Y Cynulliad Cenedlaethol yn arbrofi â’r Cyfryngau Cymdeithasol - gyda sesiwn Cwestiynau ac Atebion #POSenedd

Cyhoeddwyd 04/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arbrofi â’r rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.

Gofynnodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, i bobl anfon cwestiynau, drwy Twitter, mewn cysylltiad â’i hymgyrch "Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus", sy’n ceisio annog rhagor o fenywod i wneud swyddi cyhoeddus.

Gofynnwyd y cwestiynau gan ddefnyddio’r hashnod #POSenedd.

Bydd y Fonesig Rosemary nawr yn ateb y cwestiynau’n uniongyrchol drwy gyfrwng sianel YouTube y Cynulliad.

Dywedodd y Fonesig Butler: "Un o amcanion craidd y Cynulliad yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yw gwella ein hymgysylltiad â phobl Cymru".

"Wrth gwrs, rhaid i hynny gynnwys defnyddio’r sianeli cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd arloesol a chynhwysol.

"Mae hon yn ffordd gyffrous o gael pobl i gymryd rhan yn fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, sy’n ceisio mynd i’r afael ag un o’r diffygion sylfaenol yn ein system wleidyddol heddiw - hynny yw, nad oes digon o fenywod yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

"Yn sicr, roedd rhai cwestiynau diddorol, a gellir gweld fy atebion nawr ar sianel Youtube y Cynulliad."