Pryder gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol am wahaniaeth o £12.7 miliwn yng nghost y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cyhoeddwyd 02/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2017

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud bod gwahaniaeth o £12.7 miliwn yng nghost y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn peri pryder.

Yn y ffigurau gwreiddiol a gyflwynwyd ochr yn ochr â'r Bil, nododd Llywodraeth Cymru arbedion o £4.8 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd pe bai'r Bil yn cael ei basio.

Ond cafodd yr amcangyfrifon eu herio gan yr elusen blant, SNAP Cymru, a oedd yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi camddehongli'r ffigurau a ddarparwyd ganddi ynghylch anghydfodau a gwasanaethau ar gyfer eu datrys. Cyfaddefodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwneud gwall a chywirwyd y ffigurau er mwyn nodi cost o £7.9 miliwn yn lle'r arbediad gwreiddiol, sef gwahaniaeth o £12.7 miliwn.

Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid i Lywodraeth Cymru ohirio'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil, sy'n cadarnhau bod gan y Llywodraeth gefnogaeth i wario'r arian hwn wrth roi'r gyfraith ar waith, a chytunodd y Llywodraeth i wneud hynny.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Mae gwahaniaeth o £12.7 miliwn wrth newid o arbediad i gost yn peri pryder mawr, gan ei fod yn dangos nad yw'r Llywodraeth yn llwyr ddeall y ffigurau y mae’n eu dyfynnu.

“Mae hefyd yn bwrw amheuon ar y costau sy'n gysylltiedig â Biliau sy'n dod gerbron y Pwyllgor hwn yn y dyfodol, gan y byddwn ni'n cwestiynu a yw'r Llywodraeth wedi gwneud ei symiau'n gywir.

"Rydym yn ddiolchgar i SNAP Cymru am dynnu sylw at yr anghysondebau ac yn cydnabod y camau a gymerwyd gan y Gweinidog wedi hynny, ond bydd angen rhagor o sicrwydd arnom na fydd camgymeriadau o'r fath yn digwydd eto."

Nod y Bil yw gwella safon y gefnogaeth sydd ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a fyddai'n canfod anghenion yn gynnar ac yn sicrhau bod plant yn cael eu cefnogi, eu monitro a'u gwerthuso'n gywir i'w helpu.

Croesawodd y Pwyllgor Cyllid y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Ond roedd yr Aelodau wedi'u synnu ac yn pryderu am fod yr anghysondebau mor fawr ac am nad oedd y Llywodraeth wedi ymgynghori â SNAP Cymru cyn cyhoeddi'r ffigurau terfynol.

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod diwygiadau wedi'u gwneud ers hynny ac mae'r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd bod y ffigurau diwygiedig yn gadarn, ond mae'r ffaith y bu angen gwneud y lefel hon o newidiadau i'r costau gwreiddiol yn peri pryder.

 


Darllen yr adroddiad atodol:
Goblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru (PDF, 742 KB)