Sgyrsiau GWLAD yn annog arloesi a syniadau newydd ar gyfer Cymru ar ôl COVID

Cyhoeddwyd 05/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2020


  • Bydd sesiynau rithwir GWLAD gan Senedd Cymru yn canolbwyntio ar Gymru'r dyfodol 
  • Pobl o brofiadau gwahanol ar draws Cymru yn rhannu syniadau a ffyrdd o arloesi 
  • Cymunedau gwledig, Busnes, y Celfyddydau a digartrefedd pobl ifanc ymysg y pynciau dan sylw 

Pa fath o Gymru ydyn ni eisiau ei weld ar ôl pandemig COVID-19? Dyna fydd Senedd Cymru yn ei ofyn mewn cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau ar-lein dros gyfnod o fis, gan ddechrau ar 9 Tachwedd. 

Mi fydd sgyrsiau rithwir GWLAD yn clywed sut mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd, yn ysgogi ac ysbrydoli syniadau ar gyfer adeiladu Cymru sy'n fwy cadarn a chyfartal ar gyfer y dyfodol.  

Bydd yr amserlen yn cynnwys amrywiaeth o bynciau fel yr amgylchedd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cymunedau gwledig, busnes a'r celfyddydau, ac mi fydd yn cael ei gynnal am fis gan gychwyn ar 9fed o Dachwedd. 

Mi fydd yn rhoi llwyfan i gymysgedd gwahanol o bobl – pobl ifanc, perchnogion busnes, gwleidyddion, diddanwyr, ymgyrchwyr a gweithwyr allweddol. Mae gan bob un ei stori am y pandemig, am eu hunain neu eu cymunedau, a syniadau ynghylch sut i fanteisio ar y cyfle i ail-adeiladu er gwell.  

Mi fydd y sesiynau ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein, ac fe all y gynulleidfa gymryd rhan trwy anfon cwestiynau ar gyfer y panelwyr ac ymuno â'r sgwrs gan ddefnyddio #GWLAD.  

Bydd tri digwyddiad yn cael eu ffrydio bob wythnos, gyda'r holl sesiynau ar gael yn fyw ac ar gyfer gwylio yn nes ymlaen ar YouTube, Senedd TV ac fel podlediadau.  

Ymhlith y sesiynau mae: 

Pa ddyfodol i gefn gwlad Cymru? – 9 Tachwedd 19.00

Dyfodol ein cymunedau gwledig sydd dan sylw yn y sesiwn gyntaf, gyda twristiaeth, tai, cynllunio, busnes, amaethyddiaeth, cysylltedd, y Gymraeg, a gofal iechyd i gyd ar yr agenda. Dr Nerys Llewelyn-Jones, Sylfaenydd Agri Advisor, sy'n cadeirio sgwrs rhwng y ffermwr o Lanfairfechan, Gareth Wyn Jones; Meddyg Teulu o Bwllheli, Dr Eilir Hughes; Sadie Pearce, menyw fusnes o Sir Benfro; a Cyfarwyddwr Rheoli Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones. 

Democratiaeth a'r celfyddydau: llwyfan ar gyfer newid? - 12 Tachwedd 18.30 

Sgwrs gydag Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Shavanah Taj ynghylch rôl y celfyddydau wrth ailadeiladu strwythurau cymdeithasol a democrataidd, dan ofal Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George. Shavanah yw'r person BME cyntaf i gael ei phenodi i rôl Ysgrifennydd Cyffredinol TUC ac mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr i Fio, grŵp theatr llawr gwlad sy'n annog pobl ifanc dosbarth gweithiol i ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant. 

Cymru Greadigol: Cefnogi, Addasu ac Arloesi- 16 Tachwedd 19.00 

Trafodaeth ar gefnogi'r celfyddydau ac annog arloesi, gyda'r comedïwr  Kiri Pritchard McLean a phanel o bobl talentog o fyd y celfyddydau: Henry Widdicombe, Sefydlwr Gŵyl Gomedi Machynlleth; Mari Beard, actores a chyd-grëwr cyfres S4C Merched Parchus; Eadyth Crawford, cantores a cherddor; a Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol, Theatr Clwyd. 

Busnes fel arfer? Ailfeddwl dyfodol gwaith yng Nghymru – 20 Tachwedd 8.30

Mae'r pandemig wedi gorfodi llawer o fusnesau i feddwl am ffyrdd gwahanol o weithredu. Ydi hi'n bryd i ni feddwl eto am ddyfodol byd gwaith? Sarah Dickens, Gohebydd Economeg BBC Cymru sy'n cadeirio sgwrs gyda Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT Cymru; Jenine Gill, Cyfarwyddwr Cwmni, Meithrinfa Little Inspirations Nursery; Shumana Palit, Cyfarwyddwr siop fwyd Ultracomida yn Aberystwyth a Curado Bar yng Nghaerdydd; a Trevor Palmer, entrepreneur ac Aelod Bwrdd Anableddau Cymru.

Cenhedlaeth COVID: Sut Mae Pobl Ifanc yn Paratoi at y Dyfodol? - 20 Tachwedd 18.00 

Ar Ddiwrnod Plant y Byd, bydd trafodaeth am heriau a chyfleoedd i bobl ifanc a'u dyfodol, dan ofal newyddiadurwr ITV Cymru Zahra Eramm gyda panel o gyfranwyr ifanc: James Wallice, Llywydd Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd, Golygydd Gwydir Cymru; Chizi Phiri, Graddedig o Brifysgol Abertawe, cyn-swyddog Menywod NUS Cymru; a Rhodri Ifan, Aelod o'r Urdd. 

Hefyd, ymhlith y sesiynau eraill sydd i'w cadarnhau mae taclo digartrefedd ymhlith pobl ifanc, dyfodol chwaraeon elitaidd ac ar lawr gwlad, gostwng allyriadau, a chydnabod a dathlu gweithwyr allweddol.  

"Mae pandemig COVID-19 wedi newid bywyd pob un ohonom - ein ffordd o fyw a'n arferion gweithio, sut rydyn ni'n treulio ein hamser hamdden a gyda phwy. O fyd gwaith, addysg, y celfyddydau, chwaraeon a busnes - mae llawer o sectorau yn wynebu dyfodol ansicr, ac mae'n bosib na fydd pethau fyth yr un fath. Yn y sesiynau GWLAD, ein nod yw trafod y dyfodol, i ddysgu gan brofiadau pobl o bob cornel o'r wlad ac o bob cefndir er mwyn rhannu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer ail adeiladu'n well ac yn gryfach ar gyfer y dyfodol." - Llywydd y Senedd, Elin Jones AS;

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau GWLAD ar gael ar wefan a cyfryngau cymdeithasol y Senedd, a fydd yn cael ei diweddaru wrth i'r manylion gael eu cadarnhau.