Polisïau arloesol wedi'u llunio yng Nghymru yn allweddol i sector amaethyddol llwyddiannus ar ôl gadael yr UE – meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2017

​Bydd polisïau uchelgeisiol ac arloesol wedi'u llunio yng Nghymru yn hanfodol i lwyddiant amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol ar ôl gadael yr UE

Tractor ar faes

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar yr effaith bosibl ar y sector yn sgil gadael yr UE.

Mae'r Pwyllgor yn nodi'r egwyddorion a ganlyn yn ei adroddiad:

Yn gyntaf, ni ddylai ffermwyr yng Nghymru fod yn waeth eu byd o ganlyniad i'r bleidlais i adael. Yr hyn y mae'r Pwyllgor yn ei olygu yw y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i wario'r un faint o gyllid ag a wneir ar hyn o bryd ar amaethyddiaeth yng Nghymru.
 
Ni ddylai cyllid i'r sector amaethyddol yn y dyfodol fod yn destun cyfrifiad fformiwla Barnett ac, yn ei thro, rhaid i Lywodraeth Cymru wario'r cyllid hwn i gyd ar amaethyddiaeth. Dylai unrhyw newid oddi wrth daliadau uniongyrchol i system ariannu newydd gael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod sy'n cwmpasu cylch presennol a chylch nesaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin (2021-27).
 
Yn ail, rhaid i Gymru fod â llais cyfartal wrth y bwrdd trafod. O ystyried bod 90 y cant o allforion bwyd a diod Cymru yn mynd i'r UE, mae'n hanfodol bod gan Gymru fynediad llawn heb dariffau na chwotâu i'r Farchnad Sengl. Gellid effeithio'n ddifrifol ar gynhyrchwyr, er enghraifft ffermwyr cig oen, os methir ag amddiffyn buddiannau Cymru yn ystod y trafodaethau.
 
 

Yn y dyfodol, efallai y bydd yn angenrheidiol ac yn ddymunol cael fframweithiau rheoleiddio ar gyfer y DU gyfan, er enghraifft ar gyfer safonau iechyd a lles anifeiliaid, ond rhaid i bob un o lywodraethau'r DU gytuno ar y rhain - rhaid peidio â'u gosod yn ganolog.

Yn olaf, rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i gynllunio polisïau Cymreig sy'n cefnogi'r sector. Mae ar Gymru angen polisïau rheoli tir uchelgeisiol ac arloesol i sicrhau manteision amgylcheddol ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r syniad o symud tuag at system sy'n gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau cynaliadwy, fel amddiffyn bioamrywiaeth a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Heb gefnogaeth barhaus, ni fyddai gennym dirwedd wedi'i rheoli i ddenu twristiaid ac economi wledig lewyrchus i gefnogi iaith a diwylliant Cymru.

"Ers dros ddeugain mlynedd, mae'r modd y caiff cynnyrch amaethyddol ei ffermio, ei werthu a'i gefnogi'n ariannol wedi cael ei benderfynu'n bennaf ar lefel Ewropeaidd," meddai Mark Reckless AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Yn dilyn canlyniad y refferendwm fis Mehefin diwethaf, erbyn hyn mae gan Gymru gyfle i lunio'r polisïau hynny yn nes at adref.

"Ond ni allwn fanteisio ar y cyfle hwn i adfywio ein cymunedau gwledig oni bai ein bod yn sicrhau nad ydym ni, yng Nghymru, ar ein colled o ganlyniad i'r bleidlais i adael.

"Yn y tymor byrrach, clywsom dystiolaeth glir fod mynediad i'r Farchnad Sengl, parhad cymorth ariannol a sicrwydd ynglŷn â gweithwyr mudol yn flaenoriaethau hollbwysig.

"Yn y tymor hirach mae cyfle i ddatblygu polisïau uchelgeisiol, arloesol, Cymreig i sicrhau bod y sector yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau, â'r hinsawdd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd bywyd gwledig wrth wraidd unrhyw benderfyniadau.

"Rydym hefyd am weld model newydd lle bydd llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i gytuno ar un fframwaith cyffredinol ar gyfer ffermio yn y DU, gyda pharch cydradd rhwng pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn hanfodol i'w lwyddiant.

Mae'r pwyllgor yn gwneud 26 o argymhellion yn ei adroddiad, a fydd nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch yr adroddiad