysylltiad o ran newid yn yr hinsawdd yn ddigonol yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, a bod diffyg cydweithio ar draws gwahanol adrannau.

Er y gall Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd fod yn rheswm dros fethu â chyrraedd y targedau allyriadau, mae’r Pwyllgor yn nodi nad oes arwydd o hyd bod cynllun newydd i gymryd ei le ar ôl i’r DU adael yr UE. Daw’r Pwyllgor i’r casgliad bod angen rhagor o ymdeimlad o frys wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: "Roedd targedau Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy.

"Mae’r ffaith y bydd y Llywodraeth yn methu â chyrraedd y targedau hyn o dipyn yn siomedig iawn, ac nid yw’r Pwyllgor wedi ei argyhoeddi gan rywfaint o’r rhesymeg sy’n sail i’r methiant.

"Credwn fod angen dull gweithredu llawer mwy cydlynol ar draws adrannau’r llywodraeth os yw Cymru i ddod yn genedl fwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.

"Yn y tymor byr, rydym yn derbyn barn Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei thargedau a’u gostwng.

"Rydym wedi gwneud llawer o argymhellion yn ein hadroddiad ynglŷn ag amaethyddiaeth, coedwigaeth, tai a thrafnidiaeth, y credwn a fydd yn sicrhau y bydd gweinidogion yn cyflawni eu hymrwymiadau a’u rhwymedigaethau o ran newid yn yr hinsawdd."

 

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (PDF, 1 MB)