Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026). Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau/
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Chweched Senedd
Adroddiad Gwaddol
Adroddiad Gwaddol
Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.
Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.
chevron_rightCylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.
Eilyddion y Pwyllgor
Aelodau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw:
- Hannah Blythyn AS (Cadeirydd) - etholwyd ar 17 Medi 2024
- Mick Antoniw AS - etholwyd ar 24 Medi 2024
- Tom Giffard AS – etholwyd ar 30 Ebrill 2025
- Peredur Owen Griffiths AS – etholwyd ar 30 Mawrth 2022
Pan nad oes modd i Aelod weithredu ar fater sy’n ymwneud ag adroddiad gan y Comisiynydd, caiff eilydd weithredu (yn unol a’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 22.5). Eilyddion y Pwyllgor yw:
- Rhianon Passmore AS – etholwyd ar 7 Gorffennaf 2021
- Rhun ap Iorwerth AS – etholwyd ar 7 Gorffennaf 2021
- John Griffiths AS - etholwyd ar 24 Medi 2024
- Sam Rowlands AS – etholwyd ar 30 Mawrth 2022