Rhaid i drethi newydd mewn meysydd datganoledig gael eu cydsynio gan Gymru, rhybuddia un o Bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 29/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2017

​Mae un o Bwyllgorau'r Cynulliad wedi rhybuddio bod rhaid i drethi newydd mewn meysydd datganoledig fod wedi'u cydsynio gan y sefydliadau datganoledig.

Dyma un o'r 13 argymhelliad a wnaed yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch yr Ardoll Brentisiaethau – sef ardoll llywodraeth y DU ar gyflogwyr mawr sy'n dod i rym yr wythnos nesaf.

Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Yn sgil cyflwyno ardoll ar draws y DU ar 6 Ebrill 2017, mae nifer o faterion wedi codi yn ymwneud â'r maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus.

“Mae'n destun pryder bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r ardoll hon sydd â goblygiadau sylweddol i faes sydd wedi'i ddatganoli, a hynny heb ymgynghori â'r sefydliadau datganoledig yn gyntaf.

“Ni ddylid cael rhagor o drethi mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad gan Gymru.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennau manwl cyn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor, mae ymgysylltu â chyflogwyr yn y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn dameidiog, a bydd gan gyflogwyr gwestiynau o hyd ynghylch beth fyddent yn ei gael am eu harian.”

Ychwanegodd Mr George fod yr ardoll wedi codi proffil prentisiaethau:

“Roedd ein hadroddiad yn ystyried goblygiadau'r ardoll i gyflogwyr Cymru. Mae'n amlwg bod yr ardoll wedi llwyddo i godi proffil prentisiaethau, yn arbennig ar gyfer sefydliadau nad oedd gynt wedi ystyried y model hwnnw ar gyfer datblygu'r gweithlu.

“Clywsom am y dryswch a'r ansicrwydd a achoswyd yn sgil yr ardoll – yn arbennig yn y dyddiau cynnar.

“Er hynny, rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ddogfen – ‘Cysoni’r model prentisiaethau ag anghenion economi Cymru’ yn ystod ein hymchwiliad ynghyd â phecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr, sy'n llenwi'r bwlch a nodwyd yn ein hymchwiliad o ran cyfathrebu a gwybodaeth.”

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi pryderon cyflogwyr y sector preifat sydd wedi cwestiynu beth fyddent yn ei gael am eu harian.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio ateb y cwestiynau hyn (gan gyhoeddi dogfennau manwl cyn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor), bydd rhaid disgwyl i weld pa mor effeithiol y bydd.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi bod y gwahanol raglenni prentisiaeth ym mhob un o wledydd y DU yn golygu bod deall a gwerthfawrogi cymwysterau yn eang yn hanfodol i brentisiaid unigol.

Ychwanegodd Mr George:

“O ystyried y dryswch a'r ansicrwydd o ran cyflwyno'r ardoll – ar gyfer busnesau a rhwng llywodraethau – bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater eto ymhen 12 mis er mwyn asesu effaith yr ardoll.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Rhaid i'r Gweinidog ddwysáu ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob cyflogwr sy'n talu Ardoll yng Nghymru yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnod rhagarweiniol yr Ardoll;
  • Mae angen cyfnod o sefydlogi a sicrwydd ar gyfer y sector yng Nghymru. Dylai'r Gweinidog barhau i ymgysylltu â'r cyflogwyr o bob sector yn y misoedd nesaf a dylai nodi sut mae'n bwriadu gwneud hyn yn ei hymateb;
  • Na ddylai unrhyw ardollau yn y dyfodol mewn cymhwysedd datganoledig gael eu cyflwyno heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n annog Llywodraeth Cymru i nodi hyn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU;
  • Argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut mae'n bwriadu sicrhau bod pob cyflogwr (gan gynnwys y rhai mewn sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth sy'n gwneud taliadau Ardoll) yn ymwybodol o'r cyfleoedd i oresgyn y mater 'dim adenillion uniongyrchol' drwy fodel Cymru o gyflawni prentisiaeth; ac
  • Argymell ar frys bod y Gweinidog yn lobïo Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw nifer y bobl a gyflogir gan awdurdodau lleol mewn ysgolion yn cael eu cynnwys yn nifer y cyflogeion cyffredinol awdurdodau lleol at ddibenion cyfrifo'r Ardoll. Bydd hyn yn effeithio'n andwyol ar gyllidebau ysgolion yng Nghymru ac mae'n mynd yn groes i'r ffordd y caiff ysgolion Academi eu trin yn Lloegr.

Darllenwch yr adroddiad