06/02/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 31/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ionawr 2017 i'w hateb ar 6 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

 

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario dros y 10 mlynedd diwethaf, ym mhob blwyddyn ariannol, ar adnewyddu'r tu allan a thu mewn i Ladywell House yn y Drenewydd? (WAQ71978)

Derbyniwyd ateb 9 Chwefror 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (Ken Skates): The following sums have been incurred in refurbishing Ladywell House over the last 10 years:
 
Department for the Economy as Building Owner
Works to upgrade the building to comply with accessibility, disability and other landlord obligations and to improve the marketability of the building.
2009/10          £12,731.00
2010/11          £344,989.00
2011/12          £80,882.00

Office of the First Minister and Cabinet Office as Occupier of Part of the Building
Works to upgrade office accommodation on the ground and third floors occupied by Welsh Government staff.
2007/08          £17,889.40
2012/13          £14,064.40
2013/14          £1,150,303.60
2014/15          £18,242.77

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ddadansoddiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i wneud mewn cysylltiad â gwerth-am-arian i'r trethdalwr o ran yr adnoddau a chostau amser i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o gyflwyno'r Bil Undebau Llafur (Cymru)? (WAQ71979)

Derbyniwyd ateb ar 9 Chwefror 2017

Suzy Davies AC ar ran Comisiwn y Cynulliad:

Mae Comisiwn y Cynulliad yn defnyddio ystod o reolaethau a phrosesau i sicrhau bod gwerth am arian wrth wraidd y gwasanaethau y mae'n eu darparu i'r Cynulliad.

Fodd bynnag, nid yw Comisiwn y Cynulliad yn pennu cyllideb ar sail eitemau unigol o waith craffu gan y Cynulliad nac yn dadansoddi gwariant ar yr eitemau hyn. Yn lle hynny, mae Comisiwn y Cynulliad yn dyrannu adnoddau i'r gwahanol fathau o wasanaethau y mae'n eu darparu, ac mae staff yn gweithio gydag Aelodau i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r adnoddau hynny o fewn gofynion y Rheolau Sefydlog a'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Caiff y penderfyniad i gyflwyno Bil ei wneud gan yr Aelod sy'n gyfrifol, a chaiff natur y gwaith craffu dilynol ei lywio gan benderfyniadau'r Pwyllgor Busnes, pwyllgorau eraill a'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad wedi'u dylunio i ymateb i'r penderfyniadau hyn.

Cyfeiriwyd y Bil Undebau Llafur (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1, a dyddiad cau y Pwyllgor hwnnw ar gyfer cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yw 7 Ebrill 2017. Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd yn craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, a gall y Pwyllgor Cyllid (a phwyllgorau eraill) benderfynu gwneud hynny hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yw 16 Gorffennaf 2017, ar yr amod bod y Cynulliad yn derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae'r amserlen ar gyfer cyfnodau pellach (os yn berthnasol) yn fater i'r Llywodraeth.

At ddibenion enghreifftiol yn unig, caiff cyfanswm blynyddol y costau cyflog (yn ôl cyfraddau 2017/18) i'r Comisiwn o ran y prif wasanaethau sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau a ddisgrifir uchod eu dangos isod.

  • Tîm clercio (4 o staff fel arfer) ar gyfer pob pwyllgor: hyd at £166,420 x 3 y flwyddyn
  • Y Gwasanaeth Ymchwil: hyd at £140,076 y flwyddyn
  • Y Gwasanaeth Cyfreithiol: hyd at £369,218 y flwyddyn
  • Swyddogion cyfathrebu: hyd at £73,818 y flwyddyn

Mae'n bwysig iawn nodi na ellir gwahanu cost eitem unigol o waith craffu o'r symiau cyffredinol. Hefyd, nid yw'r symiau hyn yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig (er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys costau'r adeilad, offer, cyfleustodau, treuliau, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, darlledu neu unrhyw gostau i'r Aelodau). Byddai'n gamarweiniol iawn felly eu defnyddio y tu allan i'r cyd-destun hwn, heb unrhyw gafeatau.

Nid yw yr un o'n timau yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar graffu ar y Bil hwn. Bydd staff cyfathrebu, er enghraifft, fel arfer yn gweithio ar draws ystod eang o bwyllgorau, gan gefnogi ymchwiliadau polisi ac ymchwiliadau deddfwriaethol ar yr un pryd, yn ogystal ag ystod o gyfrifoldebau eraill. Yn yr un modd, gall staff y Gwasanaeth Ymchwil a'r Gwasanaethau Cyfreithiol gefnogi sawl pwyllgor, a byddant hefyd yn darparu cyngor mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol ar faterion y maent yn arbenigo ynddynt. Yn anaml iawn y bydd timau clercio'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar un eitem o waith craffu yn unig - fel arfer, bydd pwyllgorau'n craffu (neu'n paratoi i graffu) ar sawl eitem o bolisi, deddfwriaeth neu gyllid. Bydd Comisiwn y Cynulliad fel arfer yn asesu gwerth y buddsoddiad hwn i benderfynu a yw Aelodau yn fodlon ar y gwasanaethau a ddarparwyd iddynt er mwyn eu galluogi i graffu'n effeithiol. Wrth wneud y gwaith hwn, mae'n bosibl y bydd Aelodau'n gwneud gwelliannau i'r ddeddfwriaeth ei hun ac i'r ffordd y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu a/neu ddealltwriaeth y cyhoedd ohoni. Mae'r gwaith craffu ei hun yn galluogi'r Cynulliad i asesu gwerth y ddeddfwriaeth dan sylw.