Gweithiwr Achos a Swyddog Gweinyddol i Janet Finch-Saunders AS
Ystod Cyflog: £23,088 - £29,483 pro rata
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau Gweithio: 15.4
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Janet Finch-Saunders AS, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL
Cyfeirnod: MBS-110-23
Pwrpas y Swydd
Darparu cymorth gweinyddol ac etholaethol, a chymorth ar faterion cyhoeddusrwydd, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill a'r cyfryngau.
2. Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi, monitro cynnydd, a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd.
3. Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data.
4. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol.
5. Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
• Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TGCh e.e. pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau hanfodol
• Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Mostyn.Jones@senedd.cymru
Dyddiad cau: 23.59, 01 Ebrill 2024.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau