Y Cynulliad Cenedlaethol ar y rhestr fer fel un o'r sefydliadau sy'n fwyaf ystyriol o bobl fyddar yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2015

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar restr fer gwobrau Rhagoriaeth Cymru Action on Hearing Loss Cymru.

Caiff y gwobrau eu trefnu i gydnabod llwyddiant yn darparu gwasanaethau sy'n ystyriol o bobl fyddar i'r 530,000 o bobl yng Nghymru sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.

Mae'r Cynulliad yn un o saith sefydliad ar y rhestr fer a chaiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn cinio mawreddog yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, ddydd Gwener 15 Mai.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, "Rwy'n falch o'n hanes o ddarparu cymorth i'r rheini sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw i gael gafael ar waith y Cynulliad.

"Er mwyn i ddemocratiaeth weithio'n gywir, rhaid cyrraedd pawb ledled Cymru a rhaid i'r Cynulliad, fel corff deddfu Cymru, ddangos arweinyddiaeth yn dileu rhwystrau sy'n atal rhai grwpiau o fewn ein cymdeithas rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd."

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn darparu'r canlynol:

  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod i staff;
  • Hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain i rai aelodau o staff;
  • Systemau dolen sain ar gyfer holl gyfarfodydd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol a chyfarfodydd yn ardaloedd cyhoeddus ar ystâd y Cynulliad;
  • Addasiadau rhesymol i staff sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw;
  • Darparu fideos wythnosol o gyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer y Cwestiynau i'r Prif Weinidog;
  • Goleuadau'n fflachio ar gyfer y larwm tân.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, un o Gomisiynwyr y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am faterion cydraddoldeb, "Hoffwn weld gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael i bawb.

"Rhan allweddol o hynny yw darparu gwasanaethau cymorth i bobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw a hoffwn ddiolch i dîm cydraddoldeb y Cynulliad, unwaith eto, am ddarparu gwasanaethau enghreifftiol a gydnabyddir gan bartneriaid allanol."

Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, "Hoffem longyfarch pawb ar y rhestr fer, a gaiff eu cydnabod am y camau y maent yn eu cymryd i fod yn hygyrch i'r 530,000 o bobl yng Nghymru sy'n wynebu byddardod, tinitws a cholli clyw.  Gobeithio y bydd mwy o sefydliadau ledled Cymru yn eu hystyried yn fodelau rôl o ran sut i ddarparu gwasanaethau hygyrch.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio'r wobr hon am y tro cyntaf a'r gobaith yw y byddwn yn gallu ehangu'r meini prawf yn y dyfodol i wobrwyo mwy o sefydliadau sy'n gwneud yn dda yng Nghymru."