15/02/2017 - Cyllid a'r Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd 08/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/02/2017

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2017

i'w hateb ar 15 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r canfyddiadau yng Nghyllideb Werdd flynyddol ddiweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? OAQ(5)0090(FLG)

2. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd o fudd i'r cymoedd i'r gogledd? OAQ(5)0097(FLG)

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)

4. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am gyfanswm y gwariant cyhoeddus a gafodd ei wario mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru? OAQ(5)0100(FLG)
 
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0099(FLG)
 
6. Lee Waters (Llanelli): Pa gynlluniau sydd i ddefnyddio data mawr i newid y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0088(FLG)

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y pŵer cymhwysedd cyffredinol arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0086(FLG)

8. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflog teg i staff llywodraeth leol? OAQ(5)0093(FLG)

9. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn atebol i bobl leol? OAQ(5)0085(FLG)
 
10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, o fewn cyd-destun gadael yr UE? OAQ(5)0091(FLG)
 
11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leoliad Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0096(FLG)W

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y prosesau sydd gan awdurdodau lleol yng Nghymru i ymdrin â chwynion? OAQ(5)0092(FLG)
 
13. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud i sicrhau bod ei lasbrint diweddaraf ar gyfer newid i lywodraethu lleol yn addas i'r diben? OAQ(5)0084(FLG)

14. David Melding (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fabwysiadu technolegau digidol newydd i helpu dinasyddion i gymryd rhan? OAQ(5)0087(FLG)
 
15. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i gomisiynu astudiaeth o dir heb ei restru fel rhan o asesiad Llywodraeth Cymru o'r cwmpas ar gyfer trethiant gwerth tir? OAQ(5)0095(FLG)
 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch achos 24 Amwythig? OAQ(5)0023(CG)

2. Rhianon Passmore (Islwyn): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch cymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0025(CG)

3. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch statws cyfreithiol dinasyddion yr UE yng Nghymru? OAQ(5)0024(CG)

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch gorfodi cyfreithiau morol? OAQ(5)0022(CG)

5. David Rees (Aberafan): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran rhaglen Llywodraeth Cymru i godeiddio'r gyfraith? OAQ(5)0028(CG)

6. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro statws cyfreithiol Confensiwn Sewel fel y mae'n gymwys i Gymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0027(CG)

7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud o ran penodi barnwr o Gymru i'r Goruchaf Lys? OAQ(5)0026(CG)