Bydd ymchwiliad newydd yn edrych ar ba mor effeithiol yw'r cymorth a roddir i bobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi yng Nghymru.
Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried 'Rhaglen Cefnogi Pobl' Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig arian grant i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu, problemau iechyd meddwl, a phobl ifanc sydd ag anghenion cymorth.
Darperir gwasanaethau naill ai drwy awdurdodau lleol, neu drwy ddarparwyr trydydd parti, er enghraifft elusennau.
Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn cefnogi tua 67,000 o bobl ledled Cymru ac mae cyllideb o bron £125 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen ym mlwyddyn ariannol 2016-17. Fodd bynnag, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion ei chynlluniau cyllidebol yn ddiweddar, mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch sut y bydd cyllid Cefnogi Pobl yn cael ei reoli yn y dyfodol a chaiff hynny ei ystyried fel rhan o waith y Pwyllgor.
Canfu adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni fod anghysondeb o ran y cymorth a ddarperir mewn gwahanol rannau o'r wlad, a hynny'n rhannol am fod yr arweiniad gan Lywodraeth Cymru yn annigonol.
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, "Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau sy’n sicr o fod yn werthfawr i bobl sy'n agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylchiadau gwahanol.
“Fodd bynnag, mae cyflymder y cynnydd yn bryder ac mae'n siomedig nad oes gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth ddigon da o hyd o effaith gyffredinol y Rhaglen rhyw bedair blynedd ar ddeg ers ei lansiad cychwynnol.
“Byddwn yn edrych ar sut y mae'r rhaglen yn datblygu i ddiwallu anghenion rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sut y mae bron £125 miliwn yn cael ei wario, a sut y mae effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn a'r holl arian hwnnw'n cael ei fonitro.”
Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y we. Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2017.
Hoffem ni clywed gennych chi.
Cyfrannwch at ein hymgynghoriad ar y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru.