Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwil i Peter Fox AS
Ystod Cyflog: £26,153 - £38,039 pro rata
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau Gweithio: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol (Usk)/ Swyddfa Caerdydd yn Achlysurol (Senedd)
Cyfeirnod: MBS-003-24
Pwrpas y Swydd
Gwneud gwaith ymchwil/gwaith sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cadw.
Prif ddyletswyddau
1. Cynnal presenoldeb cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu o safon uchel gan ymateb i ymholiadau a sylwadau cyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen
2. Darparu ymchwil a gwybodaeth o safon uchel mewn modd amserol ynghylch ystod eang o bynciau ynghyd ag ymchwil mewn ymateb i ymholiadau yn ôl yr angen neu yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
3. Sefydlu ystod eang o gysylltiadau â’r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
4. Drafftio areithiau a chyflwyno cwestiynau llafar a / neu gwestiynau ysgrifenedig
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus
• Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dulliau o ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu
• Dealltwriaeth o’r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy’n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw’n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu’n ddifenwol
• Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Peter.Fox@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17.00, 17 Mai 2024.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau