17/10/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2017

​​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 17 Hydref 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 10 Hydref 2017

NDM6529 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf 201 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Telecommunications Infrastructure (Relief from Non-Domestic Rates) Bill 2017-19 — UK Parliament

 

NDM6530 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.

Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

 

NDM6531 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.

2. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:

a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac

​b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%. 

Gwellianna​​u a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2017

​Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion

NDM6531

​1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

​Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Hydref 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion

NDM6530
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad. 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol.

Llywodraeth y DU - 'Internet Safety Strategy Green Paper'  (Saesneg yn unig)

 
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.  
 
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.

'Llywodraeth Cymru - Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig'

 
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
 
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr.
 
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd.
 
 
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
 
NDM6531
 
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.
 
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ym mhwynt 2,dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi yn ei le:

'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.'
 
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.
 
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.

 

 

 ​