Dim cynllun cadarn i drawsnewid gwasanaethau iechyd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2016

Mae'n ymddangos nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynllun cadarn i drawsnewid gwasanaethau iechyd, er iddi neilltuo bron i hanner ei chyllideb i GIG Cymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn archwilio cynigion y Llywodraeth ar gyfer gwario ei chyllideb o £16 biliwn yn 2016-17.

Daeth aelodau'r Pwyllgor i'r casgliad nad oeddent wedi gweld digon o dystiolaeth i ddangos y bydd y cynnydd arfaethedig o £245 miliwn (neu £132 miliwn mewn termau real) mewn gwariant ar iechyd, i bron £7 biliwn, yn arwain at ddiwygio a gwella gwasanaethau, yn hytrach nag ariannu aneffeithlonrwydd neu wneud iawn am orwario.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld gwasanaethau anstatudol ar gyfer llywodraeth leol yn parhau - fel canolfannau hamdden, parciau a llyfrgelloedd - gan ei fod yn credu eu bod yn cyfrannu'n sylweddol at yr amcan ehangach o sicrhau bod poblogaeth Cymru yn iachach, gan ganolbwyntio mwy ar atal salwch nag ar ei drin.

Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â chynnig i dorri £41 miliwn oddi ar yr arian sydd ar gael i Addysg Uwch. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai hyn yn cael effaith ar ymchwil, lleoedd rhan-amser i fyfyrwyr, a myfyrwyr sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai'r dyraniad arfaethedig gyfyngu ar fynediad yn hytrach na'i ehangu, ac mae wedi gofyn am ei adolygu.

Amlygwyd ei bod yn ymddangos nad yw pethau'n symud yn eu blaenau o ran cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi. Tynnwyd sylw hefyd at yr effaith y gallai dyraniadau'r gyllideb ei chael ar ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n ceisio cael gafael ar gymorth arbenigol ym maes cam-drin domestig a digartrefedd. Mae'r Pwyllgor am weld gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu.

"Un o'n prif ystyriaethau eleni fu'r cynnig i ddyrannu bron i hanner cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru i iechyd," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Er nad ydym yn amau bod angen y dyraniadau i iechyd, mae'n peri pryder inni o hyd ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw gynllun pendant ar gyfer trawsnewid y gwasanaeth iechyd er mwyn sicrhau y rhoddir y pwyslais ar les a byw'n iach. 

"Rhaid gofalu peidio â bychanu manteision gwasanaethau llywodraeth leol fel canolfannau hamdden, parciau a llyfrgelloedd, o ran sicrhau poblogaeth iach.  Rydym yn gweld y math hwn o gyfleusterau'n chwarae rhan sylfaenol o ran cefnogi iechyd y genedl. 

"Roedd yn amlwg y bydd gostyngiad yn y cyllid ar gyfer Addysg Uwch yn lleihau'r gallu i roi blaenoriaeth i ehangu mynediad, ac y bydd yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'n rhan-amser, neu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

"Yn ogystal, fel Pwyllgor roeddem yn pryderu ynghylch sut y byddai'r toriadau hyn yn effeithio ar lefel ac ansawdd yr ymchwil sy'n cael ei gyflawni gan brifysgolion Cymru."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddull sy'n amlwg yn gefnogol lle mae angen trawsnewid gwasanaethau a lle mae'r GIG yn ceisio hynny
  • Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ymgymryd â gwaith i gyfyngu ar effaith y toriadau mewn meysydd gwasanaeth anstatudol mewn llywodraeth leol; a
  • Dylid ailystyried dyraniadau i Addysg Uwch.

Bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru nawr yn cael ei drafod gan y Cynulliad Cenedlaethol llawn yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mawrth 9 Chwefror.

Addroddiad: Y Pwyllgor Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 (PDF, 1MB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid.