Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: 9 Rhagfyr
Amseroedd: 12.00 - 14.00 a 13.00 - 15.00
Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd
Yn addas i: Oedolion a phlant 8+ oed.
£ Am Ddim
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Ymunwch â’r artistiaid Alice a Niki Fogaty ar gyfer gweithdy hudol, lle mae creadigedd yn dod yn fyw gyda golau llusernau Nadoligaidd!
Beth i’w Ddisgwyl
Crefftau Hudolus: O dan arweiniad yr artistiaid arbennig, Alice a Niki Fogaty, gallwch ymdrochi yng nghelfyddyd gwneud llusernau gan ddefnyddio pren helyg a phapur. Eich dychymyg chi fydd yn dyrchafu’r llusernau ac yn gwneud iddynt dywynnu.
Byddwch yn Rhan o Rywbeth Arbennig: Bydd y llusernau y byddwch chi’n eu creu yn rhan ganolog o Orymdaith Llusernau’r Nadolig o amgylch Bae Caerdydd.
Carolau ar y Grisiau: Ymunwch â ni ar risiau’r Senedd ar 12 Rhagfyr i ganu carolau a chodi eich calon. Bydd eich llusernau’n rhan o’r dathliad hudolus hwn, gan greu awyrgylch arbennig i bawb ei fwynhau.
Pam Galw Heibio
Hwyl i’r Teulu: Mae’r gweithdy hwn wedi’i deilwra i gyfranogwyr 8 oed a hŷn, gan sicrhau llawenydd i oedolion a phlant fel ei gilydd.
Dangos eich Creadigrwydd: Boed yn hen law neu megis dechrau ydych chi ym myd y crefftau, mae hwn yn weithdy i bawb waeth beth fo’ch sgiliau. Byddwch yn greadigol wrth ddylunio llusern sy’n adlewyrchu eich arddull unigryw chi.
Cadwch le Nawr
Peidiwch â methu’r cyfle hwn! Cadwch le er mwyn manteisio ar y cyfle i ymgolli yn y grefft o wneud llusernau.
chevron_right
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.