Mae Cadeirydd y Pwyllgor sy'n craffu ar Fil Brexit wedi datgan bod yn rhaid bodloni chwech amcan allweddol cyn y gall y Pwyllgor argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gefnogi.
Mae'r chwech amcan gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fel a ganlyn:
- Dylid dileu'r cyfyngiad ar y setliad datganoli sydd i'w weld yng Nghymal 11, a fyddai'n paratoi'r ffordd i bwerau gael eu dychwelyd i Lundain yn hytrach na Chaerdydd. Ym marn y Pwyllgor, lle mae angen fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU, dylid cytuno arnynt rhwng llywodraethau a deddfwrfeydd y DU ac nid cael eu gosod gan Lywodraeth y DU.
- Ar hyn o bryd, mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU gywiro agweddau ar gyfreithiau'r UE y bydd angen eu diwygio ar ôl Brexit. Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad gael yr un pŵer â Gweinidogion y DU mewn achosion lle mae pwerau wedi'u datganoli.
- Os yw'r pwerau hyn yn dod i Gymru, dylid cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ailysgrifennu cyfreithiau a bennwyd yn flaenorol gan yr UE, a hynny er mwyn sicrhau gallu'r Cynulliad i graffu'n briodol arnynt.
- O dan y Bil, ni ddylai Gweinidogion y DU gael y pŵer i ddiwygio agweddau ar gyfreithiau sy'n deillio o'r UE sy'n effeithio ar Gymru, oni bai eu bod yn cael eu cadw yn San Steffan.
- Atal gweinidogion DU neu wienidogion Cymru rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyed.
- Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn amlinellu sut y byddai'r Cynulliad yn craffu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU; mae'r Pwyllgor o'r farn bod gan y Cynulliad yr hawl i benderfynu ar ei drefniadau craffu ei hun.
“Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn rhoi pwerau ysgubol i Lywodraeth y DU mewn perthynas â meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn parchu'r bobl a bleidleisiodd mewn dau refferendwm dros gael Cynulliad Cenedlaethol sydd â'r pŵer i ddeddfu ar faterion datganoledig. Rydym yn cydnabod maint yr her sydd o'n blaenau, ac rydym yn barod i chwarae ein rhan i sicrhau bod gennym gyfreithiau ymarferol wedi inni adael yr UE.
– David Rees AC, Chair of the External Affairs and Additional Legislation Committee