Galw mawr am docynnau i ddigwyddiad #POWiPL gyda Julia Gillard yn y Pierhead

Cyhoeddwyd 02/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2015

Yn y Pierhead ar 2 Gorffennaf, bydd Julia Gillard, cyn-Brif Weinidog Awstralia, yn rhoi darlith i drafod y rhwystrau sy'n wynebu menywod mewn bywyd cyhoeddus.

Cafodd Ms Gillard ei gwahodd i siarad â'r gynulleidfa gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, fel rhan o'i hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, neu #POWiPL.

Mae mynediad i'r digwyddiad am ddim ond roedd pob un o'r 120 tocyn wedi'i fachu oriau ar ôl cyhoeddi'r digwyddiad.

Dywedodd Ms Gillard, "Mae'n anrhydedd mawr imi gael y gwahoddiad arbennig hwn i ddychwelyd i Gymru ar gyfer yr achlysur arwyddocaol hwn.

"Rwy'n edrych ymlaen at gyfnewid barn a safbwyntiau â'r rheini a fydd yn bresennol o dan nawdd y Llywydd adnabyddus."

Mae'r ddarlith yn rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd, a lansiwyd bedair blynedd yn ôl er mwyn annog rhagor o fenywod yng Nghymru i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Mae'r ymgyrch wedi cynnwys:

  • lansio porth cymorth ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth am sut y gall menywod gyfranogi a dod yn llywodraethwyr ysgol, cynghorwyr lleol, ynadon neu gyflawni swyddi cyhoeddus eraill;
  • cynllun datblygu sy'n cynnig cyfleoedd mentora i fenywod yng Nghymru.

Un o brif elfennau eraill yr ymgyrch yw trefnu darlithoedd gan fenywod ysbrydoledig yn y Pierhead. 

Mae'r sesiynau wedi cynnwys Shami Chakrabarti, cyfarwyddwr y sefydliad hawliau dynol Liberty; Janet Street-Porter, y sylwebydd ar y cyfryngau; Helen Clark, cyn-Brif Weinidog Seland Newydd; a'r Farwnes Susan Greenfield, sy'n wyddonydd ac yn ddarlledwr.

Sesiwn Julia Gillard fydd yr olaf yn y gyfres honno.

"Mae denu menyw o statws Julia Gillard i siarad â chynulleidfa yn y Cynulliad Cenedlaethol yn dipyn o gamp i Gymru", meddai'r Fonesig Rosemary.

"Er gwaetha'r rhwystrau sy'n wynebu menywod mewn bywyd cyhoeddus, llwyddodd i gyrraedd y brig ym myd gwleidyddiaeth Awstralia.

"Yn ystod ei chyfnod yn Brif Weinidog, fe wynebodd gryn dipyn o ymosodiadau personol sarhaus, o du'r cyfryngau a'i gwrthwynebwyr gwleidyddol.  Mae'n debyg iawn na fyddai dynion yn yr un sefyllfa wedi wynebu ymosodiadau o'r fath.

"Dangosodd fod menywod yn dal i wynebu rhwystrau gwirioneddol wrth geisio cyrraedd y brig mewn bywyd cyhoeddus.

"Ond mae Julia Gillard yn ysbrydoliaeth i fenywod ledled y byd.  Dangosodd y gall menywod chwalu'r rhwystr yna os oes ganddyn nhw'r hyder i wneud hynny.

"Rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'r Cynulliad Cenedlaethol a chlywed ei barn ar sut y gall menywod chwalu'r rhwystrau hynny."

I gael rhagor o fanylion am ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd a'r gyfres o ddarlithoedd, cliciwch yma.