Dylid rhoi arwyneb newydd ar ffordd goncrid yn Sir Fynwy cyn gynted â phosibl i roi terfyn ar y problemau parhaus o ran llygredd sŵn y mae trigolion cyfagos yn eu dioddef, yn ôl Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’n cytuno ag ymgyrchwyr sydd wedi brwydro ers dros 10 mlynedd i uwchraddio’r A40 rhwng y Fenni a Rhaglan o goncrid i darmac.
Cyflwynodd nifer o bobl sy’n byw ger y ffordd dystiolaeth i’r Pwyllgor a oedd yn disgrifio effaith sŵn y traffig:
- “Rydym yn byw mewn tŷ sydd wedi’i insiwleiddio’n dda â ffenestri gwydr triphlyg, ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol o sŵn cynyddol yr A40. Pan gafodd y tŷ ei adeiladu, roeddem yn arfer cysgu â’r ffenestri ar agor, a defnyddio’r balconi a’r ardd heb ddioddef gormod o straen. Yn anffodus, nid yw hynny’n wir mwyach.”
- “Rydym yn gwerthfawrogi bod y ffordd yma yn barod pan wnaethom adeiladu’r tŷ, ac roeddem yn derbyn lefel y sŵn o’r ffordd ar y pryd. Fodd bynnag, mae lefel y sŵn ar yr arwyneb goncrid, yn enwedig gan gerbydau trwm, wedi cynyddu y tu hwnt i reswm, gan gyrraedd lefel annerbyniol.”
- “Bob nos, bron, rydym yn deffro rhwng 4 a 4.30 y bore wrth i gonfois o gerbydau trwm ddefnyddio’r ffordd, ac rydym yn ei chael hi’n anodd mynd yn ôl i gysgu. Mae hyn yn arbennig o wael ar foreau Llun.”
Cyflwynwyd llythyrau gan gyfres o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2013 a 2014 i’r Pwyllgor a oedd yn awgrymu bod cynlluniau ar y gweill i arwynebu’r ffordd pan roedd cyllidebau’n caniatáu.
Yn ôl gohebiaeth mwy diweddar gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, nid oedd unrhyw gynlluniau i arwynebu’r ffordd. Yn hytrach, nodwyd y byddai un cymal o’r ffordd o gwmpas Raglan yn defnyddio rhwystrau i dawelu’r sŵn yn lle arwyneb newydd.
Yn dilyn cwestiynau pellach gan y Pwyllgor, daeth arolwg i’r amlwg a gomisiynwyd gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, sef is-adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am gynnal y rhwydwaith cefnffyrdd yn ne Cymru.
Nododd yr arolwg hwn y byddai rhwystrau sŵn yn ddatrysiad symlach a llai trafferthus yn y tymor byr. Fodd bynnag, er na fu archwiliad manwl ynghylch cyflwr y ffordd, mae’r Pwyllgor yn nodi’r datganiad yn yr astudiaeth fod cyflwr presennol y ffordd goncrid yn amheus ac mai ei hailadeiladu’n llawn fyddai’r unig ateb boddhaol yn y tymor hir.
Dywedodd David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gymhellol gan y deisebwyr a’r trigolion lleol am eu profiadau diflas o ganlyniad i sŵn o’r A40 concrid.”
“Nid yw’n glir beth achosodd y newid sylweddol rhwng y sicrwydd a roddwyd gan un o Weinidogion y Llywodraeth yn 2014 a safbwynt y Gweinidog presennol.
“Rydym yn derbyn na ellir gwneud gwaith cynnal a chadw oni fydd y cyllidebau’n caniatáu, ond mae deng mlynedd yn hir i aros. Rhagwelir mai dim ond cynyddu bydd y traffig ar y rhan honno o’r ffordd, felly ni ddisgwylir i’r sefyllfa wella.
“Ni all y sefyllfa barhau fel hyn, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater ar fyrder.”
Un argymhelliad y mae’r Pwyllgor yn ei wneud yn ei adroddiad, sef:
“Rydym o’r farn bod yr achos wedi’i wneud o ran yr angen am waith lliniaru ar hyd y darn hwn o ffordd yr A40, sef y darn y mae’r ddeiseb yn cyfeirio ato. Dylai Llywodraeth Cymru weithredu mesurau i leihau effaith sŵn ar gymunedau lleol fel mater o flaenoriaeth. O gofio y bydd angen cynnal rhaglen ailwynebu lawn ar y ffordd hon yn fuan, credwn y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i drefnu amserlen ar gyfer disodli’r arwyneb concrid presennol cyn gynted â phosibl.”
Casglodd y ddeiseb a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Deisebau 22 o lofnodion. Fodd bynnag, casglodd deiseb ar lwyfan arall dros 142 o lofnodion.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Rhaglan i’r Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).
Mae’r Cynllun gweithredu ynghylch sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i’r ffordd hon, ar ôl derbyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y cynghorydd sir lleol, yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi y dylid rhoi’r flaenoriaeth gyntaf i’r ffordd hon, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a’i bod wedi’i nodi o dan Gynllun gweithredu ynghylch sŵn presennol Llywodraeth Cymru.