Morlyn Llanw Bae Abertawe – Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd 25/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ddyfodol Morlyn Llanw Bae Abertawe, mae Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol.

Dywedodd Mike Hedges AC:

"Mae cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU yn siomedig iawn ac yn hynod bryderus ar gyfer dyfodol y prosiect blaengar hwn.

"Daeth Adolygiad Hendry Llywodraeth y DU ei hun i'r casgliad 18 mis yn ôl y byddai'r dechnoleg yn gyfraniad cadarn i gyflenwad ynni'r DU ac y byddai'n cynnig cyfleoedd economaidd sylweddol.

"Ers hynny, nid yw gweinidogion wedi gwneud dim, gan ymddangos na allant ymgysylltu â chefnogwyr y prosiect, Tidal Lagoon Power, neu eu bod yn amharod i wneud hynny.

"Y mis diwethaf, gwahoddodd y Pwyllgor hwn Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i drafod dyfodol y morlyn llanw â ni, ond ni chafwyd ymateb. Erbyn hyn, mae cwestiynau mawr y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol eu hateb i ychwanegu eglurder a dealltwriaeth at benderfyniad Llywodraeth y DU i fynd yn groes i argymhellion ei hadolygiad ei hun.

"Dyma gyfle anferthol a gollwyd i Abertawe a de Cymru fod ar flaen y gad ym maes technoleg morlyn llanw, ond hefyd i'r DU yn gyffredinol fod yn wlad sy'n cynhyrchu ynni gwirioneddol gynaliadwy."