Swyddog Cyswllt Cymunedol a Gweithiwr Achos i David Rees AS
Ystod cyflog: £26,153 - £38,039 (pro rata)
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr gyda'r opsiwn i weithio rhan amser.
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth, Aberafan
Natur y penodiad: 6 mis dros dro – gyda’r posibilrwydd o gontract barhaol
Cyf: MBS-001-24
Diben y swydd
Cysylltu ag etholwyr a sefydliadau sy'n bodoli yn yr etholaeth, neu sydd â diddordebau tu fewn yr etholaeth.
Gweithredu fel cynrychiolydd yr aelod mewn digwyddiadau/fforymau / cyfarfodydd tu fewn yr etholaeth.
I ymgymryd â gwaith achos ar ran yr Aelod.
Rhoi cymorth i'r Aelod yn ystod ei waith o fewn yr etholaeth.
Prif ddyletswyddau
1. Darparu sesiynau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo'r Aelod o'r Senedd i ddelio â gwaith achos etholaethol neu helpu i lywio dadleuon ar ystod o faterion.
2. Ymgymryd â gwaith achos ar ran Aelod o'r Senedd a llunio ymatebion terfynol i etholwyr.
3. Datblygu perthnasoedd effeithiol a chydweithio â sefydliadau cymunedol, yr awdurdod lleol, cyrff cynrychioliadol, cynghorwyr lleol, gwleidyddion eraill, grwpiau diddordeb a'r cyfryngau.
4. Datblygu perthnasoedd effeithiol a chydweithio â chydweithwyr o wahanol wasanaethau ar draws Senedd Cymru.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Profiad o ddatrys materion cymhleth gyda thactau a diplomyddiaeth
• Profiad o rôl debyg yn delio â gohebiaeth, dyddiaduron a digwyddiadau
• Ymrwymiad i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan
• Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r etholaeth a'i sefydliadau/cyrff lleol
• Profiad o ddelio â sefydliadau cymunedol.
Cymwysterau Hanfodol
Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd C neu uwch.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i David.Rees@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00, 09 Mai 2024.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau