Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma ail bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 



Ar y dudalen hon:

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf?

Ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl

Penderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl

Tlodi ac anfantais

Budd-daliadau lles

Cysgodi diagnostig

Profiad o drawma

Ein barn ni

Cynnwys yr adroddiad

 


 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf?

13. Dywedir yn aml y bydd un o bob pedwar o bobl yn dioddef problem iechyd meddwl bob blwyddyn. Gall cydnabod hyn fod yn ddefnyddiol i leihau stigma, ac annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl eu hunain neu ofyn am gymorth. Ond, gall hefyd gelu'r ffaith y gallai rhai unigolion, grwpiau neu gymunedau wynebu risg uwch nag eraill, a bod hyn yn aml yn cael ei gysylltu ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas. Mae Blwch 1 yn nodi rhai o'r grwpiau a'r cymunedau y dywedwyd wrthym a allai fod yn wynebu risg arbennig.

 

Blwch 1:

Grwpiau y nodwyd eu bod yn wynebu risg arbennig o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl

  • Pobl o gefndiroedd sy'n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, neu sy'n byw mewn tlodi.
  • Cymunedau ethnig lleiafrifol a chymunedau sy’n cael eu diffinio gan eu hil, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr.
  • Pobl hŷn.
  • Plant a phobl iau, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o ofal, cael eu gwahardd o’r ysgol neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (“ACE”).
  • Pobl niwrowahanol gan gynnwys pobl awtistig a phobl sydd â chyflyrau fel ADHD.
  • Pobl sydd ag anabledd dysgu, neu anawsterau cyfathrebu, lleferydd neu iaith.
  • Pobl â nam ar y synhwyrau.
  • Pobl LHDTC+.
  • Merched beichiog a mamau newydd (y cyfnod ‘amenedigol’).
  • Pobl anabl, neu bobl sy'n byw â chyflwr iechyd cronig neu sydd â salwch meddwl difrifol.
  • Gofalwyr, gan gynnwys pobl sy'n gofalu am rywun sydd â salwch cronig neu derfynol, neu sydd ag anawsterau iechyd meddwl.
  • Pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
  • Menywod, fel grŵp eang.
  • Dynion, fel grŵp eang, ond yn arbennig dynion ifanc, dynion canol oed a dynion di-waith.
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Pobl ddigartref.
  • Pobl sydd wedi profi trawma, gan gynnwys trais rhywiol neu gam-drin domestig.
  • Troseddwyr neu eraill sydd wedi profi'r system cyfiawnder troseddol.
  • Pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, neu mewn cymunedau amaethyddol neu bysgota.
  • Y gweithluoedd iechyd, gofal ac addysg.

14. O fewn y grwpiau hyn, gall profiadau unigolion fod yn wahanol iawn, a gall y croestoriad o wahanol anghydraddoldebau a nodweddion waethygu effaith anghydraddoldebau gwahanol a chynyddu rhwystrau (gweler Blwch 2 am enghreifftiau). Wrth ystyried iechyd meddwl, cymorth a gwasanaethau, rhaid canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan yn hytrach na'i leihau i agweddau ar ei hunaniaeth, ei gyflwr neu ei ddiagnosis.[17]

 

Blwch 2:

Enghreifftiau o groestoriadedd ym mhoblogaeth hŷn Cymru

Gall gwahaniaethu ar sail oedran a brofir gan bobl hŷn gael ei ddwysáu gan anghydraddoldebau hirsefydlog a threiddiol megis hiliaeth neu homoffobia.[18] Mae pobl LHDTC+ hŷn yn llai tebygol o allu cael cymorth gan aelodau o'u teuluoedd o ganlyniad i wahaniaethu, a gallant hefyd fod yn llai tebygol o gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd ofn gwahaniaethu.[19]

Ar y cyfan, nododd 23 y cant o'r ymatebwyr i arolwg Age Cymru o brofiadau pobl hŷn o’r pandemig eu bod wedi ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu newydd neu ychwanegol yn ystod y pandemig. Cododd hyn i 43 y cant i bobl hŷn o gymunedau ethnig lleiafrifol. Gall mwy o gyfrifoldebau gofalu arwain at bobl yn rhoi'r gorau i waith, gyda goblygiadau cyfatebol ar gyfer eu hincwm neu ddiogelwch ariannol.[20]

15. Gall rhai o'r ffyrdd y mae gwahanol bobl yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl fod yn benodol i'r grwpiau neu gymunedau y maent yn perthyn iddynt; mae profiadau eraill yn fwy cyffredinol. Mae Blwch 3 yn crynhoi rhai o'r profiadau a ddisgrifiwyd i ni.

 

Blwch 3:

Sut mae grwpiau a chymunedau'n profi anghydraddoldebau iechyd meddwl

  • Stigma, yn cynnwys ofn cael eu barnu, colli cymorth presennol neu gael eu cosbi, er enghraifft plant yn cael eu cymryd i mewn i ofal.
  • Gwahaniaethu, gan gynnwys ar sail oedran, ethnigrwydd neu rywioldeb.
  • Rhwystrau diwylliannol a phroblemau iaith.
  • Diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau, gan gynnwys o ganlyniad i brofiadau negyddol blaenorol neu bryderon am gael eu hanwybyddu neu fod neb yn gwrando arnynt.
  • Diffyg gwybodaeth am ba help a allai fod ar gael neu sut i gael gafael arno.
  • Diffyg capasiti o fewn gwasanaethau presennol, amseroedd aros hir, trothwyon uchel ar gyfer mynediad, a bylchau neu amrywioldeb yn y ddarpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys diffyg gwasanaethau arbenigol.
  • Diffyg eglurder am brosesau atgyfeirio, prosesau atgyfeirio cyfyngol, a chael eu hallgáu o wasanaethau o ganlyniad i gysgodi diagnostig.
  • Problemau daearyddol, gan gynnwys yn ymwneud â gwledigrwydd.
  • Allgáu digidol.

16. Nid ydym wedi gallu archwilio profiadau pob grŵp neu gymuned fel rhan o un ymchwiliad. Yn wir, byddai diffinio profiadau unigolion o anghydraddoldebau iechyd meddwl ar sail eu nodweddion yn unig yn gorsymleiddio materion. Fodd bynnag, mae canolbwyntio ar brofiadau rhai grwpiau penodol (gan gynnwys y rhai a amlygwyd ym Mlwch 4) wedi ein helpu i archwilio materion systemig ehangach sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, gan gynnwys stigma a gwahaniaethu, gwasanaethau anhyblyg, a diffyg cymorth cydgysylltiedig.

 

Blwch 4:

Enghreifftiau o grwpiau rydym wedi archwilio eu profiadau o anghydraddoldebau iechyd meddwl

Pobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol a pharhaus

Er y gall unrhyw un gael cyfnodau o iechyd meddwl gwael, bydd rhai pobl yn profi salwch meddwl mwy difrifol a pharhaus. Gall hyn gael ei waethygu gan rai o'r ffactorau allanol, ehangach a drafodir drwy’r adroddiad hwn. Felly, gall pobl yn y grŵp hwn fod yn arbennig o agored i anghydraddoldebau iechyd meddwl. Yn aml nid yw eu hiechyd corfforol cystal, a gallant farw ar gyfartaledd 15 i 20 mlynedd yn gynt na'r boblogaeth gyffredinol.[21] Gall plant a phobl ifanc yn y grŵp hwn fod yn llai tebygol o dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt drwy naill ai'r dull ysgol gyfan neu fuddsoddiad mewn ymyrraeth gynnar.[22]

Roedd awgrymiadau a wnaed i wella cymorth i bobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol a pharhaus yn cynnwys ffocws cenedlaethol mwy strategol ar gynllunio a datblygu'r gweithlu, mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac arbenigol, mynediad at asesiadau iechyd corfforol rheolaidd i adnabod a thrin cydafiacheddau corfforol, ehangu rhaglenni i'w cynorthwyo i gael cyflogaeth, a mwy o eglurder ynghylch pa weithiwr iechyd proffesiynol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ofal holistaidd unigolion pan fyddant yn cael eu trin am gyflyrau corfforol ac iechyd meddwl.[23]

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod Llywodraeth Cymru wedi adolygu darpariaeth ddiogel iechyd meddwl, gwneud cynnydd o ran ymyrraeth gynnar mewn gwasanaethau seicosis, ac yn buddsoddi i wella darpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ("CAMHS") (gan gynnwys darpariaeth cleifion mewnol). Dywedodd wrthym ei bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion pobl sydd â salwch meddwl difrifol a pharhaus.[24]

 

Pobl niwrowahanol

Mae cyflyrau niwrowahanol yn cynnwys awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyspracsia a chyflyrau dysgu, iaith echddygol a chyflyrau tic eraill. Gall pobl niwrowahanol wynebu risg uwch o lawer o iselder, gorbryder, OCD, hunan-niweidio, hunanladdiad, ac afiechydon meddwl fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae cysylltiadau hefyd gydag iechyd corfforol gwaeth, gan gynnwys gordewdra, clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes ac asthma.[25] Dywedwyd wrthym gan bobl sydd â phrofiad byw o niwroamrywiaeth—gan gynnwys rhai sy'n niwrowahanol eu hunain neu sy'n ofalwyr i bobl niwrowahanol—y gall cefnogi plentyn neu berson ifanc niwrowahanol sydd ag iechyd meddwl gwael effeithio ar iechyd meddwl rhieni, gofalwyr a'r teulu ehangach.[26]

Gall yr anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl niwrowahanol eu hatal rhag ceisio cymorth, gyda chanlyniadau i unigolion, eu teuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Gall ADHD heb ei reoli arwain at gostau cudd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill fel gofal iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a'r system cyfiawnder troseddol.[27] Mae cael eu gwahardd o'r ysgol yn fwy cyffredin ymhlith pobl niwrowahanol; mae'n bosibl bod hyn yn ymwneud ag ymddygiadau sy'n deillio o gyflwr nad yw’r person wedi cael diagnosis neu gymorth ar ei gyfer. Mae pobl sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol yn llai tebygol wedyn o gael diagnosis neu gymorth, gan arwain at yr hyn y disgrifiodd yr Athro Amanda Kirby fel piblinell o’r ysgol i’r carchar. Ychwanegodd, unwaith y mae person yn y system cyfiawnder troseddol, hwyrach y bydd ei iechyd meddwl yn cael ei ystyried, ond nid y rhesymau sylfaenol, fel ADHD, o bosibl".[28]

 

Pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol

Gall rhwystrau ac anghydraddoldebau a brofir gan bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol gynnwys stigma, gwahaniaethu, diffyg ymwybyddiaeth a sensitifrwydd diwylliannol, capasiti a hyblygrwydd annigonol o ran gwasanaethau, bod ofn meddyginiaeth, gwasanaethau cyfieithu annigonol, rhwystrau ariannol, a gweithlu nad yw'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru.[29]

Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.4m yn Amser i Newid Cymru dros dair blynedd, gan gynnwys gwaith i ddeall yn well agweddau, credoau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol tuag at iechyd meddwl a chael gafael ar wasanaethau iechyd a chymorth. Dywedodd fod y camau eraill i wella gwasanaethau iechyd meddwl i gymunedau ethnig lleiafrifol yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gyda Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, ac ariannu Diverse Cymru i gyflwyno cynllun cymhwysedd diwylliannol ar draws Cymru. Ychwanegodd y bydd hybu cymhwysedd diwylliannol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.[30]

 

Plant a phobl ifanc

Gall plant a phobl ifanc wynebu risg arbennig o salwch meddwl, a hynny fel grŵp eang, cyffredinol a hefyd mewn perthynas â ffactorau fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, profiad o ofal, cael eu gwahardd o’r ysgol, neu nodweddion gwarchodedig. Mae'r pandemig wedi effeithio ar blant a phobl ifanc fel grŵp yn fwy na grwpiau oedran eraill, ac mae hefyd wedi atgyfnerthu'r anghydraddoldebau cymdeithasol a oedd yn bodoli cynt.[31] Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd wrthym ym mis Mawrth 2022 fod llawer o deuluoedd yn gweld apwyntiadau CAMHS fel y tocyn euraidd ar gyfer datrys trallod neu salwch meddwl plentyn, ond bod ffactorau cymdeithasol sylfaenol sydd angen mynd i'r afael â nhw mewn llawer o achosion.[32]

Amlygodd ein grŵp ffocws gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ("WYPMs") bryderon am bwysau yn yr ysgol a phwysau gydag arholiadau, pwysau gan gyfoedion, bwlio a delwedd corff, tlodi a chostau byw cynyddol, ac ansicrwydd am y dyfodol. Un o'r materion mwyaf arwyddocaol a adroddwyd oedd cefnogaeth annigonol gan CAMHS, gyda rhai o'r cyfranogwyr yn dweud nad oedd pobl ifanc yn gweld unrhyw bwynt troi at CAMHS, nad yw byth yn helpu, a'i fod yn cael ei weld fel jôc bron iawn.[33] Codwyd materion tebyg gan bobl ifanc a fu'n gweithio gyda Mind Cymru ar ei adroddiad Sortiwch y Switsh pan wnaethom ni a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gwrdd â nhw ym mis Tachwedd 2022 i drafod materion yn ymwneud â'r pontio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion.

 

Nôl i dop y dudalen

 

 

Ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl

Penderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl

17. Yn ystod ein gwaith rydym wedi clywed am oblygiadau iechyd meddwl nifer o ffactorau allanol, gan gynnwys ansicrwydd o ran incwm, tai gwael, gwahaniaethu ac ofn, cywilydd a sarhad, trawma, unigrwydd ac unigedd, a diffyg llais, dewis a rheolaeth. Siaradodd Mencap Cymru ar ran nifer o'r rhai a roddodd tystiolaeth pan ddywedodd:

"The key to erasing mental health inequalities is to address the underlying causes of mental ill-health We feel that for most people with a learning disability, mental health problems are not the result of an internal problem, but a result of the external."[34]

 

18. Thema gref yn y dystiolaeth oedd bod y 'model meddygol' traddodiadol o iechyd meddwl—lle mae darparu cymorth a thriniaeth yn cael ei arwain gan ddiagnosis o gyflwr—yn methu â chydnabod a mynd i'r afael ag anghenion ehangach pobl oherwydd gall yr anghenion dynol sydd wrth wraidd iechyd meddwl gwael person gael eu hanwybyddu neu fethu â chael eu harchwilio’n ddigonol. Mae'r canlyniadau'n cynnwys canolbwyntio ar driniaeth yn lle mynd i'r afael ag achosion sylfaenol; dulliau gweithio mewn seilo; a llwybrau cleifion rhy gaeth ac anhyblyg.

19. Mae gan feddyginiaeth rôl bwysig wrth drin problemau iechyd meddwl, ond clywsom bryderon ei fod yn rhy aml yn cael ei ddefnyddio fel 'rhwymyn' ar gyfer pobl sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl ac nad oes llawer yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'u problemau sylfaenol. Dywedodd Adferiad fod cyffuriau gwrthiselder yn cael eu rhagnodi’n eang ar gyfer problemau sydd angen cymorth ymarferol i’w datrys mewn gwirionedd (er enghraifft, problemau gyda thai, diweithdra neu berthnasoedd camdriniol. Ychwanegodd:

“Mewn rhai cymunedau o dan anfantais, mae gwrthiselyddion yn cael eu hystyried fel yr “unig ateb” i safon druenus o fywyd, yn enwedig i fenywod.[35]

 

20. Esboniodd Dr Jen Daffin o Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol, lle mae iechyd meddwl gwael yn deillio o ffactorau neu amgylchiadau allanol, ni all meddyginiaeth wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol na helpu pobl i newid eu hamgylchiadau, a gall y defnydd hirdymor o feddyginiaethau fod yn niweidiol mewn gwirionedd.[36] Yn yr un modd, dywedodd Andy Bell o'r Ganolfan Iechyd Meddwl y byddai mwy o gydnabyddiaeth o ffactorau sy'n gallu cyfrannu at iechyd meddwl gwael yn darparu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol, a chefnogi pobl i fyw'n dda ac i wella.[37]

21. Y flaenoriaeth gyntaf yn nogfen gyfredol Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni 2019-22, yw:

"Gwella iechyd meddwl a llesiant a lleihau anghydraddoldebau – trwy ganolbwyntio ar gryfhau ffactorau amddiffynnol".[38]

 

22. Ym mis Medi 2022, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod ffactorau amddiffynnol sy'n cyfrannu at iechyd meddwl da yn cynnwys perthnasoedd cryf, teimladau o ddiogelwch a diogeledd, gallu cael gafael ar fwyd a chynhesrwydd, cyflogaeth (ar gyfer incwm, ffocws amddiffynnol a chysylltiad), tai da, a mynediad at wasanaethau cyhoeddus cefnogol. Ychwanegodd fod dull trawslywodraethol cyfannol Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yn cael ei adlewyrchu yn ei buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd meddwl: £50m yn 2022-23 yn codi i £90m yn 2024-25.[39]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Tlodi ac anfantais

23. Cafodd y cysylltiad strwythurol rhwng tlodi ac iechyd meddwl gwael ei amlygu gan lawer. Clywsom bryderon sylweddol hefyd am effaith bosibl costau byw cynyddol ar yr anghydraddoldebau presennol. Dywedodd Dr Tracey Cooper o ICC wrthym ym mis Mai 2022 ei bod yn rhagweld y byddai'r sefyllfa i bobl sy’n wynebu risg o anghydraddoldeb iechyd meddwl yn dirywio o ganlyniad i gynnydd yng nghostau byw,[40] ac ym mis Medi 2022 dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei fod yn poeni am effaith costau byw cynyddol ar allu pobl i wresogi eu cartrefi ac i fforddio bwyd iach.[41]

24. Yn ôl Dr Jen Daffin, mae'r berthynas rhwng tlodi ac iechyd meddwl yn un ddwy ffordd—gall tlodi fod yn achos ac yn ganlyniad i iechyd meddwl gwael a thrallod. Ychwanegodd y gallai methu â chydnabod effaith tlodi fod yn rhwystr i ddod o hyd i atebion:

“…why, when we know that these things are causing people distress, would we just look to medicate that and to hide that distress? What we're seeing is not a tsunami of mental illness, but a tsunami of distress. And so the long-term solution to this, to break intergenerational cycles of mental health problems, of trauma, of distress, of poverty, is to go upstream and figure out how do we break that cycle".[42]

 

25. Wrth roi enghraifft i ddangos y pwynt hwn, nododd Andy Bell y gallai pobl y mae eu hiechyd meddwl gwael yn deillio o fyw mewn tlodi neu ansicrwydd o ran incwm, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref drwy golli tenantiaeth neu yn sgil colli taliadau morgais, gael presgripsiwn o ddulliau traddodiadol fel meddyginiaeth neu therapïau siarad. Fodd bynnag, er y gall hyn drin eu symptomau iechyd meddwl, ni fydd dulliau o'r fath yn datrys y materion sylfaenol.[43]

26. Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl wedi cyhoeddi cynigion y mae'n dadlau y gallent gynyddu incwm neu ostwng costau ar gyfer y bobl dlotaf, neu wella gwasanaethau yn yr ardaloedd â'r angen mwyaf.[44] Mae rhai o'r cynigion hyn eisoes wedi cael eu gweithredu, yn rhannol o leiaf, gan Lywodraeth Cymru (megis prydau ysgol am ddim a chyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol), ac eraill o fewn cymhwysedd datganoledig (megis gwella darpariaeth cyngor ariannol, cynyddu'r cyflenwad o dai rhent cymdeithasol sy'n ynni effeithlon, gwella mynediad at feiciau am ddim neu rad, neu leihau ysmygu). Ymhlith yr atebion eraill a awgrymwyd i ni ar gyfer mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd meddwl sy’n wynebu pobl sy'n byw mewn tlodi neu dan anfantais oedd gwella mynediad at wasanaethau cyngor ar gyfer tai a dyledion, yn ogystal â gwasanaethau fel cymorth cyfreithiol.[45] Awgrymodd Gofal a Thrwsio Cymru mai un cam ymarferol fyddai i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau fel Dŵr Cymru i gynnwys gwybodaeth am gymorth iechyd meddwl mewn llenyddiaeth cwsmeriaid.[46]

27. Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod tlodi yn ffactor allweddol mewn trallod meddwl. Disgrifiodd gostau byw cynyddol fel prif bryder Llywodraeth Cymru, ac amlinellodd gamau gweithredu gan gynnwys cymorth tanwydd i bobl ar incwm isel, camau i sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael cymorth ariannol, ac un gronfa gynghori. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru, yn 2022-23, yn gwario hyd at £1.6 biliwn ar gymorth wedi'i dargedu a chymorth cyffredinol, a chyngor a gwybodaeth yn ymwneud â chostau byw.[47]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Budd-daliadau lles

28. Awgrymodd yr Athro Rob Poole o'r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor y gallai datganoli'r cyfrifoldeb dros naill ai'r system asesu budd-daliadau neu'r system fudd-daliadau ehangach i Gymru alluogi Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi drwy fynd i'r afael â rhwystrau a allai fel arall atal pobl rhag cael mynediad at fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.[48] Gwnaed galwadau tebyg gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, a awgrymodd y gallai datganoli nawdd cymdeithasol a budd-daliadau helpu i gefnogi a grymuso pobl anabl, lleihau eu hanghenion am wasanaethau iechyd meddwl, a lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn byw mewn tlodi.[49]

 

Blwch 5:

Datganoli lles: gweithgarwch seneddol a llywodraeth diweddar

Ebrill a Mai 2018: argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd ddwywaith y dylid archwilio datganoli budd-daliadau.[50] Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn yn y ddau achos.[51]

Ionawr 2019: dywedodd y Prif Weinidog newydd ar y pryd wrth y Cyfarfod Llawn ei fod yn credu y dylid edrych ar ddatganoli gweinyddu’r credyd cynhwysol, ond y dylid gwneud hynny’n ofalus i osgoi anghydfod o ran cyllid fel y digwyddodd yn achos datganoli budd-dal y dreth gyngor.[52]

Ebrill 2019: Canfu ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru y gallai Trysorlys Cymru, yn dibynnu ar y mecanwaith penodol a ddefnyddir, elwa’n sylweddol pe bai pwerau lles yn cael eu datganoli.[53]

Hydref 2019: cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau adroddiad ar opsiynau ar gyfer gwella sut y darperir budd-daliadau yng Nghymru ac argymhellodd waith "archwilio manwl pellach i ddeall yn well beth yw costau, risgiau, agweddau gweithredu ymarferol a manteision datganoli elfen tai y Credyd Cynhwysol".[54] Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen ystyried ymhellach ei safbwynt ar ddatganoli unrhyw rannau o'r system nawdd cymdeithasol.[55]

Rhagfyr 2021: Ymrwymodd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i "ymchwilio i'r seilwaith sy’n angenrheidiol i baratoi ar gyfer datganoli'r gwaith o weinyddu lles".[56] Roedd hyn yn adlewyrchu'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sydd hefyd yn nodi y byddai angen "trosglwyddo’r cymorth ariannol priodol i gyd-fynd â throsglwyddo pŵer o’r fath".[57]

Mawrth 2022: argymhellodd Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin y dylid sefydlu Bwrdd Cynghori Rhyngweinidogol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar Nawdd Cymdeithasol, a ddylai (ymhlith pethau eraill) asesu rhinweddau posibl datganoli'r gwaith o weinyddu’r un budd-daliadau i Gymru ag a ddatganolwyd i'r Alban.[58] Gwrthododd Llywodraeth y DU y ddau argymhelliad, gan ddweud nad oedd unrhyw fwriad ganddi i ddatganoli nawdd cymdeithasol i Lywodraeth Cymru.[59]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Cysgodi diagnostig

29. Gall methu â defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ystyried penderfynyddion ehangach iechyd meddwl arwain at gysgodi diagnostig, lle rhoddir gormod o ffocws ar brif ddiagnosis y person. Gall pobl gael eu hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng gwahanol wasanaethau neu eu hallgau o wasanaethau yn gyfan gwbl. Dyma rai o’r materion penodol a godwyd gyda ni:

  • Gall pobl sydd wedi cael diagnosis o anhwylderau personoliaeth wynebu risg arbennig o stigma neu ddiffyg cymorth. Mae hyn yn aml yn cynnwys menywod sydd wedi profi camdriniaeth neu drais, ac rydym wedi clywed y gallant weithiau gael diagnosis amhriodol o anhwylderau personoliaeth pan allai eu symptomau fod yn ymatebion arferol i drawma mewn gwirionedd.[60] Yn ôl Andy Bell, gall pobl sydd â diagnosis o'r fath gael triniaeth negyddol gan weithwyr iechyd proffesiynol, gael eu beio neu wynebu stigma am eu profiadau, profi trafferth yn cael cymorth, neu brofi diffyg tosturi.[61]
  • Gellir ystyried problemau iechyd meddwl fel canlyniad anochel niwrowahaniaeth, gan adael pobl niwrowahanol yn methu â chael cymorth iechyd meddwl.[62]
  • Gall pobl sydd ag anabledd dysgu ganfod bod eu hymddygiad yn cael ei ystyried yn rhan o'u hanabledd dysgu neu eu cyflwr, neu’n cael ei briodoli iddo, pan fyddant mewn gwirionedd yn profi iechyd meddwl gwael neu hyd yn oed argyfwng iechyd meddwl.[63]
  • Mae camddefnyddio sylweddau yn gallu bod yn symptom o iechyd meddwl gwael ac yn ganlyniad i iechyd meddwl gwael, ond gall gweithio mewn seilos olygu bod cymorth ar gyfer iechyd meddwl yn cael ei wrthod hyd nes bod y problemau camddefnyddio sylweddau yn cael sylw. Ceir llwybrau triniaeth ar gyfer 'diagnosis deuol' (hynny yw, ar gyfer problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau), ond efallai na fyddant yn gweithio'n effeithiol ledled Cymru.[64]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Profiad o drawma

30. Mae trawma yn deillio o ddigwyddiad, cyfres o ddigwyddiadau, neu gyfres o amgylchiadau y mae unigolyn yn eu profi fel rhai niweidiol yn gorfforol neu’n emosiynol neu fel rhai sy’n bygwth bywyd, ac sy’n cael effeithiau andwyol parhaol ar weithrediad neu les meddyliol neu gorfforol yr unigolyn. [65] Gydol ein hymchwiliad rydym wedi clywed bod trawma yn un o achosion pwysig iechyd meddwl gwael, ond nad yw modelau gwasanaeth iechyd meddwl traddodiadol yn ei ystyried yn ddigonol. Dywed Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol fod hyn yn parhau annhegwch iechyd meddwl gan ei fod yn cuddio’r atebion angenrheidiol o’r golwg. [66] Gan ehangu ar y pwynt hwn mewn tystiolaeth lafar, dywedodd Dr Jen Daffin fod gan 81 y cant o bobl sy’n cael diagnosis o anhwylderau personoliaeth hanes o drawma, ond bod cysgodi diagnostig, ynghyd â methiant i archwilio trawma unigolion, yn eu hatal rhag derbyn cymorth ar gyfer eu trawma neu faterion sy'n gysylltiedig â thrallod.[67]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

31. Credwn, fel cymdeithas, ac fel llunwyr polisïau, fod angen i ni ddatblygu naratif cyffredin a chydlynol am iechyd meddwl sy'n glir bod iechyd meddwl yn golygu mwy na phresenoldeb neu absenoldeb salwch meddwl. Er bod angen i ni sicrhau bod cefnogaeth effeithiol i bobl sy'n profi amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, mae angen i ni hefyd adeiladu a chynnal mwy o ffocws ar achosion salwch meddwl a'r hyn sydd ei angen i greu llesiant meddyliol da, a dealltwriaeth o’r rhain. Byddai hyn yn helpu i leihau stigma, a gwella dealltwriaeth nad yw trallod llawer o bobl yn deillio o rywbeth sydd o'i le arnynt, yn hytrach mae'n ymateb dealladwy i'w hamgylchedd, eu hamgylchiadau a/neu ddigwyddiadau andwyol. Mae hyn yn golygu cydnabod bod iechyd meddwl yn gymhleth, gyda llawer o ffactorau yn cydadweithio gan gynnwys amgylchiadau meddyliol, corfforol, ysbrydol ac allanol. Yn ogystal, ar gyfer iechyd meddwl da, rhaid diwallu anghenion 'perthynol' pobl (h.y. cael perthynas ddiogel a chefnogol gyda theulu, ffrindiau, a chymunedau) hefyd.

32. Mae iechyd meddwl, i raddau helaeth, wedi’i ffurfio gan yr amgylcheddau cymdeithasol, economaidd a ffisegol y mae pobl yn byw ynddynt. Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, ond mae rhai grwpiau o bobl mewn perygl anghymesur. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru, wrth iddi ddatblygu ei strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl, i adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd gennym, ac i fyfyrio a fydd ei strategaeth yn diwallu’n ddigonol anghenion amrywiol y grwpiau niferus a allai fod mewn perygl.

33. Rydym yn cytuno â'r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor nad yw anghydraddoldebau iechyd meddwl, fel mathau eraill o anghydraddoldeb, yn effeithio ar grwpiau arwahanol, difreintiedig yn unig. Yn hytrach, byddai pob sector o gymdeithas yn profi buddion diriaethol o leihau anghydraddoldeb. [68] Yn anffodus, nid ydym yn byw mewn cymdeithas sy'n hollol gynhwysol, sy’n derbyn gwahaniaethau, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. I ormod o lawer o bobl, mae rhwystrau sylweddol rhag cael mynediad at wasanaethau, cyfleoedd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd. Mae'r rhai sy'n profi anfantais a gwahaniaethu mewn cymdeithas yn wynebu risg uwch o lawer o iechyd meddwl gwael, a hefyd yn llai tebygol o allu cael mynediad at gymorth priodol. Mae pa mor agored yw pobl i broblemau iechyd meddwl yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig a ffactorau eraill fel tlodi, tai annigonol, a diffyg mynediad at addysg neu gyflogaeth.

Argymhelliad 1

Ni fydd iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn gwella, ac mewn gwirionedd gall barhau i ddirywio, oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i gydnabod a mynd i'r afael ag effaith trawma, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael. Rhaid i'r neges hon, ynghyd ag uchelgais glir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.

34. Nod strategaeth iechyd meddwl bresennol Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â'r ystod o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl drwy weithio ar draws portffolios Gweinidogol. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu'r dull trawsbynciol hwn, rhaid inni gydnabod nad yw pob un o'r ysgogiadau polisi, deddfwriaethol ac ariannol sydd eu hangen i fynd i'r afael â thlodi neu benderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. Mae eraill yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, a dim ond ceisio dylanwadu ar y defnydd ohonynt y gall Llywodraeth Cymru ei wneud.

Argymhelliad 2

Yn ddelfrydol yn ei hymateb i’n hadroddiad, ond erbyn Gorffennaf 2023 ar yr hwyraf, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arfarniad gonest o ba ysgogiadau polisi, deddfwriaethol ac ariannol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a phenderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl sydd o fewn rheolaeth Lywodraeth Cymru, a pha rai sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth y DU. I gyd-fynd â'r arfarniad hwn, dylid cael asesiad realistig o’r graddau y gall Llywodraeth Cymru wella iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, a gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yr ysgogiadau sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio i sicrhau’r effaith orau wrth wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru.

35. Mae effaith costau byw cynyddol a'r pwysau cynyddol ar gyllid y cartref ar iechyd meddwl a llesiant yn bryder dybryd. Rydym yn croesawu’r cymorth gyda biliau ynni i bobl ar incwm isel, a'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr a theuluoedd agored i niwed yn gallu cael mynediad at gymorth. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd llawer o unigolion a theuluoedd yn dal i'w chael hi'n anodd, gyda goblygiadau i'w hiechyd meddwl a'u llesiant, a rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi.

36. Nodwn yr awgrym y gallai datganoli budd-daliadau, neu’r gwaith o weinyddu budd-daliadau, fod yn fecanwaith ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant. Rydym hefyd yn nodi ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn hyn o beth. Mae safbwyntiau gwahanol o fewn y Pwyllgor ynglŷn ag a fyddai hyn yn effeithiol neu'n briodol. Fodd bynnag, rydym i gyd yn cytuno y byddai'n helpu i lywio'r drafodaeth pe bai gwaith archwiliadol Llywodraeth Cymru yn cynnwys comisiynu adolygiad annibynnol, ac ymchwil bellach pe bai ei hangen, i'r effaith y byddai unrhyw ddatganoli o'r fath yn ei chael ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru.

Argymhelliad 3

Erbyn mis Rhagfyr 2023, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r dystiolaeth bresennol, ac ymchwil bellach pe bai ei hangen, i archwilio effaith system les y DU ar iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, a pha effaith y gallai datganoli lles a/neu’r gwaith o weinyddu lles ei chael ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru. Dylai'r adolygiad a'r ymchwil ystyried materion yn ymwneud ag egwyddor, yn ogystal ag ymarferoldeb a goblygiadau ariannol cysylltiedig cadw'r sefyllfa bresennol neu unrhyw ddatganoli pellach. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi canlyniad yr adolygiad a'r ymchwil.

37. Er efallai na fydd salwch meddwl difrifol a pharhaus yn cael ei achosi gan benderfynyddion allanol ehangach iechyd meddwl, gall ffactorau megis iechyd corfforol gwael, incwm ansicr a thangyflogaeth waethygu'r salwch meddwl gwaelodol. Rydym yn croesawu'r newyddion gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ei bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion pobl sydd â salwch meddwl difrifol a pharhaus. Yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael y driniaeth a'r gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt, rhaid cymryd camau hefyd i liniaru'r niwed a all ddeillio o ffactorau fel iechyd corfforol gwaeth a chyflogaeth ansicr.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd y strategaeth iechyd meddwl newydd yn sicrhau y bydd pobl â salwch meddwl difrifol a pharhaus yn cael mynediad rheolaidd at archwiliadau iechyd corfforol, a pha gamau a fydd yn cael eu cymryd i leihau effaith ffactorau fel tlodi, anfantais a chysgodi diagnostig ar y grŵp hwn.

38. Mae'n bryder sylweddol i ni fod cyfranogwyr yn ein grŵp ffocws o Senedd Ieuenctid Cymru wedi dweud wrthym fod pobl ifanc yn gweld darpariaeth CAMHS fel jôc ac nad oeddent yn gweld unrhyw bwynt i atgyfeiriadau at CAMHS oherwydd amseroedd aros hir, cymorth yn cael ei wrthod, neu eu bod yn cael cynnig cymorth annigonol. Gwnaeth ein trafodaethau gyda phobl ifanc sydd wedi cael profiad o drosglwyddo o CAMHS i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion hefyd amlygu problemau sylweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a wnaed gan Mind Cymru yn ei adroddiad ym mis Mai 2022, Sortiwch y Switsh.[69]

39. Yn ei adroddiad diweddar, Meddyliau Iau o Bwys, galwodd Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant Senedd Ieuenctid Cymru am adolygu a diwygio CAMHS. Wrth wneud yr argymhelliad, dywedodd:

“Argymhellodd y Senedd Ieuenctid gyntaf y dylid adolygu CAMHS fel mater o frys, er mwyn lleihau amseroedd aros a darparu'r cyllid a'r capasiti i ddarparu cymorth Mae ein hymgynghoriad yn dweud wrthym fod dirfawr angen mwy o waith yn y maes hwn, gan fod y materion a amlygwyd gan ein rhagflaenydd yn 2020 yr un mor berthnasol heddiw, a gall yr effaith y mae’n ei chael ar bobl ifanc yn y cyfamser fod yn ddinistriol.

[…]

Rydym am weld CAMHS yn cael eu diwygio a'i hailwampio. Gwyddom fod y system yn methu, ac oherwydd hyn yr ydym yn poeni na chaiff y buddsoddiad ariannol pellach hwnnw’r effaith a ddymunir”.[70]

 

40. Rydym yn cytuno gyda Senedd Ieuenctid Cymru bod angen gwaith ar fyrder i sicrhau bod CAMHS yn addas i’r diben, ac rydym yn galw’n daer ar Lywodraeth Cymru i ystyried ac ymateb i’r argymhellion yn Meddyliau Iau o Bwys.

 

Nôl i dop y dudalen

 

 


 

 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

Cyfeiriadau
[17] Rydym yn archwilio materion sy'n ymwneud â gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ym mhennod 0.

[18] Cofnod y Trafodion [paragraff 262], 24 Mawrth 2022

[19] MHI85 Age Cymru

[20] MHI85 Age Cymru

[21] Cofnod y Trafodion [paragraff 8], 6 Gorffennaf 2022

[22] MHI54 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

[23] Cofnod y Trafodion [paragraff 16], 6 Gorffennaf 2022; MHI65 Cymdeithas Fferyllol Frenhinol; MHI 73 Is-grŵp Iechyd Meddwl Cynghrair Iechyd Meddwl a Llesiant Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru

[24] Cofnod y Trafodion [paragraff 125-126], 28 Medi 2020

[25] Cofnod y Trafodion [paragraff 32], 8 Mehefin 2022

[26] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafodaeth â rhanddeiliaid, 8 Mehefin 2022

[27] Sefydliad MHI01 ADHD

[28] Cofnod y Trafodion [paragraff 30], 8 Mehefin 2022

[29] Cofnod y Trafodion [paragraffau 218, 233, 271, 311, 322 a 343], 19 Mai 2022

[30] Cofnod y Trafodion, paragraff 88, 28 Medi 2020

[31] Cofnod y Trafodion [paragraff 276], 24 Mawrth 2022

[32] Cofnod y Trafodion [paragraff 282], 24 Mawrth 2022

[33] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: grŵp ffocws Senedd Ieuenctid Cymru, 10 Hydref 2022

[34] MHI32 Mencap Cymru

[35] MHI62 Adferiad Recovery

[36] Cofnod y Trafodion [paragraff 36], 4 Mai 2022

[37] Cofnod y Trafodion [paragraff 174], 24 Mawrth 2022

[38] Llywodraeth Cymru, Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl 2019 i 2022, 23 Tachwedd 2021

[39] Cofnod y Trafodion [paragraffau 12-13], 28 Medi 2022

[40] Cofnod y Trafodion [paragraff 132], 19 Mai 2022

[41] Cofnod y Trafodion [paragraff 189], 21 Medi 2022

[42] Cofnod y Trafodion [paragraff 59], 4 Mai 2022

[43] Cofnod y Trafodion [paragraff 185], 24 Mawrth 2022

[44] Canolfan Iechyd Meddwl, Briefing: Poverty, economic inequality and mental health, Gorffennaf 2022, tt.13-14

[45] Cofnod y Trafodion [paragraffau 13 ac 106] 4 Mai 2022

[46] MHI39 Gofal a Thrwsio Cymru

[47] Cofnod y Trafodion [paragraffau 132-133], 28 Medi 2022

[48] Cofnod y Trafodion [paragraffau 13 a 106], 4 Mai 2022; Gwybodaeth ychwanegol gan yr Athro Rob Poole, y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor (Saesneg yn unig), Mai 2022

[49] MHI37 Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

[50] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru, Ebrill 2018, argymhelliad 10; Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel, Mai 2018, argymhelliad 23

[51] Llywodraeth Cymru, Ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru, Mehefin 2018 Llywodraeth Cymru, Ymateb i Gwneud i'r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel, Gorffennaf 2018

[52] Cofnod y Trafodion Cyfarfod Llawn [paragraff 189], 15 Ionawr 2019

[53] Canolfan Llywodraethiant Cymru, Devolving Welfare: How well would Wales fare? Assessing the fiscal impact of devolving welfare to Wales, Ebrill 2019

[54] Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well, Hydref 2019, argymhelliad 11

[55] Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, 20 Mai 2020

[56] Llywodraeth Cymru, Rhaglen Lywodraethu: diweddariad, 7 Rhagfyr 2021

[57] Llywodraeth Cymru, Y Cytundeb Cydweithio: rhaglen bolisi lawn, 1 Rhagfyr 2021

[58] Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, The benefits system in Wales 9 Mawrth 2022, paragraffau 118 a 161

[59] Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, The Benefits System in Wales: Government response to the Committee’s Fourth Report of Session 2021–22, and correspondence from the Welsh Government, 22 Mehefin 2022

[60] MHI70 Platfform

[61] Cofnod y Trafodion [paragraff 214], 24 Mawrth 2022

[62] MHI08 Parents Voices in Wales CIC

[63] MHI32 Mencap Cymru

[64] MHI60 The Wallich

[65] King’s Fund, Tackling poor health outcomes: the role of trauma-informed care, 14 Tachwedd 2019

[66] MHI36 Seciolegwyr dros Newid Cymdeithasol

[67] Cofnod y Trafodion [paragraff 52], 4 Mai 2022

[68] MHI43 Canolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas

[69] Mind Cymru, Sortiwch y Switsh: profiadau pobl ifanc yn symud o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol i wasanaethau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru, Mai 2022

[70] Senedd Ieuenctid Cymru, Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant, Meddyliau Iau o Bwys, Tachwedd 2022