Ymchwiliad newydd gan y Cynulliad ynghylch cefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg

Cyhoeddwyd 10/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/08/2018

Bydd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad mawr newydd i edrych ar yr hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

 

Fel rhan o'i ymchwiliad, bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd hyn yn cynnwys asesu'r broses o weithredu'r ddeddfwriaeth, ei heffaith a'i heffeithiolrwydd.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn rhoi cyfle i asesu penderfyniadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gyflwyno Mesur 2011, yn enwedig yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod y cyd-destun rhyngwladol ehangach, yn enwedig lle ceir enghreifftiau o ddeddfwriaeth a chynllunio ieithyddol sy'n cefnogi ieithoedd lleiafrifol.

Roedd Mesur y Gymraeg yn newid sylweddol yn y maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru.

Diddymodd Llywodraeth Cymru yr hen Fwrdd yr Iaith, gan dynnu llawer o'r gweithgareddau ar gyfer hyrwyddo'r iaith i mewn i Lywodraeth Cymru, a sefydlu Comisiynydd y Gymraeg yn ei le.

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Mae hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy osod dyletswyddau iaith, a elwir yn 'safonau', ar sefydliadau, sy'n pennu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. 

Hefyd, rhoddodd y Mesur statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, sy'n golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Ym mis Awst 2017, ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.

Mae rhai o'r cynigion mwyaf arwyddocaol yn cynnwys:

  • Diddymu Comisiynydd y Gymraeg a sefydlu prif gorff unigol – Comisiwn y Gymraeg – i hyrwyddo'r iaith a rheoleiddio safonau.
  • Trosglwyddo cyllidebau ac adnoddau ar gyfer gwaith hyrwyddo penodol arall sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i'r Comisiwn newydd.
  • Cadw safonau’r Gymraeg, ond dim ond fel y maent yn gymwys i wasanaethau.
  • Dim ond cwynion difrifol i gael eu harchwilio gan Gomisiwn y Gymraeg.
  • Llywodraeth Cymru i fod â chyfrifoldeb am wneud safonau a’u gosod.

"Mae hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg a thwf yn y defnydd hwnnw yn rhan allweddol o faniffesto Llywodraeth Cymru," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Mae wedi gosod targedau beiddgar o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddyblu'r nifer bresennol bron.

"Byddwn yn edrych yn fanwl ar effaith a manteision Mesur y Gymraeg o 2011, cyn ystyried sut y mae modd gwella deddfwriaeth a pholisi i gynnig cefnogaeth bellach.

"Rydym hefyd yn bwriadu edrych yn rhyngwladol ar amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill.

"Rwy'n galw ar unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg i gyfrannu at ein hymchwiliad."

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 14 Medi 2018. Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu fynd i dudalennau'r Pwyllgor ar y we yn gyntaf i gael rhagor o wybodaeth.

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – asesu llwyddiannau a chyfyngiadau canfyddedig y ddeddfwriaeth, ac effaith ac effeithiolrwydd safonau'r Gymraeg wrth wella gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a gwella mynediad atynt.

Asesu a yw'r fframwaith deddfwriaethol yn cefnogi'r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg a'r defnydd ohoni ynteu'n cyfyngu ar y gwaith hwn.

Persbectif rhyngwladol – casglu tystiolaeth ar ddeddfwriaeth i warchod a hyrwyddo gwaith cynllunio ieithyddol yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill.