15/06/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 08/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 15 Mehefin 2016

Cynnig a gyflwynwyd ar 2 Mehefin 2016

NDM6020

Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Cefnogir gan:

David Melding (Canol De Cymru) R

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mehefin 2016

Dadl Fer
 
NDM6024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):

Cyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru: Blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru

NDM6022 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
1. Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru;

2. Yn gresynu bod datganoli plismona wedi'i hepgor;

3. Yn gresynu at fethu â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; ac

4. Yn gresynu at y cyfle a gollwyd i ddatganoli gweinyddu cyfiawnder.
 
NDM6021  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.

3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew.

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.

NDM6023 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:   

    
Yn sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Mehefin 2016

NDM6028 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro; a

(ii) David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Mehefin 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6022
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r Bil fel sylfaen ar gyfer setliad cyfansoddiadol llawnach.

Yn cymeradwyo datganiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithredu yn ystod y broses ddeddfwriaethol i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru.

Yn credu bod y Bil yn cynnig cyfle i sicrhau gwell cydbwysedd i gyfansoddiad Prydain a thrwy hynny gryfhau'r Undeb.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6021
 
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnwys fel pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at doriadau i chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.