Disgyblion Ysgol Uwchradd Duffryn yn mwynhau ymweliad â'r Senedd

Cyhoeddwyd 06/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

​Yr wythnos hon, ymwelodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Duffryn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, fel rhan o gwrs Bagloriaeth Cymru.

Cafodd y disgyblion eu croesawu gan y Fonesig Rosemary Butler, eu Haelod Cynulliad lleol. Cawsant weld y Neuadd, yr Oriel ac oriel y Siambr, a dysgu mwy am waith y Cynulliad a sut y mae'r penderfyniadau a wneir yno yn effeithio ar eu bywydau.

Dywedodd Jordan Nassen, un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Duffryn:

"Dysgais i nid oes ots pwy ydych chi nac o ble rydych chi'n dod; dylem ni i gyd sefyll i fyny a dweud ein dweud."

Dywedodd Carol Robling, un o athrawon Ysgol Uwchradd Duffryn:

"Dysgodd y dosbarth gryn dipyn. Roedd y daith tywys yn hwyl ac yn ddifyr, a gwnaeth y disgyblion wir fwynhau. Byddwn ni'n sicr yn ôl y flwyddyn nesaf!"

Os oes gan eich ysgol chi ddiddordeb dod â grŵp i ymweld â'r Senedd, ffoniwch 0300 200 6565.