Ymgynghoriad yr ymchwiliad coedwigaeth a choetiroedd

Cyhoeddwyd 17/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2017

​Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth Coetiroedd i Gymru.

Yn ddiweddar, rhoddodd Llywodraeth Cymru y diweddaraf i'r Pwyllgor am yr hyn y mae wedi'i gyflawni o ran ei blaenoriaethau yn y strategaeth.

Nod y Pwyllgor yw asesu i ba raddau y mae pedair thema strategol y strategaeth yn cael eu cyflawni. Hoffai wybod i ba raddau y mae pobl yn teimlo y mae Llywodraeth Cymru yn
cyflawni yn erbyn y themâu hyn.

Y themâu hyn yw:

  • Ymateb i'r newid yn yr hinsawdd – ymdopi â newid yn yr hinsawdd a helpu i leihau ein hôl-troed carbon;
  • Coetiroedd i bobl – gwasanaethu anghenion lleol o ran iechyd, addysg a swyddi;
  • Sector coedwigoedd cystadleuol ac integredig – diwydiannau arloesol a medrus yn creu cynnyrch adnewyddadwy o Gymru; ac
  • Ansawdd amgylcheddol – gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth, tirweddau a threftadaeth, a lleihau pwysau amgylcheddol eraill.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i ddysgu am:

  • sut mae'r strategaeth yn cyfrannu at gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sut y bydd yn cael ei hystyried yng nghyd-destun polisïau, cynlluniau a datganiadau sy'n dod i'r amlwg (e.e. y Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol, Cynlluniau Bioamrywiaeth a Datganiadau Ardal); a'r
  • heriau a'r cyfleoedd sy'n codi yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae coedwigoedd a choetiroedd yn ymestyn ar draws mwy na 300,000 o hectarau yng Nghymru, ac mae'r diwydiant yn werth hanner biliwn o bunnoedd i economi Cymru," meddai Mark Reckless AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Byddwn yn edrych yn fanwl ar y sector hwn, gan ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau amgylcheddol a masnachol cynaliadwy.

"Bydd gennym ddiddordeb mewn clywed barn unrhyw un sydd â buddiant yng nghoedwigaeth a choetiroedd Cymru."

Y dyddiad cau ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig yw 7 Ebrill 2017.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, gan gynnwys sut i gyfrannu tystiolaeth, ar gael ar dudalennau'r Pwyllgor.