“Trechu'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yw un o heriau mwya'n hoes” - Mike Hedges AC

Cyhoeddwyd 23/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2019

​666 o rywogaethau dan fygythiad o ddiflannu, 73 o rywogaethau eisoes wedi'u colli


Heddiw mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei pholisi ffermio ar ôl Brexit yn rhoi blaenoriaeth i amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl ac annog bioamrywiaeth.

Mae Brexit yn golygu na fydd ffermwyr Cymru yn derbyn taliadau gan yr Undeb Ewropeaidd mwyach. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei chynlluniau i ddisodli'r cyllid hwn unwaith y bydd cefnogaeth ariannol yr UE i ffermwyr yn stopio. Mae'r Pwyllgor yn credu y gallai gadael yr UE roi cyfle i Lywodraeth Cymru ailfeddwl sut yr ydym yn defnyddio adnoddau i annog ffermwyr i gefnogi bioamrywiaeth.

Darlun digalon iawn a roddir yn yr ymchwil ddiweddaraf yn yr Adroddiad Cyflwr Natur 2019 gan y Bartneriaeth Cyflwr Natur. Mae llawer o rywogaethau yng Nghymru yn dirywio. Mae 666 o rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant ac mae 73 o rywogaethau eisoes wedi'u colli.

Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Ffermio Cynaliadwy a'n Tir, dywedir mai "gwyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth" yw un o heriau mwya'n hoes, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac argyfwng yr hinsawdd. Dywed y dylid defnyddio'r gefnogaeth i ffermwyr i wobrwyo'r sawl sy'n cymryd camau i drechu'r heriau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried cynlluniau i wobrwyo ffermwyr am reoli tir yn gynaliadwy ac am ffermio'n gynaliadwy.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'n benodol mai un o brif flaenoriaethau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw adfer bioamrywiaeth. Mae'r Pwyllgor yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru fachu ar y cyfle unigryw hwn i dargedu adnoddau tuag at fioamrywiaeth a defnyddio ei chynlluniau arfaethedig i ariannu camau i ateb yr her enfawr hon.

Bydd y cynllun i wobrwyo ffermwyr am gefnogi bioamrywiaeth yn un cymhleth a bydd yn gofyn i ffermwyr weithio gyda'i gilydd. Mae'r Pwyllgor yn cytuno â'r sawl a roddodd dystiolaeth i'w ymchwiliad bod angen ystyried sut y gall y cynllun weithio ar lefel leol, fesul fferm, tra'n sicrhau canlyniadau cenedlaethol pwysig.

Mae monitro a gwerthuso'r cynllun newydd yn hanfodol, felly mae'r Pwyllgor yn galw am sefydlu targedau penodol a mesuradwy ochr yn ochr ag unrhyw gyllid i sicrhau gwerth am arian.

Dywedodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig:

"Trechu'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yw un o heriau mwya'n hoes". Mae cyflymder a graddfa'r broblem yn wirioneddol syfrdanol.

"Gyda chynigion gan Lywodraeth Cymru yn cynnig ffordd arall o gefnogi ffermwyr, mae cyfle gwych i stopio dirywiad rhywogaethau a dechrau adfer bioamrywiaeth yng Nghymru gan sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n ffermwyr.

"Heddiw rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl ac adfer bioamrywiaeth wrth wraidd polisi ffermio'r Llywodraeth ar ôl Brexit.

"Nawr yw'r amser i weithredu cyn i ni golli rhagor o rywogaethau sydd mor hanfodol i'n hecosystem."

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, y gallai'r gefnogaeth a roddir i fioamrywiaeth fod yn ôl rhywogaeth, yn ôl cynefin neu yn ôl y dirwedd.

Eglurodd Geraint Jones, o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro:

"Enghraifft dda efallai fyddai cwm, lle dyweder, mae amddiffyn sgwarnogod yn nod y mae pawb yn cytuno arno. Byddai'r cynllun amddiffyn hwnnw'n gweithredu ar fferm unigol, ond byddai hefyd yn cael ei weithredu ar draws yr ardal gyfan, a byddai'n ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr weithio gyda'i gilydd, sy'n nod ynddo'i hun. Byddent yn monitro ac yn gweithio gyda'i gilydd, a byddai'r ardal gyfan yn uno yn y nod hwnnw. Byddai gwahanol nodau bryd hynny, a chanlyniadau gwahanol."

Mae adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru: adfer bioamrywiaeth, yn cynnwys rhestr o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.



 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru: adfer bioamrywiaeth (PDF, 2 MB)