Newidiadau i Etholiadau ac Aelodau'r Senedd: Cwestiynau Cyffredin

Cyhoeddwyd 28/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2026   |   Amser darllen munudau

Etholiad y Senedd 2026

Pryd cafodd etholiad diwethaf y Senedd ei gynnal?

Faint o bobl a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Senedd?

Sut bydd Senedd Cymru yn newid yn 2026?

Beth yw fy etholaeth?

Gwybodaeth pleidleisio

Sut mae'r system bleidleisio wedi newid?

Aelodau o'r Senedd

Pam mae angen rhagor o Aelodau ar y Senedd?

Adeilad y Senedd a logisteg

↓ A fydd angen newid dyluniad y Senedd i ddarparu ar gyfer Aelodau ychwanegol?

Ar ôl yr etholiad

A fydd Senedd Cymru yn cwrdd yn amlach?

Sawl Llywydd fydd gan y Senedd?

Sawl Gweinidog Cymru fydd?

A fydd etholiadau'r Senedd yn digwydd yn amlach?

Os bydd Aelod o'r Senedd yn gadael eu sedd, a fydd is-etholiad neu a fydd y person nesaf ar restr y blaid yn camu i’w lle?

A fydd pleidiau gwleidyddol yn gallu diweddaru eu rhestrau?

A fydd Aelodau'n cael newid pleidiau yn ystod eu tymor neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol?

 

 


 

Cwestiynau Cyffredin

 

Etholiad y Senedd 2026


Pryd cafodd etholiad diwethaf y Senedd ei gynnal?

 Cynhaliwyd etholiad diwethaf y Senedd ddydd Iau, 7 Mai 2026.

Archwiliwch ganlyniadau etholiadau blaenorol y Senedd, gan gynnwys is-etholiadau.


Faint o bobl a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Senedd?

Pleidleisiodd dros 1.2 filiwn yn etholiad diwethaf y Senedd ar 7 Mai 2026. Yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau dilys, 51.6% oedd y ganran a bleidleisiodd. Mae hyn yn cymharu â 46.6% yn etholiad 2021. Dyma oedd y lefelau pleidleisio uchaf yn unrhyw etholiad Senedd. (Mae 'pleidleisiau dilys' yn golygu papurau pleidleisio na chafodd eu difetha na'u gwrthod).

Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio erthygl sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y niferoedd a bleidleisiodd yn etholiadau blaenorol y Senedd, a'r cymariaethau ag etholiadau'r DU.

Sut bydd Senedd Cymru yn newid yn 2026?

  • 96 o Aelodau: Yn etholiad y Senedd yn 2026, cafodd 96 o Aelodau eu hethol i’r Senedd.
  • System bleidleisio newydd: Cafodd Aelodau o'r Senedd eu hethol o dan system rhestr gyfrannol gaeedig, lle roedd pleidleiswyr yn dewis naill ai plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
  • Etholaethau newydd: Mae gan Gymru 16 o etholaethau. Cafodd y rhain eu creu drwy baru 32 o etholaethau Senedd y DU ar gyfer Cymru. Mae chwe Aelod o’r Senedd wedi’u hethol ym mhob etholaeth.
  • Rheolau newydd: Bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n ymgeisio mewn etholiad yng Nghymru fod yn byw yng Nghymru.
  • Etholiadau amlach: Gan ddechrau yn 2026, bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.


Beth yw fy etholaeth?

Ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026, cafodd Cymru ei rhannu’n 16 o ardaloedd pleidleisio, a elwir yn etholaethau.

Creodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yr ardaloedd newydd drwy baru’r 32 etholaeth sydd gan Gymru ar gyfer Senedd y DU. Gwnaeth y Comisiwn hefyd ystyried ffiniau lleol, ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth, a nodweddion naturiol fel afonydd a mynyddoedd.

Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd drwy deipio eich cod post yn ein map i ddod o hyd i etholaethau.

Nôl i dop y dudalen

 

Gwybodaeth pleidleisio


Sut mae'r system bleidleisio wedi newid?

O etholiad y Senedd yn 2026 ymlaen, caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig. Mae hyn yn golygu eich bod yn dewis naill ai plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol.

Bydd y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth yn ymddangos ar y papur pleidleisio, felly byddwch yn dal i allu gweld dros bwy rydych yn pleidleisio.

Os bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau yn eich ardal, byddant yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Caiff seddi eu dyrannu ar sail canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei chael, gan ddefnyddio dull o'r enw fformiwla D'Hondt.

 

Nôl i dop y dudalen

 

Aelodau o'r Senedd

 


Pam mae angen rhagor o Aelodau ar y Senedd?

Mae'r Senedd wedi bod â’r un nifer o Aelodau ers 25 mlynedd, er gwaethaf cynnydd yn ei phwerau.

Erbyn hyn, mae gan y Senedd bwerau deddfu llawn a'r gallu i godi trethi yng Nghymru, ac ni allai wneud hynny pan gafodd ei chreu ym 1999.

Bydd cael mwy o Aelodau'n cynyddu gallu'r Senedd i edrych ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru ar faterion mawr fel y gwasanaeth iechyd, addysg a thrafnidiaeth, gan roi llais cryfach i'ch cymuned pan gaiff y penderfyniadau hyn eu gwneud.

Bydd y newidiadau’n cryfhau’r Senedd ac yn ei pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Y Senedd yw'r senedd leiaf yn y DU ac un o'r lleiaf yn Ewrop. Bydd cynyddu nifer yr Aelodau i 96 yn ei gwneud yn debycach i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.

Mae llawer o ymchwil wedi digwydd i weld a oes gan y Senedd ddigon o Aelodau.

Yn 2011, cafwyd pleidlais gyhoeddus (refferendwm) ynghylch a ddylai'r Cynulliad ar y pryd gael rhagor o bwerau deddfu. Roedd 63.5% o bleidleiswyr o blaid y newid.

Yn 2015, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad adroddiad yn edrych ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Galwodd yn unfrydol am ragor o Aelodau, gan ddweud nad oedd gan y Cynulliad ddigon o bwerau a’i fod yn cael ei or-ymestyn.

Mewn ymchwil flaenorol a gynhaliwyd gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, roedd pob un yn cydnabod yr angen am newid a thwf.

Nôl i dop y dudalen

 

Adeilad y Senedd a logisteg


A fydd angen newid dyluniad y Senedd i ddarparu ar gyfer Aelodau ychwanegol?

Bydd siambr drafod y Senedd, y Siambr, yn cael ei newid i ddarparu lle ar gyfer pob un o'r 96 o Aelodau. Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2025 a chaiff ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.

Roedd dyluniad gwreiddiol y Siambr, gan y penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners (RSHP), yn caniatáu lle i ehangu pe bai cynnydd o gwbl yn yr Aelodau. Er bod hyn yn dal yn wir, mae angen gwneud gwaith i osod pethau fel desgiau ac offer TGCh.

Rhagor o wybodaeth: 20 Mlynedd ers agor adeilad y Senedd: Y tu mewn i Senedd Cymru

 

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ar ôl yr etholiad


A fydd Senedd Cymru yn cwrdd yn amlach?

Un o'r penderfyniadau cyntaf y bydd yr Aelodau'n ei wneud ar ôl yr etholiad yw’r penderfyniad ynghylch sut i drefnu busnes y Senedd. Bydd angen iddynt drefnu amser ar gyfer y Cyfarfod Llawn (pan fydd yr holl Aelodau yn cwrdd yn y Siambr) ac ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau.

Sefydlwyd Pwyllgor Senedd y Dyfodol i gynorthwyo’r broses honno. Mae’r Pwyllgor eisoes wedi edrych ar wahanol ffyrdd o drefnu busnes y Senedd, fel ychwanegu trydydd Cyfarfod Llawn ar ddiwrnod gwahanol neu gyflwyno amserlen aml-wythnos, fel sy’n digwydd mewn rhai ysgolion. Mewn amserlen aml-wythnos, er enghraifft, byddai modd treulio’r wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar y Cyfarfod Llawn, gyda’r ail wythnos yn canolbwyntio ar faterion cymysg, a'r drydedd wythnos yn canolbwyntio ar waith y pwyllgorau.

Ar ôl edrych ar fanteision ac anfanteision pob dull, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys ei argymhellion. Fodd bynnag, Aelodau’r Senedd nesaf fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol pan fyddant yn cwrdd ar ôl yr etholiad.


Sawl Llywydd fydd gan y Senedd?

Un Llywydd ac un Dirprwy Lywydd sydd gan y Senedd bresennol. Ar ôl etholiad 2026, gall yr Aelodau ddewis ethol ail Ddirprwy Lywydd os ydynt o'r farn bod angen un.


Sawl Gweinidog Cymru fydd?

Ar ôl etholiad 2026, gall y Prif Weinidog benodi Cabinet sy’n cynnwys hyd at 17 o Weinidogion ac Dirprwy Weinidogion, neu hyd at 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd. Nid yw’r rhif hwn yn cynnwys y Prif Weinidog na'r Cwnsler Cyffredinol, sef prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.


A fydd etholiadau'r Senedd yn digwydd yn amlach?

Byddant. Bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, gan ddechrau o 2026.

 

Os bydd Aelod o'r Senedd yn gadael eu sedd, a fydd is-etholiad neu a fydd y person nesaf ar restr y blaid yn camu i’w lle?

Ni fydd is-etholiad os bydd Aelod yn gadael ei sedd rhwng etholiadau'r Senedd. Os bydd Aelod yn gadael ei sedd yn ystod y tymor, bydd y person cymwys nesaf ar restr y blaid wleidyddol y cawsant eu hethol arni yn cymryd eu lle. Os yw'r Aelod yn cael ei ethol fel ymgeisydd annibynnol, neu os nad oes rhagor o bobl gymwys ar restr y blaid wleidyddol, bydd y sedd yn parhau i fod yn wag tan etholiad nesaf y Senedd.

 

A fydd pleidiau gwleidyddol yn gallu diweddaru eu rhestrau?

Na. Unwaith y byddant yn derfynol, ni ellir diweddaru rhestrau pleidiau gwleidyddol trwy gydol y tymor. Byddant yn aros yn sefydlog fel yr oeddent ar adeg etholiad y Senedd.

 

A fydd Aelodau'n cael newid pleidiau yn ystod eu tymor neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol?

Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth a fyddai'n atal Aelod rhag newid pleidiau neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol. Ymdrinnir ag aelodaeth grwpiau gwleidyddol yn y Senedd ar hyn o bryd yn Rheolau Sefydlog (1.3) y Senedd. Bydd gan bleidiau gwleidyddol eu barn eu hunain ar hyn hefyd.

Os bydd Aelod o'r Senedd yn gadael ei sedd (er enghraifft, drwy ymddiswyddo neu gael ei anghymhwyso) ar ôl newid i blaid wleidyddol wahanol, y person sy'n cymryd ei le fydd yr ymgeisydd nesaf sy’n gymwys ac yn fodlon ar restr y blaid y cafodd ei ethol ohoni'n wreiddiol.

Pe bai rhywun, felly, yn cael ei ethol yn Aelod o Blaid A, yn ymuno â Plaid B yn ddiweddarach, ac yna yn ymddiswyddo, byddai ei sedd yn dal i fynd i'r person nesaf ar restr Plaid A. 

 

Nôl i dop y dudalen