Dirprwyaeth o’r Cynulliad yn nodi 150 mlwyddiant dyfodiad yr ymsefydlwyr Cymreig cyntaf ym Mhatagonia

Cyhoeddwyd 02/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/11/2015

Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad ym Mhatagonia i ddathlu 150 o flynyddoedd ers dyfodiad yr ymfudwyr Cymreig cyntaf.

Roedd y ddirprwyaeth, sy'n cynnwys Rhodri Glyn Thomas AC a Sandy Mewies AC, Comisiynwyr y Cynulliad, yn bresennol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys perfformiadau gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Roeddent hefyd wedi ymweld ag Ysgol yr Hendre, yr ysgol ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg swyddogol gyntaf ym Mhatagonia.  Cyfarfu'r Llywydd â disgyblion o'r ysgol pan oeddent yn ymweld â'r Senedd ym mis Mai eleni.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae'n fraint cael fy ngwahodd i Batagonia i nodi 150 mlynedd ers i'r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd yr Ariannin.

"Rhwymir Cymru a Phatagonia gan draddodiad a hanes a chan berthynas unigryw, sydd wedi cryfhau'n sylweddol ers inni ddathlu'r canmlwyddiant ym 1965.

"Mae ffocws ein hymweliad yn un diwylliannol, ac mae'n canolbwyntio ar gwlwm unigryw'r iaith Gymraeg, yr ydym yn ei ddathlu â chyfres o ddigwyddiadau diwylliannol a pherfformiad gala gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru yn uchafbwynt iddi.

"Yn bersonol, bu'n wych cael cwrdd â phobl ifanc o Ysgol yr Hendre unwaith eto, yn dilyn eu hymweliad â'r Senedd yn gynharach eleni. 

"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ddechrau perthynas agosach fyth rhwng Cymru a'r cymunedau Cymreig ym Mhatagonia."

Eleni, nodir 150 mlwyddiant yr ymsefydlwyr Cymreig yn cyrraedd Patagonia.

Dechreuodd yr anheddu parhaol yn Nyffryn Camwy a'r ardaloedd cyfagos ar 27 Gorffennaf, 1865 pan gyrhaeddodd 153 o ymfudwyr Cymreig ar fwrdd llong y Mimosa, a fu'n cario te unwaith.

Erbyn hyn mae oddeutu 50,000 o Batagonia sydd o dras Gymreig, gan gynnwys y disgyblion o Ysgol yr Hendre.

Dywedodd Catrin Morris, athrawes yn Ysgol yr Hendre: "Ym mis Mai a mis Mehefin eleni, aeth criw o Ysgol yr Hendre ar ymweliad â Chymru i gymryd rhan mewn digwyddiadau i goffáu 150 mlwyddiant y Wladfa, sef y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

"Roedd y plant ysgol yn ddigon ffodus i ymweld â'r Senedd ac i gwrdd â'r Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, i sgwrsio â hi ac i ganu iddi.

"Felly mae'n bleser o'r mwyaf i ni yn Ysgol yr Hendre, Trelew, i estyn yr un croeso yma iddi hi ac i ddirprwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol."

 

Y Llywydd a dirprwyaeth o’r Cynulliad gyda disgyblion yn Ysgol yr Hendre