Coronafeirws: Y diweddaraf ynghylch newidiadau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 25/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Wrth i’r wlad ddod i arfer â threfn bywyd tra gwahanol o dan y cyfyngiadau i rwystro lledu haint Coronafeirws, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi newid y modd y mae'n gweithio ac mae cyfres o ddarpariaethau brys wedi'u rhoi ar waith fel bod busnes hanfodol sy'n ymwneud â COVID-19 yn gallu parhau.

Yn y dyfodol agos, mi fydd “Senedd frys” yn cymryd lle'r Cyfarfod Llawn, a fydd yn llai o faint ac yn cynnwys llai o Aelodau. Y grwpiau gwleidyddol a’r Aelodau annibynnol fydd yn penderfynu pwy fydd yn mynychu.

Os bydd angen, cynhelir y cyfarfodydd hyn ar ddydd Mawrth a byddant yn cynnwys datganiadau gan y Prif Weinidog a chyfle i Aelodau'r wrthbleidiau ofyn cwestiynau.

Os bydd sefyllfa COVID-19 yn newid, rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau fod modd i'r Cynulliad addasu.  

Mae’r Rheolau Sefydlog wedi cael eu diwygio fel mai dim ond pedwar Aelod Cynulliad fydd eu hangen i bleidleisiau mewn Cyfarfodydd Llawn fod yn ddilys ac fe all cyfarfodydd fel hyn gael eu cynnal ar-lein trwy fideo-gynadledda.

Ac fe gyhoeddwyd eisoes fod y Cynulliad wedi enwebu Cadeirydd Dros Dro ar gyfer y Cyfarfod Llawn, a Llywydd Dros Dro dynodedig a all weithredu yn absenoldeb y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

Mi fydd y Cynulliad a staff y Commission yn parhau i adolygu’r sefyllfa ac yn ymateb i’r canllawiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.