Cawcws Menywod mewn Democratiaeth – camau pendant tuag at gynrychiolaeth gyfartal

Cyhoeddwyd 11/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2015

​Mae'r Cawcws Menywod mewn Democratiaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad gyda chyfres o argymhellion i fynd i'r afael â'r prinder menywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Sefydlwyd y grŵp trawsbleidiol o aelodau'r Cynulliad gan y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, fel rhan o'i  hymgyrch #POWiPL- Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus.

Y Fonesig Rosemary sy'n cadeirio'r Cawcws a'r aelodau eraill yw Joyce Watson AC (o fis Medi 2014 ymlaen), Antoinette Sandbach AC, Jocelyn Davies AC, Eluned Parrott AC a Rebecca Evans AC (Ionawr – Awst 2014).

Mae deg o argymhellion ac mae'r Cawcws yn credu y byddant yn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu menywod o ran llenwi swyddi gyhoeddus.

"Mae llai o fenywod na dynion mewn bywyd cyhoeddus, er mai menywod yw dros hanner y boblogaeth," dywedodd y Llywydd.

"Nid yw lleisiau menywod yn cael eu clywed ac mae ein safbwyntiau'n cael eu hanwybyddu, felly rwyf yn gweithio i fynd i'r afael â'r angen i ragor o fenywod ymgeisio am swyddi a phenodiadau cyhoeddus.

"Mae'r ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yn ceisio sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n deg ar bob lefel o fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac mae'r cawcws trawsbleidiol Menywod mewn Democratiaeth yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw.

"Rydym wedi amlinellu nifer o gamau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem, ac mae'n bwysig nodi eu bod yn cael cefnogaeth o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol."

Dyma'r deg argymhelliad a wnaeth y Cawcws:

  • Byddai'r Cawcws yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu grantiau neu gontractau mawr i sefydliadau os nad oes menywod ar eu bwrdd (mae grantiau a chontractau mawr yn golygu grantiau a chontractau gwerth  dros £250,000);
  • Byddai'r Llywydd yn gofyn am adroddiad cynnydd gan arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ar y camau y maent wedi'u cymryd i sicrhau bod rhagor o fenywod yn Aelodau o'r pumed Cynulliad;
  • Byddai'r Cawcws yn gwahodd y Bwrdd Taliadau i ystyried gofynion bugeiliol penodol yr Aelodau, yn enwedig y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu;
  • Byddai pob aelod o'r Cawcws yn annog eu grwpiau plaid i fabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio mwy ar sgiliau ac sy'n seiliedig ar egwyddorion cyffredinol recriwtio teg er mwyn annog amrywiaeth ehangach o fenywod i ymgeisio mewn etholiadau;
  • Dylai'r Cynulliad ystyried rhoi cymorth a hyfforddiant un i un penodol i fenywod sy'n dychwelyd fel Aelodau o'r pumed Cynulliad, neu a gaiff eu hethol am y tro cyntaf;
  • Byddai'r Cawcws yn gweithio gyda darlledwyr Cymru i sicrhau ein bod yn gweld mwy o fenywod 'arbenigol' ar raglenni teledu a radio;
  • Byddai'r Cawcws yn annog y grŵp trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi i gynnwys annog menywod i sefyll mewn etholiadau fel rhan o'i raglen waith;
  • Byddai aelodau'r Cawcws, gyda chymorth ysgrifenyddiaeth y Cawcws ac ymgyrchoedd ymgysylltu ehangach y Cynulliad,  yn chwilio am gyfleoedd i gymryd camau pendant i ysgogi trafodaeth gyhoeddus ac i dynnu sylw at gynrychiolaeth menywod. 

Caiff adroddiad y Cawcws Menywod mewn Democratiaeth yn y Cynulliad ei lansio yn  Oriel y Senedd am 12.00 ar 11 Mawrth.

Paratowyd yr adroddiad i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth).

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cynnal digwyddiadau eraill gan gynnwys trafodaeth gan banel o ddynion yn unig, ar 12 Mawrth, yn y Pierhead, ynglŷn â sut y gall dynion fod yn rhan o'r frwydr i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Ar y panel fydd:

  • Neil Wooding (Cadeirydd) – Cyfarwyddwr Gallu a Pherfformiad Sefydliadol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol;
  • Carl Sergeant AC – Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol;
  • Roger Lewis – Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru; a
  • Chris Green – Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Ymgyrch y Rhuban Gwyn i atal trais yn erbyn menywod

Mae'r digwyddiadau'n ddi-dâl ac yn agored i'r cyhoedd.

I neilltuo lle yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565.  Cofiwch nodi'n glir pa ddigwyddiadau yr hoffech fod yn bresennol ynddynt.