Y Cynulliad Cenedlaethol yn arwain y ffordd ar blastig untro

Cyhoeddwyd 05/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (ddydd Mawrth 5 Mehefin), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n falch o gyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig tafladwy lle bynnag y bo modd erbyn mis Medi 2018.

Bydd cwpanau dŵr plastig yn cael eu disodli gan gwpanau bio-blastig neu bapur compostadwy wedi i'r stociau presennol gael eu defnyddio.

Bydd llestri a photiau salad tafladwy hefyd yn cael eu disodli gan blastig compostadwy sy'n dadelfennu dros amser. Mae cynwysyddion bwydydd tecawê wedi'u disodli eisoes gan rai a wnaed o gerdyn.

Bydd y Comisiwn yn codi ymwybyddiaeth o'r cynhyrchion newydd yn fewnol, ac yn annog staff i feddwl a oes angen defnyddio eitemau untro o gwbl, p'un a ydynt wedi'u gwneud o blastig ai peidio.

Cafodd y Cynulliad wared ar gwpanau coffi tafladwy o'r ystâd dros bum mlynedd yn ôl, cam y mae rhai sefydliadau sector cyhoeddus eraill ond yn ei gymryd nawr.

Nid oes unrhyw wastraff gan y Cynulliad yn mynd i safleoedd tirlenwi; mae'r Comisiwn yn casglu ac yn ailgylchu holl gynnyrch yr ystâd.

Bydd ein gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf yn edrych y tu hwnt i gael gwared ar blastig untro ac yn targedu cyflenwyr i leihau faint o ddeunyddiau lapio y maent yn eu defnyddio.

Dywedodd Caroline Jones AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac adnoddau, "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran arferion amgylcheddol a chynaliadwy ers ei sefydlu."

"Mae'r Senedd yn enghraifft wych o'n hethos gyda'i boeler biomas a'i systemau casglu dŵr glaw.

"Fel yr ydym wedi gweld ar raglenni teledu pwerus fel Blue Planet, gall plastig gael effaith ddinistriol ar ein hamgylchedd. Gyda rhwng 80 a 90 y cant o'n gwastraff yn cael ei ailgylchu, a heb anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, mae Comisiwn y Cynulliad wedi bod yn gweithio tuag at roi'r gorau i ddefnyddio plastig yn raddol ar draws ystâd y Cynulliad.

"Rwy'n falch o ddweud na fyddwn yn defnyddio plastig untro o gwbl erbyn mis Medi 2018, gan osod meincnod i sefydliadau yng Nghymru a ledled y DU ei ddilyn."

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn falch o gyhoeddi ei fod yn ddiweddar wedi cyrraedd safon ryngwladol ar gyfer rheoli'r amgylchedd.

Mae'r Comisiwn wedi gweithredu system amgylcheddol sy'n cwmpasu ei ystâd gyfan ers dros ddeng mlynedd, ond penderfynwyd yn ddiweddar i uwchraddio'r ardystiad i'r safon ISO14001 lawn.  Mae'r safon amgylcheddol hon yn mynnu bod sefydliad yn rheoli ei holl effeithiau amgylcheddol ac yn gosod targedau i'w lleihau.

Mae rhai o'r gwelliannau a wnaed gan y Cynulliad yn ddiweddar yn cynnwys:

  • peidio ag anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi;

  • lleihau ein hallyriadau ynni 27 y cant yn erbyn ein blwyddyn sylfaen;

  • newid rhagor o oleuadau i ddefnyddio bylbiau LED; a

  • gosod offer gwresogi ac oeri mwy effeithlon.