Gweithdy ynghylch yr Arddangosfa ar Tiger Bay a’r Dociau

Cyhoeddwyd 29/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2023   |   Amser darllen munudau

Y Pierhead

Dydd Iau 17 Awst – gallwch alw heibio rhwng 10:30 a 12:30, a 13:30 a 15:30

   

Lluniau © Kyle legall & Prith B

Bydd yr artistiaid Kyle Legall a Prith B yn cynnal gweithdy creadigol mewn ymateb i Tiger Bay a'r Dociau: 1880au – 1950au, arddangosfa newydd yn y Pierhead a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant.

Dewisodd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant rai o'i hoff luniau o'i chasgliad ac archifau lleol eraill er mwyn dangos sut olwg oedd ar Tiger Bay a’r Dociau yn y gorffennol a sut mae pethau wedi newid.

Gallwch ymuno â ni wrth inni edrych yn agosach ar y lluniau sydd wedi'u cynnwys yn yr arddangosfa a defnyddio llungopïau i wneud ein gludweithiau ein hunain o Tiger Bay.  

Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer y teulu cyfan. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy gydol y gweithdy. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Gallwch alw heibio ar y diwrnod ei hun.