Mae masnach esmwyth a mynediad i farchnadoedd yr UE yn hanfodol i ddyfodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, tra gallai masnachu gyda rhwystrau nad ydynt yn dariffau fod yn ergyd farwol, yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y bydd oedi, hyd oed ar raddfa fach, yn cael effaith fawr ar ddichonoldeb busnesau allforwyr pysgod cregyn byw. Mae'n argymell y dylai Llywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod allforio'n gallu digwydd mor esmwyth â phosibl.
Mewn tystiolaeth, dywedodd Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai y byddai unrhyw newid i dariffau ar fasnachu â'r UE yn sgil Brexit, ynghyd â gwiriadau hylendid o'u cynnyrch mewn arolygfeydd ffin, yn her fawr. Ychwanegodd fod canlyniad ffafriol i drafodaethau Brexit ar y ddau fater hyn yn hanfodol i bob sector pysgota yng Nghymru a phob cymuned arfordirol.
Nid yw Cymru'n cael cyfran deg o gwota pysgota'r DU, h.y. y cyfyngiadau ar faint o bysgod a ddelir bob blwyddyn er mwyn amddiffyn stociau pysgod. Ni ddyrennir i Gymru ond 1 y cant o gyfanswm y cwota o'i gymharu â gwledydd eraill y DU.
Esboniodd Griffin Carpenter o Sefydliad New Economics i'r Pwyllgor nad yw'r gyfran honno o'r cwota yn adlewyrchu cyfanswm y pysgod a ddelir yn nyfroedd Cymru, gan nad yw'n cynnwys dalfa llongau o dan 10m, sef mwyafrif fflyd Cymru. O ganlyniad, pan ddyrannwyd cwota'r DU rhwng gwledydd y DU ar sail cofnodion dalfeydd hanesyddol, roedd Cymru o dan anfantais.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar i Lywodraeth Cymru frwydro dros gynnydd sylweddol a datblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol pysgodfeydd yng Nghymru. Daeth yr Aelodau i'r casgliad bod angen llais cryfach ar Gymru yn y trafodaethau â'r UE ynghylch trefniadau ar gyfer pysgodfeydd ar ôl Brexit ac yn y ffordd y caiff cwota pysgota'r DU ei ddyrannu yn y dyfodol.
"Rydym yn teimlo bod diwydiant pysgota Cymru ar drothwy newid mawr," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
"Gallai rhwystrau heblaw am dariffau fod yn ergyd farwol i ddiwydiant sydd eisoes dan bwysau ac sy'n dioddef oherwydd dyraniad cwota annheg gan Lywodraeth y DU.
"Mae mynediad i farchnadoedd yr UE yn hanfodol i dyfodol y busnesau hyn, a rhaid i Lywodraeth Cymru frwydro dros gyfran decach i Gymru a datblygu strategaeth flaengar ac uchelgeisiol i'r sector allu tyfu.
"Rydym yn disgwyl i Fil pysgodfeydd newydd gael ei gyhoeddi ar gyfer y DU yn fuan ac mae'n hanfodol na fydd Cymru ar ei cholled."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru, gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol gyda ffocws i dyfu pysgodfeydd Cymru, a sicrhau bod y safonau amgylcheddol uchaf yn cael eu cynnal;
Nid yw'r dyraniad cwota i Gymru o dan Goncordat Pysgodfeydd y DU yn 2012 yn ddyraniad teg ac mae'n cyfyngu ar ddatblygiad pysgodfeydd Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru geisio ailnegodi Concordat Pysgodfeydd y DU, gyda'r nod o sicrhau cynnydd yn y dyraniad cwota;
Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r Pwyllgor o fewn y 12 wythnos nesaf ar drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi pysgodfeydd yn y dyfodol. Dylai gynnwys trafodaethau ynghylch y fframwaith cyffredin arfaethedig ar gyfer rheoli pysgodfeydd ac unrhyw gynigion ar gyfer mecanwaith rhynglywodraethol i hwyluso cytundeb rhwng Gweinyddiaethau'r DU ar fframweithiau cyffredin, gan gynnwys polisi pysgodfeydd.
Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.
Darllen yr adroddiad llawn:
Effaith Brexit ar Bysgodfeydd yng Nghymru (PDF, 766 KB)