Caiff iechyd meddwl ei 'wneud mewn cymunedau'

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munud

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma bedwaredd bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


 

Ar y dudalen hon:

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Rôl cymunedau

Cyllid

Ein barn ni

Cynnwys yr Adroddiad

 


 

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Rôl cymunedau

82. Mae gan gymunedau rôl hanfodol wrth atal salwch meddwl, hybu a diogelu llesiant meddyliol, a chefnogi pobl sy'n byw gyda salwch meddwl. Yn ôl Dr Jen Daffin, mae perthnasoedd a chysylltiadau yn amodau allweddol sydd eu hangen ar i bobl ffynnu, gan ddweud bod perthnasoedd diogel a chefnogol gyda theuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn darparu diogelwch, ystyr, pwrpas ac ymddiriedaeth[132]

83. Rydym wedi clywed galwadau gydol ein gwaith am fwy o fuddsoddi mewn cymunedau, ac i adeiladu gallu grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i ddatblygu a darparu gwasanaethau, gan gynnwys gwella mynediad i hybiau cymunedol. Siaradodd Andy Bell ar ran lawer o bobl pan ddywedodd:

 

“…put simply, mental health is made in communities. We often think about mental health as being a deficit—you either have perfect mental health or you have mental illness. And, of course, the reality is much more complex than that, and good mental health is something you have to go out and make—it doesn't just happen in the absence of mental illness, if you like. And one of the things that we observe is that it's in communities where you create the conditions for people to have good mental health, when that community is a local area or a neighbourhood, whether it's a school, whether it's a digital community—whatever it is, that's where we protect and promote good mental health".[133]

 

84. Clywsom alwadau am ddull cymunedau cyfan o gefnogi llesiant er mwyn adeiladu ar y dull gweithredu ysgol gyfan sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Yn y dull hwn byddai’r partneriaid i gyd yn cydweithio'n fwy effeithiol, gan gynnwys gwasanaethau statudol a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Awgrymodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y dylai llywodraeth leol gael rôl fwy amlwg mewn trafodaethau am wella a darparu cymorth iechyd meddwl:

 

“…for example, broadening the use of parks and green space, championing wellbeing in new planning requirements, supporting adult learning, improving access to leisure centres and sports facilities, or improving community links with local artists and cultural events".[134]

 

85. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Cysylltu Cymunedau ym mis Chwefror 2020.[135] Mae'r strategaeth yn nodi y gall Llywodraeth Cymru feithrin amgylcheddau lle mae cysylltiadau cymunedol yn cael eu hehangu a'u dyfnhau trwy "sicrhau bod y sylfeini angenrheidiol wedi’u gosod i ddod â hwy at ei gilydd ac i ddarparu'r gwasanaethau y mae ar bawb ohonom eu hangen i aros yn iach, i ddysgu, i gael gwaith, ac i greu ffyniant". Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod gan bob rhan o'r Llywodraeth rôl i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac mae’n ymrwymo i sefydlu grŵp cynghori trawslywodraethol ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i oruchwylio gweithrediad y strategaeth. Pan ofynnwyd i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaeth Cymdeithasol am hyn, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid fel ICC, Samariaid a Mind Cymru hefyd. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod taclo unigrwydd ac ynysigrwydd yn agenda mor enfawr fel mai dim ond hyn a hyn, mewn gwirionedd, y gallwn ei wneud.[136]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Cyllid

86. Mae yna eisoes lawer o brosiectau a mentrau cymunedol a thrydydd sector yn cael eu harwain gan anghenion gwahanol grwpiau a chymunedau ac yn diwallu’r anghenion hynny. Ond roedd diffyg cyllid cynaliadwy hirdymor yn bryder sylweddol. Dywedodd Diverse Cymru:

 

“Longer term funding of services, including services commissioned from third sector and community groups and organisations, is vital to ensuring that services can focus on meeting the needs of different groups and communities and developing specialist services, rather than winding up and down every 3 years”.[137]

 

87. Yn ystod ein hymweliad ag EYST Cymru, cawsom wybod bod yn rhaid neilltuo adnoddau staff sylweddol i baratoi ceisiadau ariannol newydd wrth i brosiectau gyrraedd diwedd eu cyfnod cyllido, hyd yn oed pan fo prosiectau wedi bod yn llwyddiannus. Mae cyllid ansicr hefyd yn peri’r risg o golli aelodau gwerthfawr o staff, a'r cysylltiadau a'r ymddiriedaeth y maent wedi'u meithrin gyda'u cymunedau.[138]

88. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd Cysylltu Cymunedau gwerth £1.5m dros dair blynedd yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad sydd â’r nod o ddod â phobl at ei gilydd i wneud cysylltiadau cymdeithasol yn eu hardaloedd lleol. Roedd hi'n cydnabod y gallai cyllid tymor byr achosi problemau sylweddol i gyrff gwirfoddol. Dywedodd y byddai grantiau Cysylltu Cymunedau yn para hyd at dair blynedd, a gallai grantiau o dan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ("HCRIF") bara hyd at bum mlynedd.[139] Roedd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cytuno ynghylch pwysigrwydd cyllid cynaliadwy mwy hirdymor, ond nododd fod hyn yn dibynnu ar gael setliadau cyllideb amlflwyddyn gan Lywodraeth y DU. Yn dilyn ymarfer mapio i nodi sefydliadau lleol yn y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, dywedodd fod £5m wedi'i glustnodi i fyrddau iechyd ar gyfer gwario ar ddarpariaeth gwasanaethau'r trydydd sector yn eu hardaloedd er mwyn gwella cynaliadwyedd cyllido.[140]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

89. Nid mater i’r GIG neu wasanaethau arbenigol yn unig yw iechyd meddwl; mae’n fater iechyd cyhoeddus mwy eang o lawer. Mae angen gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl, ond mae angen llawer mwy o ffocws arnom hefyd ar atal, ar fynd i'r afael â'r materion sy'n gwneud iechyd a llesiant y boblogaeth yn waeth yn y lle cyntaf, ac ar gefnogi cymunedau i adeiladu, cynnal a meithrin iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. Mae hyn oherwydd bod iechyd meddwl yn cael ei wneud mewn cymunedau. Mae cymunedau yn chwarae rôl hanfodol o ran atal - maent yn meithrin ac yn diogelu llesiant meddyliol - yn ogystal â chefnogi pobl sydd â salwch meddwl.

90. Er bod gwybodaeth ar gael mewn rhai rhannau o Gymru am y gwasanaethau cymunedol sydd ar gael, gall hyn fod yn anghyson ledled Cymru ac nid yw bob amser yn glir pwy sydd wedi coladu’r wybodaeth, pa mor gyfredol ydyw, na phwy sy’n gyfrifol am ei chynnal. Mae hyn, ynghyd â diffyg dull strategol cenedlaethol a/neu ranbarthol o ddatblygu gwasanaethau cymunedol, yn ei gwneud hi'n anodd i unigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol wybod pa wasanaethau neu gymorth a allai fod ar gael neu ble y gall fod bylchau y mae angen mynd i'r afael â nhw. Gall hefyd arwain at ddyblygu, os nad yw cyrff gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd i goladu neu gynnal gwybodaeth. Tynnodd ein grŵp cynghori sylw at broblemau'n ymwneud â hygyrchedd cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol, a'r angen i hysbysebu a hyrwyddo pa wasanaethau sydd ar gael yn well. Yn yr un modd, dywedodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wrthym fod angen gwasanaeth sgwrsio ar-lein, dienw i gefnogi pobl ifanc.[141] Mae gwasanaethau o'r fath yn bodoli eisoes, er enghraifft y rhai sy'n cael eu darparu gan Papyrus a Meic Cymru, ond mae'n amlwg os nad yw Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru sydd eu hunain yn archwilio materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn ymwybodol ohonynt, bod angen gwneud mwy i'w hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth.

91. O ran gwasanaethau i blant a phobl ifanc, hwyrach y bydd y fframwaith NEST/NYTH newydd[142] a ddatblygwyd gan y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn helpu i gyfrannu at ddull mwy strategol o weithredu, ond nid yw hyn yn ymestyn i oedolion. Mae'n gadarnhaol bod ymarfer mapio wedi'i wneud i nodi sefydliadau lleol y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn llywio dyraniad cyllid.[143] Fodd bynnag, gellid a dylid defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd hefyd i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r sefydliadau a'r gwasanaethau sy'n bodoli i gefnogi pobl â'u hiechyd meddwl a'u llesiant, ac i nodi a yw'r sefydliadau sy'n weithredol ym mhob ardal yn diwallu’r ystod lawn o anghenion yn eu cymunedau. Dylai hyn gynnwys, er enghraifft, a oes digon o lefydd a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ar draws y sbectrwm oedran.

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio canlyniadau ei hymarfer mapio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol diweddar i gydgynhyrchu cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau cymunedol a digidol sydd ar gael yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru. Dylai'r cyfeiriadur fod yn hygyrch i'r cyhoedd, a dylai gynnwys gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael a sut i’w gael, yn cynnwys a oes angen atgyfeiriad.

92. Yn ein hadroddiad Aros yn iach?, aethom ati i ofyn am sicrwydd y byddai dychwelyd i gyllidebau amlflwyddyn i Lywodraeth Cymru yn arwain at sicrwydd cyllid mwy hirdymor i sefydliadau'r trydydd sector.[144] Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad. [145] Mae hyn i'w groesawu, gan fod ansicrwydd ynghylch cyllid yn cael effeithiau niweidiol sylweddol, gan gynnwys neilltuo amser ac adnoddau anghymesur i geisiadau ariannu yn hytrach na darparu gwasanaethau, y risg o golli personél allweddol a'u gwybodaeth, eu harbenigedd a'u cysylltiadau, a niwed i ymddiriedaeth rhwng gwasanaethau a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rydym hefyd yn rhannu barn ein grŵp cynghori y dylai sefydliadau cymunedol allu cael mynediad at gymorth digonol i helpu gyda chostau sefydlu a rhedeg, a bod angen gwaith i wella hygyrchedd y broses ymgeisio. Mae’r camau a gymerwyd gan y Dirprwy Weinidogion i gynyddu cynaliadwyedd a sefydlogrwydd cyllid ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector drwy ddarparu grantiau mwy hirdymor, gan gynnwys y rhai o'r HCRIF, i’w croesawu. Fodd bynnag, ni ddylai cyllid grant untro, hyd yn oed dros gyfnodau hirach, ddisodli cyllid craidd parhaus i sefydliadau neu wasanaethau sy'n gallu dangos manteision parhaus eu gwaith i'w cymunedau.

93. Nid ydym wedi'n hargyhoeddi eto bod mater cynaliadwyedd cyllid ar gyfer sefydliadau trydydd sector a chymunedol wedi'i ddatrys, a byddwn yn parhau i fonitro'r mater hwn.

 

Nôl i dop y dudalen

 


 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

 

Cyfeiriadau

[132] Cofnod y Trafodion [paragraff 18], 4 Mai 2022

[133] Cofnod y Trafodion [paragraff 197], 24 Mawrth 2022

[134] MHI55 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

[135] Llywodraeth Cymru, Cysylltu Cymunedau: strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach, Chwefror 2020

[136] Cofnod y Trafodion [paragraff 473], 28 Medi 2022

[137] MHI61 Diverse Cymru

[138] Anghydraddoldebau iechyd meddwl | Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol | yn cau ar 24/2

[139] Cofnod y Trafodion 22 Medi para 118 a 120

[140] Cofnod y Trafodion, paragraff 473, 16 Medi 2021

[141] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Grŵp ffocws Senedd Ieuenctid Cymru, 10 Hydref 2022

[142] Mae NEST/NYTH yn offeryn cynllunio ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Ei nod yw sicrhau dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant i blant a'u teuluoedd.

[143] Cofnod y Trafodion [paragraff 48], 28 Medi 2022

[144] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, Ebrill 2022.

[145] Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 30 Mai 2022