Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i arwain y ffordd wrth hyrwyddo hawliau cyfartal i bobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT), wrth iddo ennill ei le unwaith eto ymhlith y pump uchaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle diweddaraf Stonewall.
Bellach mae’r Cynulliad wedi bod ymhlith cyflogwyr mwyaf blaenllaw y DU o ran cefnogi hawliau LHDT dros y naw mlynedd diwethaf, ac ef yw’r sefydliad sector cyhoeddus gorau yng Nghymru yn hyn o beth am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Dros y deuddeg mis diwethaf mae’r Cynulliad wedi parhau i ddangos arweiniad yn ei ymdrechion i greu sefydliad seneddol cynhwysol. Mae enghreifftiau o’i weithgareddau yn cynnwys:
- Dathlu Mis Hanes LHDT a Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia;
- Presenoldeb yn nigwyddiad Pride Caerdydd a Sparkle Abertawe;
- Creu cyfleusterau tai bach a chawodydd niwtral o ran eu rhywedd ar gyfer staff ac ymwelwyr;
- Ymgorffori Asesiadau Effaith Cydraddoldeb o bolisïau corfforaethol, fel y polisi iechyd meddwl, ar gyfer staff;
- Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o drawsrywioldeb drwy TransForm, ac amrywiaeth o hyfforddiant ar gefnogi staff LHDT; a
- Darparu cefnogaeth cyfoedion, drwy OUT-NAW, y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Mae’n hanfodol y dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u cynnwys yn y gweithle, fel y dylent yn unrhyw le arall.
"Efallai nawr, yn fwy nag erioed, mae angen cymdeithas sy’n amrywiol a chydlynol ac iddi fod yn gymdeithas lle y mae pobl yn parchu ei gilydd.
"Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn falch o fod yn arweinydd yn hyn o beth, a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i fod yn sefydliad enghreifftiol o ran cydraddoldeb."
Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb:
"Mae hwn yn gyflawniad gwych ac rwy’n falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
"Mae parhau â’n safle rhagorol ym Mynegai Gweithleoedd Stonewall yn dangos ein hymroddiad hirsefydlog i hybu hawliau LHDT, ac i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn un o’r sefydliadau mwyaf cynhwysol i weithio yn y DU."
Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn mesur deg maes allweddol o ran cyflogaeth ac arferion polisi mewn sefydliad, gan gynnwys:
- Polisi Gweithwyr;
- Hyfforddiant;
- Grŵp Rhwydwaith Gweithwyr;
- Datblygu gyrfa; ac
- Ymgysylltu â’r gymuned:
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:
"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill ei le yn gyson yn y 100 cyflogwr gorau, ac mae’n wych ei weld yn cael ei restru fel y sefydliad llywodraeth sy’n perfformio orau ym Mhrydain eleni.
"Yn Stonewall, rydym yn barhaus yn edmygu’r gwaith caled a’r brwdfrydedd a ddangosir gan y tîm yn y Cynulliad Cenedlaethol, a’i ymroddiad i wneud ei weithle’n sefydliad i bawb yng Nghymru.
"Bu’r gwaith y mae wedi’i gyflawni dros gydraddoldeb LHDT yn y gweithle yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ysbrydoledig, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef, fel cyflogwr cynhwysol blaenllaw."