Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth er mwyn diogelu ein hamgylcheddau morol, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 09/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2017

​Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth gryfach er mwyn diogelu ein hamgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol. 

Lansiwyd yr adroddiad o dan sylw gan Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Mae'r adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru yn datgan: 

  • bod angen mwy o gyllid a staff er mwyn sicrhau bod amgylcheddau morol Cymru yn cael eu diogelu;
  • y dylai'r cyllid ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig fod yn seiliedig ar ardaloedd, gyda swyddog penodedig ar gyfer pob ardal;
  • bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod adnoddau pysgodfeydd Cymru a buddiannau fflyd Cymru yn cael eu gwarchod yn llawn yn ystod trafodaethau Brexit; a
  • bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru egluro sut y bydd yn mynd i'r afael â'r diffyg cyllid posibl ar gyfer gwaith yn yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, o ran y cyllid sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan gronfeydd yr UE. 

Dywedodd Mike Hedges AC: "Mae dyfroedd Cymru yn gartref i rai o gynefinoedd a rhywogaethau mwyaf amrywiol Ewrop o ran bioleg. Mae 50 y cant ohonynt yn warchodedig, sy'n golygu bod rhai gweithgareddau fel pysgota a theithiau bywyd gwyllt yn cael eu rheoleiddio er mwyn atal difrod i'r amgylchedd.

"Mae llawer o wahanol haenau o warchodaeth, sydd wedi'u dynodi mewn cyfres o gyfreithiau, ond nid yw'r dynodiadau hyn wedi arwain at reolaeth well, ac nid yw codau ymddygiad gwirfoddol yn cael eu dilyn bob amser.

"Yn syml, nid yw creu Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ddigon. Yn ogystal, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ganddi'r adnoddau sydd eu hangen i wneud y gwaith rheoli, monitro, goruchwylio a gorfodi sy'n ofynnol. " 

 



Darllen yr adroddiad llawn:

Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (PDF,1 MB)