Cadeiryddion Pwyllgorau wedi'u hethol

Cyhoeddwyd 29/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2016

​Mae Cadeiryddion pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u hethol.

Dyma'r tro cyntaf i Gadeiryddion pwyllgorau gael eu dewis yn y ffordd hon ar ôl i'r Cynulliad dderbyn cynigion y Pwyllgor Busnes i fabwysiadu system newydd ar gyfer ethol Cadeiryddion.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Mae penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ganiatáu pleidlais gudd i ethol Cadeiryddion y Cynulliad yn cyd-fynd â'm haddewid fel Llywydd i ddiogelu buddiannau holl Aelodau'r Cynulliad a'u trin yn gyfartal.

"Rwy'n credu bod y drefn hon yn sicrhau system mwy agored a thryloyw ar gyfer y pwyllgorau, ac mae'n fwy atebol i'r Cynulliad cyfan, gan fod pob Aelod Cynulliad bellach yn cael lleisio barn ynglŷn â phwy ddylai fod yn Gadeiryddion.  

"Rwy'n falch i'r Aelodau gefnogi'r cynnig ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r holl Gadeiryddion wrth iddynt ddechrau eu gwaith o graffu ar ddeddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif."

Mae'r canlynol wedi'u hethol yn Gadeiryddion pwyllgorau. Penderfynir ar aelodau'r pwyllgorau yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Gorffennaf:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Lynne Neagle AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Mark Reckless AC

Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Bethan Jenkins AC

Plaid Cymru

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Russell George AC

Ceidwadwyr Cymreig

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

John Griffiths AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dr Dai Lloyd AC

Plaid Cymru

Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

David Rees AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Huw Irranca-Davies AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Deisebau

Mike Hedges AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Ann Jones AC

Dirprwy Lywydd y Cynulliad

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Jayne Bryant AC

Llafur Cymru

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Nick Ramsay AC

Ceidwadwyr Cymreig

Y Pwyllgor Cyllid

Simon Thomas AC

Plaid Cymru

 

Dyma brif nodweddion y gweithdrefnau newydd ar gyfer ethol cadeiryddion:

  • Yn y Cyfarfod Llawn, bydd y Cynulliad yn cytuno ar ba swyddi cadeirio i'w dyrannu i ba grwpiau gwleidyddol.

  • Yna, yn y Cyfarfod Llawn, caiff Aelod enwebu Aelod arall o'i grŵp i fod yn Gadeirydd un o'r pwyllgorau sydd wedi'u dyrannu i grŵp y blaid honno (bydd angen i'r enwebiad gael ei eilio gan Aelod arall o'r grŵp os oes mwy nag 20 Aelod yn y grŵp).

  • Os bydd mwy nag un enwebiad ar gyfer swydd gadeirio, neu os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad unigol yn y Cyfarfod Llawn, cynhelir pleidlais gudd, gan ddefnyddio system o bleidleisio drwy ddewis enwau yn nhrefn blaenoriaeth.

  • Ar ôl ethol y Cadeiryddion, bydd y Cynulliad yn cytuno ar weddill aelodau'r pwyllgorau.

  • Ni fydd modd diswyddo Cadeirydd oni bai bod mwyafrif aelodau pwyllgor, yn cynnwys Aelodau o fwy nag un grŵp gwleidyddol, yn pleidleisio i wneud hynny, a bydd eu penderfyniad yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.