Mae angen strategaeth newydd, uchelgeisiol ar Gymru, sy'n nodi sut y bydd yn ymgysylltu â'r byd ar ôl Brexit, yn ôlPwyllgor Materion Allanol y Cynulliad Cenedlaethol.
Fel rhan o'i waith ar berthynas Cymru yn y dyfodol ag Ewrop a'r byd, canfu'r Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru a'i Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol newydd wneud cryn dipyn o waith i wella proffil Cymru ar lwyfan y byd ar ôl Brexit.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"A ninnau ar fin gadael yr UE, mae'n amlwg bod angen strategaeth newydd ar Gymru o ran ymgysylltiad rhyngwladol, i ystyried y newidiadau mawr sydd o'n blaenau. Rydym yn croesawu penodiad Gweinidog ar lefel Cabinet gyda chyfrifoldebau am gysylltiadau rhyngwladol. Fodd bynnag, rydym yn glir bod gan y Gweinidog gryn dipyn o waith i'w wneud o ran diffinio agwedd strategol tuag at ymgysylltiad rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi beth yw blaenoriaethau Cymru, a gweithio gyda phortffolios gweinidogol eraill fel yr economi ac addysg i wneud i hyn ddigwydd."
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, cyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig a Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wrth y Pwyllgor:
"We need a strategy, and, crucially, what do we want? What are our assets? How can we influence? Where is soft power? And how do we prioritise? That's the challenge for the nation."
O ran cysylltiadau ag Ewrop a'r UE ar ôl Brexit, clywodd y Pwyllgor y bydd yn rhaid i Gymru weithio'n llawer caletach i gael mynediad a dylanwad yn y dyfodol.
Dywedodd David Rees AC:
"Wrth inni wynebu dyfodol y tu allan i strwythurau a sefydliadau ffurfiol yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i Gymru weithio'n llawer caletach i gael mynediad a dylanwad ar y llwyfan rhyngwladol. Yn hanesyddol, rydym wedi mwynhau manteision rhaglenni a rhwydweithiau Ewropeaidd drwy statws y DU fel Aelod Wladwriaeth. Fodd bynnag, ni ddylai hyn atal Cymru rhag edrych am bartneriaethau newydd mewn ffyrdd creadigol ar ôl Brexit ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud hynny lle mae manteision amlwg i Gymru."
"Rydym hefyd am weld ymgysylltiad parhaus Cymru â sefydliadau fel Senedd Ewrop a gobeithio y gall trafodaethau barhau er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd."
Er bod ffocws gwaith y Pwyllgor wedi bod yn ehangach na masnach, mae'r ffigyrau sydd ar gael ar gyfer 2017 yn dangos bod 60 y cant, o gyfanswm o £16.5 biliwn mewn allforion, wedi mynd i'r Undeb Ewropeaidd a bod y 40 y cant a oedd yn weddill wedi mynd i weddill y byd. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 16 y cant o allforion wedi mynd i ogledd America a 9 y cant wedi mynd i Asia.
Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar sut y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy o'i asedau unigryw - ei phobl, ei diwylliant a'i hiaith - i hyrwyddo Cymru ledled y byd.
Dywedodd David Rees AC:
"Gallai ymgysylltiad gwell â'r hyn a elwir yn Gymry alltud, Cymry a phobl o dras Cymreig sy'n byw mewn gwledydd eraill, fod yn allweddol i ddatgloi rhai o uchelgeisiau Cymru yn rhyngwladol. Fodd bynnag, yn wahanol i lawer o wledydd eraill, er enghraifft yr Alban a Seland Newydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru gynllun clir ar waith i ymgysylltu â'n Cymry alltud dramor. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud cyfanswm o un ar ddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru gan gynnwys:
Argymhelliad 1: Rydym yn argymell bod y strategaeth ymgysylltiad rhyngwladol newydd i Gymru yn nodi maint uchelgais Llywodraeth Cymru o ran ymgysylltiad rhyngwladol ar ôl Brexit ac, mewn ymateb i'r adroddiad hwn, bod Llywodraeth Cymru yn nodi'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyhoeddi'r gwaith hwn.
Argymhelliad 7: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud. Dylai'r cynllun gweithredu hwn gynnwys manylion am ba wledydd fydd yn cael eu blaenoriaethu a sut y bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflawni hyn.
Argymhelliad 8: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu dadansoddiad llinell sylfaen annibynnol, er enghraifft gan Swyddfa Archwilio Cymru, o weithrediad swyddfeydd tramor y Llywodraeth. Yn dilyn hynny, dylid defnyddio'r llinellau sylfaen hyn i fesur y cynnydd a wnaed gan y swyddfeydd, yn unol â'r strategaeth ryngwladol sydd i ddod.
Darllen yr adroddiad llawn:
Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol (PDF, 2 MB)