Cymanfa'r Adar: Llais y Gylfinir

Cyhoeddwyd 22/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2023   |   Amser darllen munudau

Ysgol Bryn Coch

Noddir gan Llyr Gruffydd AS, Mark Isherwood AS a Carolyn Thomas AS

Dyddiadau: 1 Gorffennaf – 20 Gorffennaf 2023

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Drwy gydol 2022-2023, mae disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Bryn Coch wedi bod yn gweithio gyda’r artist Sean Harris i wneud animeiddiad am y gylfinir. Mae gan yr aderyn hwn statws cadwraeth coch yn y DU, ac ystyr hynny yw ei fod yn wynebu'r perygl mwyaf o ddirywiad yn y boblogaeth.

Mae disgyblion wedi ysgrifennu’r llythyr isod i ddweud rhagor wrthym am bwysigrwydd y mater hwn, ac i’w rannu ag Aelodau o’r Senedd:

Annwyl Syr/Madam,

Ysgrifennwn i ddiolch i chi ac Aelodau o'r Senedd am gytuno i gynnal ein harddangosfa ryfeddol 'Cymanfa'r Adar – Llais y Gylfinir' mewn adeilad mor bwerus a phwysig. Mae ein harddangosfa yn dangos prosiect animeiddio i ddweud wrth bobl pa mor bwysig yw’r gylfinir i Gymru.

Mae'r gylfinir yn bwysig oherwydd mae’n dosbarthu maetholion cemegol, yn gwasgaru hadau, infertebratau a microbau buddiol sy'n glynu at eu plu, eu traed a'u pigau. Mae peryglon lluosog i’r gylfinir, er enghraifft gan lwynogod, colli cynefinoedd ac yn enwedig yn sgil cynhesu byd-eang sy’n dinistrio’r amgylchedd a hefyd yn rhoi llai o leoedd i ninau chwarae gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod gennym yr hawl i amgylchedd glân a hefyd yr hawl i chwarae mewn amgylchedd glân. Mae natur a choedwigoedd ledled y byd yn prysur ddiflannu ac yn cael eu disodli gan bentrefi a threfi. Cyn bo hir, ni fyddwn yn gallu rhedeg o gwmpas mewn aer glân a thrwy goedwigoedd, ac yn lle hynny byddwn yn rhedeg heibio ffatrïoedd ac yn anadlu aer llawn mwg. Mae gennym hefyd yr hawl i fynegi ein barn, a chredwn fod hyd yn oed y lleisiau lleiaf yn bwysig, felly dyma reswm arall pam fod ein harddangosfa yn un nodedig.

Dechreuodd ein harddangosfa gyda stori a ysgrifennwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 6. Rydym wedi ei thrawsnewid yn animeiddiad anhygoel, yn y gobaith y gallwn ledaenu'r gair ymhellach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r artist gwych, Sean Harris wedi bod yn gweithio gyda ni yn ein hysgol. Mae wedi ein harwain ac wedi rhoi syniadau gwych i ni. Oni bai am ein hysgol ni a Sean Harris, efallai na fyddai rhai pobl yn gwybod o hyd pa mor bwysig yw'r gylfinir. Rydyn ni i gyd wedi cyfrannu at geisio sicrhau bod yr animeiddiad hwn y gorau eto. Gobeithio ein bod wedi llwyddo!

Rydym yn ddiolchgar am eich nawdd caredig. Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn gallu gweld ein harddangosfa yn y Senedd, ac edrychwn ni ymlaen at deithio i lawr i weld ein gwaith yn cael ei arddangos.

Yn gywir,

Disgyblion Blwyddyn 6

Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug

 

Lluniau

Gethin's storyboard; Kayla's storyboard; Orin's storyboard; Franc's storyboard