Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bedwerydd ar y rhestr o'r llefydd mwyaf cyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol weithio yn y DU.
Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a gynhyrchir gan y sefydliad hawliau cyfartal, Stonewall, yn edrych ar amrywiaeth o bethau er mwyn mesur sut mae sefydliadau'n cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Cafodd y Cynulliad ei restru yn Rhif 4 ymhlith y 100 cyflogwr gorau yn y DU ac eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, y Cynulliad yw'r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
"Mi gefais dipyn o sioc pan welais bod y cyfryngau yr wythnos diwethaf yn holi a oedd bod yn berson lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn rhwystr i fynd i mewn i'r Cynulliad fel gwleidydd," meddai Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC.
"Mae gan y Cynulliad record ragorol o gefnogi hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
"Mae'r ffaith ein bod wedi cael ein henwi yn 4ydd ymhlith y lleoedd gorau i staff LGB weithio yn y DU yn cadarnhau bod hynny'n wir.
"Mae gennym rwydwaith staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n rhoi cymorth i'n staff LGBT, ac sydd hefyd ar gael i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth. Mae'r Cynulliad hefyd yn ymgyrchu'n fewnol ac yn allanol yn erbyn pob math o fwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig.
"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i bawb sy'n ymwneud â'n rhwydwaith staff LGBT, a'r tîm cydraddoldeb yn arbennig, am eu gwaith yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar ein hymrwymiad yn y maes hwn."
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb: "Mae hyn yn tywallt dŵr oer dros rai o'r honiadau a wnaed yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf.
"Mae'r adroddiadau hyn yn dangos bod yn rhaid inni oll barhau i weithio tuag at ddileu unrhyw fath o wahaniaethu yn y gweithle a'r gymuned ehangach, ac mae'r Cynulliad yn parhau yn ei ymrwymiad i hynny.
"Ond mae'r ffaith fod Stonewall wedi rhoi safle mor uchel i'r Cynulliad yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn dangos bod senedd Cymru yn arweinydd yn y maes hwn."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â'r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy hoyw-gyfeillgar i weithio:
- Rydym wedi mynd â'n Bws Allgymorth i Pride Cymru a Swansea Pride er mwyn ymgysylltu â'r gymuned LGBT ac annog ymgysylltiad democrataidd;
- Rydym wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cydraddoldeb LGBT ac i ddangos ein hymrwymiad i Fis Hanes LGBT ac i'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia;
- Mae gennym gynllun Cynghreiriaid LGBT lle gall staff nad ydynt yn LGBT ddangos eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT;
- Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant penodol ar gyfer staff LGBT a'n sesiynau codi ymwybyddiaeth ;
- Mae gennym uwch-hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch-gynghreiriaid sy'n hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol ac yn allanol.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: "Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle wedi'i gynllunio i herio ac ymestyn cyflogwyr ac eleni rydym wedi'i wneud yn llymach nag erioed drwy ofyn am dystiolaeth am yr effaith y mae cyflogwyr yn ei chael ar staff. Cawsom fwy o gyflwyniadau o Gymru nag erioed, ac unwaith eto mae gan Gymru gynrychiolaeth dda yn y 100 uchaf.
"Ein gweledigaeth yw Cymru lle gall pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wireddu eu holl botensial. Rydyn ni'n falch iawn o'r cyflogwyr, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd ar y rhestr hon. Maen nhw'n helpu i wireddu'r weledigaeth honno."