Sioe Frenhinol Cymru - Y Llywydd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad

Cyhoeddwyd 22/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2015

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhoi araith yn Sioe Frenhinol Cymru ar 22 Gorffennaf.

Bydd y Fonesig Rosemary yn cynnal derbyniad ym Mhafiliwn y Llywodraethwyr am 16.30, lle y bydd yn rhoi araith i nodi ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y pedwerydd Cynulliad.

Dyma'r blaenoriaethau hynny:

  • Sicrhau eglurder a chysondeb o ran y pwerau pellach a gaiff eu datganoli a gwneud yn siŵr bod ein negeseuon allweddol yn berthnasol a bod pobl yn eu deall;
  • Sicrhau bod llais Cymru yn parhau i gael ei glywed ar lefel y DU;
  • Ymgysylltu mwy â phobl Cymru a gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar arbenigedd a gwybodaeth eang ein holl gymunedau amrywiol, a;
  • Sicrhau bod ein trafodion yn agored ac yn dryloyw a bod mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith craffu effeithiol.

Yn ei haraith, bydd yn dweud, "Dyma oedd fy mlaenoriaethau hyd yma fel Llywydd y Cynulliad, a dyma fydd fy mlaenoriaethau wrth i ni symud at ddiwedd y pedwerydd Cynulliad".

Ond bydd y Fonesig Rosemary yn canolbwyntio ar rai o gyflawniadau'r pedair blynedd ddiwethaf hefyd, yn enwedig y daith gyfansoddiadol.

Bydd yn dweud, "Cyn refferendwm yr Alban ac ers hynny, rwyf wedi treulio llawer o'm hamser yn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar lefel y DU."

"Nid ydym eisiau, ac nid ydym yn haeddu, cael ein hanghofio yn y drafodaeth am ddatganoli pwerau pellach i Gymru tra bod cryn siarad am ddatganoli i'r Alban a rhanbarthau Lloegr. 

"Felly, rwyf wedi gwneud sylwadau pendant, er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad le cadarn a pharhaol a bod gennym y cyfrifoldeb i benderfynu ynghylch ein materion ein hunain yn y dyfodol.   Roeddwn yn falch o gydweithio'n agos ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddiogelu ein lle yn y DU ac rwy'n croesawu ei ymrwymiad i gyflwyno Bil Cymru a fydd yn gweithredu'r ymrwymiad a wnaeth yn ei gyhoeddiad Ddydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni yn llawn.

"Ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau bod manylion y Bil yn gywir, felly rwy'n parhau i bwyso ar y bobl briodol i sicrhau ein bod ni'n cael setliad sy'n adlewyrchu ein haeddfedrwydd fel sefydliad seneddol yn deg, ac sy'n sicrhau eglurder a chysondeb - nid yn unig i'r Cynulliad ond i bobl Cymru."

Bydd y Llywydd yn galw unwaith eto am i'r Cynulliad allu penderfynu ynghylch:

  • ei drefniadau etholiadol ei hun;
  • ei enw (sy'n fater symbolaidd, pwysig); ac
  • yr oedran pleidleisio priodol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Fel rhan o'r araith, bydd y Fonesig Rosemary hefyd yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd dros y pedair blynedd ddiwethaf i sicrhau bod gwaith Aelodau'r meinciau cefn wrth graffu ar Weinidogion yn fwy perthnasol ac amrywiol, yn ogystal â chyflwyno amser penodedig ar gyfer 'Cwestiynau gan Arweinwyr y Pleidiau' yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog.