Y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar Gymru – y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi 100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Mawr

Cyhoeddwyd 31/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2015

Ar 4 Awst 1914, dechreuodd Prydain chwarae ei rhan mewn cyfnod o wrthdaro yn Ewrop a arweiniodd at yr hyn a elwir bellach y Rhyfel Byd Cyntaf - rhyfel a newidiodd cymdeithas Cymru am byth.

Wrth i ni nodi 100 mlynedd ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymuno â'r ymgyrch #LightsOut drwy ddiffodd pob golau ond un yn y Senedd rhwng 10pm ac 11pm.

Ar yr un diwrnod, bydd y Cynulliad yn cynnal trafodaeth banel ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r teitl "100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf - Cofio, dysgu, deall, galaru."

"Mae'n 100 mlynedd ers i Brydain fynd i ryfel â'r Almaen, a dechrau rhyfel byd wnaeth effeithio ar gynifer o fywydau yng Nghymru," dywedodd y Fonesig Rosemary AC, Llywydd y Cynulliad.

"Yn ystod y pedair blynedd nesaf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys darlithoedd, trafodaethau ac arddangosfeydd i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr ac i roi cyfle inni ystyried ei effaith ar Gymru a'i phobl.

"Mae'n briodol ein bod, ar ganmlwyddiant y rhyfel, yn edrych yn ôl i gofio, dysgu a datblygu gwell dealltwriaeth o'r cyfnod hwn o hanes."

Bydd y Dirprwy Lywydd, David Melding AC, yn agor y digwyddiad yn yr Eisteddfod, a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr uchel eu parch yn y maes.

Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan Lyn Lewis Dafis, sy'n Bennaeth Datblygu Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ymuno ag ef fydd Dr Gethin Matthews o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Aled Eirug, arbenigwr polisi cyhoeddus a chyfathrebu, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar draethawd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd o'r enw: "Gwrthwynebiad i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru"